Benthyg arian yn y ffair
KASIA Dw i’n dwlu ar reidiau ffair!
Dw i eisiau mynd ar Mellten ddeg gwaith! Cant gwaith!
IZZIE Faint mae o’n gostio i fynd ar Mellten?
DAN Pum punt y tro.
KASIA O! Dw i wedi anghofio fy arian!
Faint o arian sy’ gyda ti?
IZZIE Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i.
KASIA Ga i fenthyg dy arian os gweli di’n dda?
IZZIE Na chei neu bydda i ddim yn gallu mynd ar Mellten.
KASIA Wyt ti’n cynilo dy arian poced, Dan?
DAN Ydw. Mae pump…deg…pymtheg…ugain punt gen i ar hyn o bryd.
KASIA Ga i fenthyg ugain punt os gweli di’n dda?
DAN Wel…eh…
KASIA Dw i’n addo rhoi’r arian yn ôl dydd Llun.
DAN O, iawn.
KASIA Diolch. Galla i fynd ar Mellten un…dwy…tair…pedair gwaith nawr!
DAN O diâr. Mae Kasia’n sâl.
IZZIE Mae hi’n sâl fel ci.
KASIA Dyma dy arian yn ôl, Dan. Dw i ddim eisiau tro arall ar Mellten.
IZZIE Tyrd Dan! Tro ni rŵan!
Translation
Borrowing money at the fair
KASIA I love fair rides!
I want to go on Mellten ten times! A hundred times!
IZZIE How much does it cost to go on Mellten?
DAN Five pounds per go.
KASIA O! I’ve forgotten my money!
How much money do you have?
IZZIE I’ve got five…ten…fifteen…twenty pounds.
KASIA Can I borrow your money please?
IZZIE No or I won’t be able to go on Mellten.
KASIA Do you save your pocket money, Dan?
DAN Yes. I’ve got five…ten…fifteen…twenty pounds at the moment.
KASIA Can I borrow twenty pounds please?
DAN Well…eh…
KASIA I promise to give back the money on Monday.
DAN Oh, ok.
KASIA Thanks. I can go on Mellten one…two…three….four times now!
DAN Oh dear. Kasia’s ill.
IZZIE As ill as a dog.
KASIA Here’s your money back, Dan. I don’t want another go on Mellten.
IZZIE Come on Dan! Our turn now!
Bitesize Primary games. game
Play fun and educational primary games in science, maths, English, history, geography, art, computing and modern languages.
