JOSEFF Wps. Sori, Mali.
MALI Mae’n iawn. Does dim rheolau i beintio, ti’n gweld. Ti jest yn… dilyn dy deimladau. Gwneud be ti eisiau. Fel sglefr-fyrddio, mae’n siŵr.
JOSEFF Sglefr-fyrddio?
Arhosa!
Gwisga helmed!
Rho un droed ar flaen y bwrdd a’r llall ar y cefn.
MALI Hapus?
JOSEFF Edrycha ymlaen a chofia anadlu.
MALI Dwi’n bedair ar ddeg, Joseff. Dwi ‘di meistroli anadlu. Unrhyw beth arall?
JOSEFF Arhosa! Gwranda yn ofalus.
Cymer anadl fawr cyn dechrau. Plyga’n isel lawr y ramp.
Cer gyda’r symudiad. Anadla.
Ac ar ddiwedd y cwrs, tro i’r chwith. Nid i’r dde.
Plyga dy goesau. Gwthia dy droed ôl i lawr er mwyn arafu. Tyrd â’r bwrdd i stop.
MALI Mae hynny’n lot i’w gofio, Joseff.
JOSEFF Paid â dychryn! Dyma’r pethau pwysig i’w cofio.
Cadwa dy draed ar wahân.
Edrycha’n syth o dy flaen.
A… a…
MALI Anadla, Joseff.
Dy dro di nawr.
JOSEFF O, reit. Gwneud be fi moyn, ie? Jest… dilyn fy nheimladau?
MALI ‘Na ti.
Ie, ond paid â dal y can fel ’na.
More on Llafaredd
Find out more by working through a topic
- count5 of 6
- count6 of 6
- count1 of 6