Rhannau o’r corff
DAN S’mai!
RHYS/ZAC/ZOE S’mai?
ANNA Shwmae?
DAN Ydy pawb yn barod?
PLANT Ydyn!
DAN Da iawn. Mae’n amser i ni ddechrau ymarfer corff. Pawb mewn llinell plîs.
Cerddoriaeth.
Ble mae eich breichiau?
PLANT Breichiau! Breichiau! Breichiau!
RHYS Mmm, mae gen i freichiau hir.
ANNA Mae breichiau hir iawn gyda fi.
ZAC Mae gen i freichiau byr.
ZOE A fi!
DAN Ble mae eich dwylo?
PLANT Dwylo! Dwylo! Dwylo!
DAN Clapiwch eto!
Ble mae eich tafod?
PLANT Tafod! Tafod! Tafod!
ZAC Mae gen i dafod pinc.
ZOE Mae gen i dafod coch.
ANNA Mae tafod du gyda Gel!
DAN Mae o wedi bod yn bwyta fferins!
DAN Ble mae eich bol?
RHYS/ZAC/ZOE Bol! Bol! Bol!
ANNA Bola! Bola! Bola!
ZOE W, mae gan Gel fol tew.
DAN Bol bisgedi ydi o!
Ble mae eich pen ôl? Siglwch o!
PLANT Pen ôl! Pen ôl! Pen ôl!
DAN Siglwch o eto!
PLANT Pen ôl! Pen ôl! Pen ôl!
DAN Ble mae eich coesau?
PLANT Coesau! Coesau! Coesau!
RHYS Hmm, mae gen i goesau hir.
ANNA Mae coesau hir iawn gyda fi.
DAN Oes coesau hir gen ti, Gel? Eh, na dw i ddim yn meddwl!
Reit, dw i’n meddwl ein bod ni’n barod i berfformio! Ar ôl tri!
PLANT Un, dau, tri!