Archebu smŵddis
ZAC Mmm, smŵddis. Dw i’n hoffi smŵddis.
ZOE Mmm, a fi! Pam wyt ti’n hoffi smŵddis?
ZAC Achos maen nhw’n flasus!
ZOE Mm-hmm! Ydyn! Beth am gael smŵddi?
ZAC Syniad da! Ga i smŵddi plîs? Gyda llefrith plîs.
ZOE Llefrith i mi hefyd plîs.
ZAC/ZOE Diolch.
ZOE Ga i fanana yn y smŵddi plîs?
ZAC A fi. Dw i’n hoffi banana.
ZAC/ZOE Diolch.
ZOE Beth arall wyt ti’n hoffi bwyta?
ZAC Hmmm. Oren. Ga i oren plîs?
ZOE A fi! Dw i’n hoffi bwyta oren.
ZAC Beth arall wyt ti’n hoffi bwyta?
ZOE Bresych! Bresych plîs!
ZAC Eh?! Stop!!! Dw i ddim eisiau bresych yn fy smŵddi i!
ZOE Pam dwyt ti ddim yn hoffi bresych?
ZAC Achos mae o’n wyrdd! Dw i ddim yn hoffi llysiau gwyrdd!
ZOE Mae llysiau gwyrdd yn dda i ti!
ZAC Yrgh! Mae’n well gen i siocled! Ga i siocled plîs?
ZOE Mmm! A fi! Dw i’n hoffi siocled hefyd!
ZAC Hei! Ga i greision hefyd?
ZOE Creision? Mewn smŵddi?
ZAC Waw! Mae’r smŵddi’n edrych yn flasus! Barod?
ZOE Ydw!
ZAC Ych-a-fi!
ZOE Yyyrgh, mae o’n afiach!