Barddoniaeth
Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
Fel cynifer o gerddi Gerallt Lloyd Owen mae hon yn ymdrin â Chymru a Chymreictod. Mae'r bardd yn trafod pwysigrwydd tir, hanes ac iaith i unrhyw genedl, a’r bygythiadau sy’n eu hwynebu yng Nghymru.
Ofn gan Hywel Griffiths
Mae Hywel Griffiths yn sôn am y codi ofn y mae cyfryngau modern yn gallu ei greu drwy eu hadroddiadau newyddion a’u herthyglau papur newydd gan felly wthio pobl i aros yn “ddiogel” yn eu cartrefi.
Y Coed gan Gwenallt
Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.
Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd
Rydym yn byw mewn gwlad brydferth dros ben ac mae’r prydferthwch hwn yn denu twristiaid lu. Trafod dylanwad twristiaeth ar ein gwlad a’n hiaith a wna Myrddin ap Dafydd yn y gerdd hon.
Tai Unnos gan Iwan Llwyd
Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.
Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
Caerdydd yw prif gymeriad y gerdd hon gan Emyr Lewis sy’n ymdrin â thema amser. Mae’r bardd yn trafod sut mae amser yn rheoli ein bywydau a sut mae terfynau amser yn ein cadw rhag teimlo’n gwbl rydd.
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
Dyma gerdd gyfoes sy’n sôn am brofiad gŵr ifanc yn gweld merch atyniadol iawn mewn clwb nos, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Mae’n sôn am ei phryd a’i gwedd a’r effaith mae hi’n ei chael arno.
Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
Mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n ymdrin â themâu cyfoes. Mae’n defnyddio ailadrodd i ddisgrifio undonedd bywyd person sy'n gaeth i gyffuriau yn ceisio adfer ei hun.
Eifionydd gan R Williams Parry
Mae byd natur yn elfen bwysig ym marddoniaeth R Williams Parry. Yn y gerdd hon mae'r bardd yn defnyddio gwrthgyferbyniadau trawiadol a chyffelybiaethau i ddisgrifio harddwch a llonyddwch y Lôn Goed.
Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
Ymuna gyda Mererid Hopwood wrth iddi roi cipolwg i ni ar y byd drwy ffenest dychymyg. Mae’n ein hannog i ddefnyddio ein dychymyg i weld y byd drwy bâr o lygaid newydd, neu ‘sbectol hud’.
Cymharu dwy gerdd
Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti gymharu cerdd rwyt ti wedi ei hastudio ag un nad wyt wedi ei hastudio. Bwriad y canllaw hwn yw dy helpu i fynd ati i ddadansoddi a thrafod y ddwy gerdd ochr yn ochr.
Nodweddion arddull
Nodweddion arddull yw’r technegau mae’r bardd wedi eu defnyddio yn y gerdd. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng y nodweddion arddull er mwyn eu hadnabod a’u dyfynnu wrth ddadansoddi’r cerddi.
Y mesurau caeth
Yma cei esboniad o’r gwahaniaeth rhwng y cerddi caeth a’r cerddi rhydd, a chei dy arwain drwy brif fesurau’r cerddi caeth bydd angen i ti eu dysgu.
Y mesurau rhydd
Yn y canllaw hwn byddi'n dysgu am nodweddion y gwahanol fesurau rhydd, sef cerddi di-gynghanedd fel soned, mydr ac odl a cherdd benrydd.