RHODRI Dw i’n difaru’n ofnadwy peidio mynd i weld hon.
JOSEFF A fi! Mae Mali mor lwcus bod hi wedi cael mynd.
RHODRI Wel, mi ddudodd hi ei bod hi am ddisgrifio’r digwyddiad yn fyw ar-lein. Aha, dyma hi…
JOSEFF “Dewch i weld digwyddiad mwya cyffrous y flwyddyn!”
Waw, ‘na ti ddweud mawr! Rhaid fod e’n anhygoel!
RHODRI Hmmm, ddim yn ôl Mali.
NEGES MALI “Dw i’n gwylio digwyddiad mwya’ diflas y flwyddyn.”
RHODRI Ond sbïa ar y poster! Ma’r thema’n amlwg – llun dramatig, iaith bwerus, yn gaddo sioe a hanner!
Mae’r poster yn deud ‘cyffrous’, ma’ neges Mali’n deud ‘diflas’. Dau ansoddair cyferbyniol!
JOSEFF Ie wir! “Dyma’r unig gyfle gewch chi eleni i weld draig fetel enfawr yn chwythu tân!”
RHODRI Yn ôl Mali…
MALI Roedd llun draig fetel enfawr yn chwythu tân ar y poster. Nid aur yw popeth melyn, nag unrhyw beth rhydlyd chwaith!
Mae’r ddraig go iawn yn edrych yn fwy fel hwyaden fetel sydd wedi gweld dyddiau gwell.
RHODRI Efallai mai Mali sy’n gorliwio tro ‘ma. Mae’r poster yn dweud fod y ddraig yn chwythu tân, mae’n rhaid fod hynny’n werth ei weld, does bosib?
Roedd y ‘ddraig’ ar y poster yn chwythu tân. Delwedd gref, rhywbeth gwerth ei weld. Fasa’n well gen i ‘sa hi’n ffrwydro! Does dim arwydd o dân o unrhyw fath…
JOSEFF Mae’n swnio’n ddiflas tu hwnt. Mae Mali yn llygaid ei lle. Ac eto ma’r poster yn addo cymaint! Gwranda ar y gor-ddweud yma. “Sioe fythgofiadwy!”
RHODRI Hmmm, cyferbyniad eitha amlwg yn fan’na rhwng ‘bythgofiadwy’ a ‘dw i isho anghofio’.
JOSEFF “Prynwch docyn ar unwaith, wnewch chi ddim difaru!
NEGES MALI Dw i’n difaru prynu tocyn i’r sioe yma. Gwastraff arian.
RHODRI Mae’r poster yn gor-ddweud achos mae Mali’n anghytuno’n llwyr. “Dw i’n difaru”.
Ond, mae’n rhaid fod ‘na rywbeth da am y sioe? Enw’r sioe ydy ‘Mae’r Ddraig yn Hedfan’. Mae’n rhaid fod hynny’n rhywbeth gwerth ei weld?
Wel, mae cwympo’n rhyw fath o hedfan. Ond dw i’n meddwl ei fod o’n eitha amlwg mai’r peth calla wnaethon ni oedd osgoi’r sioe yma.
JOSEFF Mae’r poster yn dweud un peth, ond mae negeseuon Mali’n bendant yn gwrth-ddweud y brolio!
NEGES MALI O’r diwedd, mae rhywbeth da’n digwydd!
RHODRI Mae hynna’n swnio’n anhygoel o ddoniol! Mi ddyla hynna fod wedi bod ar y poster! Pam na wnaethon ni brynu tocynna?
More on Darllen
Find out more by working through a topic
- count7 of 7
- count1 of 7
- count2 of 7
- count3 of 7