Cyflwyno'r syniad o gylchdroi siapiau a'r termau clocwedd a gwrth-glocwedd.
Sut i ddefnyddio cyfeiriadau a throeon
Cwrs antur! Gwych!
Dwi wrth fy modd â'r stwff 'ma. Ond pam cael mwgwd?
A! Ma hwn yn weithgaredd i ymddiried yn eich gilydd.
Rhaid cyrraedd ochr arall y trawst, cipio'r faner a dod nôl gan ddefnyddio cyfeiriadau a throeon.
A dim ond y ddau yma i dy arwain. Teimlo'n hyderus?
Iawn, tri cham ymlaen.
Nawr rhaid troi chwarter troad glocwedd.
Troi i'r un cyfeiriad ac mae bysedd cloc yn troi.
Nawr tri cham ymlaen.
Reit, cipia'r faner a tro hanner troad.
Cymer tri cham i gyrraedd y pwynt canol.
Dyna ni, un troad gwrth-glocwedd ar ôl.
Hei! Dwyt ti'n methu jyst troi'r map.
Dyna ddiwedd y gwaith tîm te!

Cyfeiriadau a throeon
Mae’n bosib defnyddio cyfeiriadau a throeon i esbonio siwrnai.
Cyfeiriadau yw cyfarwyddiadau fel ‘tri cham ymlaen’ neu ‘un cam yn ôl’. Rhain sy’n dweud wrthyt ti pa mor bell i fynd.
Gall troeon fod yn glocwedd (troi yr un ffordd â bysedd y cloc) neu’n wrthglocwedd (y ffordd groes i fysedd y cloc).
Gelli di wneud chwarter tro, hanner tro neu dro cyfan – byddai hwnnw’n mynd â ti’n ôl i ble cychwynnaist ti.

More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count12 of 13
- count13 of 13
- count1 of 13
- count2 of 13