Crynodeb o’r asesiad
Yn Adran B bydd rhaid i ti ysgrifennu dau ddarn. Gallant fod naill ai’n dasgau trafod neu'n dasgau perswadio.
Mae’r papur yn werth 70 o farciau:
- 30 marc ar gyfer y darllen
- 40 marc ar gyfer y dasg ysgrifennu
Cyfarwyddiadol
Beth yw testun cyfarwyddiadol?
Mae testun cyfarwyddiadol yn:
- disgrifio sut mae rhywbeth yn cael ei wneud drwy restru cyfres o gamau
- dechrau gan ddweud beth yw’r nod neu’r pwrpas
- rhestru’r hyn sydd ei angen
- camau mewn trefn amser
- defnyddio pwyntiau bwled neu rifau
- defnyddio berfau gorchmynnol
Math o ffurfiau ysgrifennu
- Poster
- Rysáit
- Rheolau
- Cyfarwyddiadau
Wrth ddarllen darn cyfarwyddiadol cofia ystyried:
- ffurf - ym mha ffurf mae’r awdur wedi ysgrifennu (erthygl, ymson, portread, llythyr, stori ayyb)?
- cynulleidfa - ar gyfer pwy mae’r awdur wedi ysgrifennu (plant, oedolion, dynion, menywod ayyb)?
- pwrpas – pam mae'r awdur yn ysgrifennu (i berswadio, dadlau, adolygu ayyb)?
- arddull – sut mae’r awdur yn ysgrifennu (ffurfiol, siaradus, difrifol, comig ayyb)?