Dyddiau’r wythnos
RHYS Ah! Dyma fo! Fy nghamera fideo!
Helo. Rhys ydw i. Dw i’n gwneud dyddiadur fideo am ddyddiau’r wythnos.
Dydd Llun, dw i’n chwarae gyda’r gath.
Dydd Mawrth, dw i’n rhoi bwyd i’r pysgodyn aur.
Pa ddiwrnod ydy hi heddiw? O ie! Dydd Mercher.
Dydd Mercher, dw i’n glanhau cawell y gwningen.
Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
PAROT Dydd Iau, dw i’n siarad gyda’r parot. Pwy sy’n hogyn gwirion?!
RHYS Mae’n ddydd Gwener heddiw a dw i’n mynd â’r pry cop am dro.
Mae’n rhaid i mi helpu dad yfory.
Mae’n ddydd Sadwrn heddiw a dw i’n siopa gyda dad.
Dydd Sul, dw i’n hoffi ymlacio gyda’r anifeiliaid.