ERIN Sori bo fi’n hwyr, o’dd rhaid i fi ‘neud fy ngwallt ar gyfer fy hunlun ‘newydd ddeffro’. Iawn, c’mon, ni’n hwyr.
MALI I beth?
ERIN Sai ‘di penderfynu eto, ond fydd e’n hwyl!
MALI Wel dyna fo, diolch byth… On i ’di cychwyn cael llond bol o aros.
ERIN Llond bol? On i’n meddwl bo ni’n bwyta yn y dre? Wedes di ar y ffôn bo ti ddim am fwyta, a nawr ma ’da ti lond bol?
MALI Na, idiom yw e.
ERIN Oi, pwy ti’n alw’n idiot?
MALI Idiom ydi pan ti’n defnyddio term neu ddywediad sy’n golygu rhywbeth arall.
ERIN Mae’r hwch wedi mynd trwy’r siop!
MALI Ie, enghraifft berffaith. Yn hytrach na dweud, ”Mae pethau wedi mynd yn wael ac yn gyflym iawn”, mae idiom yn defnyddio syniadau a delweddau i gyfleu hynny.
ERIN Joseff, mae e wedi mynd dros ben llestri.
MALI Da iawn Erin, enghraiffft dda arall. Dros ben llestri – idiom sy’n disgrifio pan ma pethau neu berson wedi mynd yn rhy bell gyda’i ymddygiad. Dros ben llestri.
ERIN Mae’n bwrw hen wragedd a ffyn.
MALI Ie wir, fy hoff idiom, ffordd arall o ddweud mae hi’n glawio. Pam hen wragedd a ffyn, pwy â wyr? Ond dyna ydy pwynt idiom. Mae’n fwy diddorol na jyst dweud ‘ma hi’n glawio’.
ERIN A dyma Rhodri. Ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Ma’ hynny bach yn gas, ti’n gw'bod bod ‘siarad trwy dy het' yn golygu siarad mewn ffordd ddibwys a diflas.
ERIN Ond ma’ fe’n siarad trwy ei het.
MALI Erin!
RHODRI Ie, champion, ‘da chi isho set DJ dwy awr. Dawns, hip hop a stryd? Wrth gwrs. A darfod erbyn hanner dydd achos dyna pryd ma' meithrin yn cau. Oce cwl. Awe efo’r micsars!
ERIN Rhodri, pam bo ti’n siarad trwy dy het?
MALI Erin!
RHODRI Hei genod, licio’r ffordd newydd ’ma o wisgo het? Mae o mor cŵl, fi di’r unig berson sy’n meiddio’i neud o.
ERIN Mae angen tynnu blewyn o drwyn Rhodri.
MALI Erin, beth sy’n bod arnat ti? Dw i’n gallu gweld bo ti’n deall idiomau, ac felly dylse ti wybod bod 'tynnu blewyn o drwyn rhywun' yn golygu bod yn gas a phigo arnyn nhw…
RHODRI Na, ma’ hi’n iawn, ma’ isho tynnu blewyn o ’nhrwyn i.
Dacw Joseff yn dod, â’i wynt yn ei ddwrn!
MALI Ma’r idiom ‘gwynt yn ei ddwrn’ yn awgrymu bod person yn rhedeg nerth ei draed.
RHODRI Na, mae o wedi bod yn defnyddio past dannedd blas cyrri, ac am i mi weld os ydi o’n arogli’n neis, felly ddudis i wrtho fo i chwythu mewn i’w ddwrn, i mi fedru rhoi ’marn.
JOSEFF Shwmae bawb. Rhodri, ma ‘ngwynt i yn fy nwrn, cymra ‘roglad o hwnna, gw’boi.
MALI Ie, wel dyna ni, ma pawb yn deall idiomau nawr.
ERIN Hmm, ti’n meddwl? Sai di bod yn gwrando ar air ti ‘di ddweud. Beth yw idiom? Ti’n galw fi’n idiot?
More on Ysgrifennu
Find out more by working through a topic
- count4 of 6
- count5 of 6
- count6 of 6
- count1 of 6