JEFF Mae hon yn ergyd bwysig i'r Pytiwr yn erbyn Louie Lwcus.
Dewch i ni edrych ar y sgôr.
JANINE Ar beth y'n ni'n edrych Janine?
Iawn Jeff, mae gan bob chwaraewr res…
…ac ry ni'n gallu dangos eu sgôr ar gyfer pob twll yn y colofnau. Y sgôr isaf sy'n ennill!
JEFF Louie enillodd y twll cyntaf, a'r Pytiwr enillodd yr ail.
JANINE A chafodd Louie dwll mewn un ar y trydydd twll!
JEFF Ond nol i'r cyffro, Janine, mae angen twll mewn un ar Pytiwr.
O na, ma Louie lwcus wedi ei gwneud hi!

Tablau data / Data tables
Rydyn ni’n gallu defnyddio tabl i ddangos darnau o ddata am wahanol bethau.
Mae teitl y tabl yn dweud wrthym beth sydd yn y tabl.
Mae’r penawdau’n dweud wrthym pa ddata sydd ym mhob colofn a phob rhes.
I weld sawl ergyd gymerodd Louie ar gyfer yr ail dwll, rwyt ti’n edrych ar draws rhes Louie nes cyrraedd colofn yr ail dwll. Felly cymerodd Louie 4 ergyd i gael y bêl i’r twll!

More on Trin data
Find out more by working through a topic
- count4 of 4
- count1 of 4