Sut i ddosrannu rhifau
Mae dosrannu yn ffordd ddefnyddiol o rannu rhifau mawr mewn i rifau llai i'w gwneud yn haws i'w trin.
Ond dyw e ffrindie?
Cymra'r rhif 23 - beth allwn ni wneud?
Na, dim dawnsio - ei ddosrannu!
Gallwch feddwl am 23 fel un 20 mawr a thri bach.
Neu beth am rannu hwnna ffordd arall.
Mewn i ddeg ac 13.
Gyda'i gilydd mae nhw'n gwneud 23 eto.
Gallwn dorri rhifau hyd yn oed yn fwy, fel 746.
Gwyliwch eich hun!
A drychwch be sy da ni: un 700 mawr, un 40 ac un chwech, 746!
Mae dosrannu rhifau yn golygu bo chi'n gallu rhannu rhifau, mewn i unedau, degau a hyd yn oed cannoedd pan y'ch chi'n adio neu'n tynnu rhifau neu'n gwneud problemau mathemategol eraill.
O o! Amser i ddiflanu!

Dosrannu / Partitioning
Mae dosrannu’n ffordd ddefnyddiol o dorri rhifau’n ddarnau i’w gwneud yn haws gweithio gyda nhw.
Gelli di dorri’r rhif 746 yn gannoedd, degau ac unedau. 7 cant, 4 deg a 6 uned.
Gelli di dorri’r rhif 23 yn 2 ddeg a 3 uned, neu’n 10 ac 13.
Sut bynnag rwyt ti'n torri'r rhif yn ddarnau, bydd yn gwneud mathemateg yn haws!

More on Rhif
Find out more by working through a topic
- count5 of 16
- count6 of 16
- count7 of 16
- count8 of 16