Dewis dillad
ZOE Www, dw i’n edrych ymlaen at gystadleuaeth y Dillad
Gorau yng Nghymru!
ZAC A fi! Beth sy’ yn y cwpwrdd dillad?
ZOE Beth wyt ti’n hoffi gwisgo, Zac?
ZAC Dw i’n hoffi gwisgo gwisg ysgol! Trowsus du.
Crys gwyn.
Siwmper las.
ZOE Rhy ddiflas i ennill y gystadleuaeth.
ZAC Ti’n iawn. Wyt ti’n hoffi gwisgo dillad smart, Zoe?
ZOE Na. Dw i’n hoffi gwisgo siorts piws a chrys-t pinc.
ZAC Mae’r wisg yna’n rhy flêr i ennill y gystadleuaeth.
ZOE Ti’n iawn.
Beth am y ffrog yma?
ZAC Waw!
Dw i’n hoffi’r esgidiau, sanau a’r siaced yma.
A’r het yma!
ZOE Pam wyt ti’n hoffi’r het yna?
ZAC Dw i’n hoffi’r het yma achos dwi’n hoffi plu!