'Rhai rhieni gyda phlant mewn ysgol Gymraeg yn poeni dim am gyfrwng yr addysg'

Paul Miller
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Paul Miller y sylwadau yn ystod trafodaeth cabinet ynglŷn â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod Llafur o Gabinet Cyngor Sir Penfro wedi awgrymu bod rhai rhieni yn anfon eu plant i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd oherwydd safon yr addysg, a "dyw nhw ddim yn poeni dim" eu bod nhw'n cael addysgu trwy gyfrwng yr iaith.

Fe wnaeth Paul Miller y sylwadau yn ystod trafodaeth cabinet ynglŷn â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sydd yn gorfod cael ei baratoi gan bob awdurdod lleol.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, Mr Miller, ei fod yn gwybod am rhwng deg a 15 o deuluoedd yn ardal Neyland oedd yn anfon eu plant i Ysgol Caer Elen "am eu bod nhw am gael ysgol dda."

Fe awgrymodd y Cynghorydd Miller ei fod e'n amau bod y galw am lefydd yn yr ysgol yn uchel oherwydd bod rhieni am i'w plant gael addysg ddwyieithog.

"Rwy'n nabod nifer o rieni sydd yn becso dim os ydy'r addysg yn Gymraeg neu yn Saesneg. Maen nhw'n chwilio am ysgol dda. Mae'r ffaith bod hi'n ysgol cyfrwng Cymraeg yn amherthnasol," meddai.

Ysgol Caer Elen
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Miller ei fod yn gwybod am rhwng deg a 15 o deuluoedd sy'n anfon eu plant i Ysgol Caer Elen "am eu bod nhw am gael ysgol dda"

Fe ofynnodd y Cynghorydd Miller i'r aelod cabinet dros addysg, Guy Woodham, a fyddai'n rhaid "gwthio addysg cyfrwng Cymraeg mewn ffordd mwy nerthol" mewn ardaloedd llai Cymreig er mwyn cwrdd â thargedau.

Fe atebodd y Cynghorydd Woodham, sydd hefyd yn aelod Llafur, "nad oedd yn hoffi'r ymadrodd "gwthio yn nerthol", ond bod "yna ardaloedd yn Sir Benfro ble roedd yna alw am addysg cyfrwng Cymraeg - ac roedd rhaid gwneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig y cyfle hwnnw".

Fe alwodd y Cynghorydd Miller ar y cyngor i "ddatblygu methodoleg ynglŷn â phwy yn union sydd eisiau addysg cyfrwng Cymraeg a phwy sydd yn dewis yr opsiwn er mwyn cael ysgol dda".

Cytunodd aelodau'r cabinet i gefnogi gwelliant gan y Cynghorydd Millar yn galw ar y Cyfarwyddwr Addysg i greu dull o "fesur y galw yn well" am addysg Gymraeg.

'Ymdrech sinicaidd i danseilio addysg Gymraeg'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith mewn datganiad: "Mae edrych ar resymau rhieni a phlant dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg yn ymddangos fel ymdrech sinicaidd i danseilio addysg Gymraeg a chreu rhwystr arall eto i addysg cyfrwng Gymraeg.

"Does dim sôn bod y Cyngor am edrych ar resymau rheini dros ddewis addysg Saesneg i'w plant.

"Yn ddiweddar mae'r cyngor wedi cynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn ne'r sir, ond mae rhan fwya'r enillion hynny wedi dod am fod rhieni wedi mynnu a brwydro i'w cael.

"Wrth drafod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir, dylai'r pwyslais fod ar gynyddu darpariaeth Gymraeg ymhellach fel bod y ddarpariaeth ar gael yn ddiofyn, nid ar ei gwneud yn fwy anodd byth. Dydy'r ddadl yma yn ddim mwy nag ymgais i dynnu sylw oddi wrth y nod o gynyddu darpariaeth Gymraeg, a ddylai fod ar gael i bob person ifanc yn y sir."