Disgrifio dy dŷ
CHARLIE/ANNA O, Gel druan! Mae e’n dost!
ANNA Dere i aros gyda fi nes i ti wella, Gel.
CHARLIE Na, dere i aros gyda fi. Mae digon o le yn ein tŷ ni.
ANNA Ble wyt ti’n byw, Charlie?
CHARLIE Dw i’n byw mewn tŷ modern yng Nghaerdydd.
Mae tair ystafell wely yn y tŷ. Mae gwely dwbwl ym mhob ystafell!
Pa fath o dŷ sy gyda ti, Anna?
ANNA Mae tŷ teras braf gyda fi.
Mae cegin hyfryd yn y tŷ. Dw i’n mwynhau helpu dad i goginio.
CHARLIE Mae gardd hyfryd gyda fi. Mae llawer o flodau pert yn yr ardd.
ANNA Mae gardd fach gyda fi ond mae trampolîn enfawr ynddi, Gel!
Dw i’n credu bod Gel yn dod i aros gyda fi!
CHARLIE Ooo Gel…
ANNA Cei di ddod hefyd, Charlie.
CHARLIE O diolch.
Ble nesaf?
Disgrifio aelodau’r teulu
Teulu a ffrindiau

Ble wyt ti’n byw?
Lleoedd

Mwy o fideos Cymraeg
Cyfnod Sylfaen
