Y Gwobrau
Mae’r Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn dathlu’r pethau gwych mae pobl yn eu cyflawni i wneud ein cymunedau’n lleoedd gwych i fyw ynddynt.
Dywedwch wrthym pwy yw’ch arwr yn eich cymuned chi. Mae'r enwebiadau nawr wedi cau.

Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid a bydd gwobrau’n cael eu rhoi yn yr wyth categori canlynol:
- Gwobr Gwirfoddoli
- Gwobr Arwr Ifanc
- Gwobr Cymydog Arbennig
- Gwobr Egnïol
- Gwobr Anifeiliaid
- Gwobr Werdd
- Gwobr Codi Arian
- Gwobr Grŵp Cymunedol
Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael gwybod ddechrau’r haf a byddant yn cael eu gwahodd i’r seremoni wobrwyo ar 20 Medi 2025 yng Nghaerdydd. Cliciwch yma i weld rheolau’r gwobrau a’n hysbysiad preifatrwydd yn llawn.
Dilynwch hynt y gwobrau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #BBCGwneudGwahaniaeth
Cliciwch i enwebu
-
Gwobr Gwirfoddolwr
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu cymuned drwy roi eu hamser yn wirfoddol er mwyn helpu eraill.
-
Gwobr Arwr Ifanc
Dyma wobr i rywun dan 16 mlwydd oedd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu cymuned neu sydd wedi cyflawni rhywbeth eithriadol.
-
Gwobr Cymydog Arbennig
Dyma wobr i unigolyn sy'n gwneud y gymdogaeth yn lle gwell i fyw neu weithio ynddi, unai'n gyson neu drwy un weithred garedig.
-
Gwobr Actif
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sydd wedi defnyddio ymarfer corff neu chwaraeon fel ffordd o wella bywydau'r sawl sy'n byw yn eu cymuned.
-
Gwobr Anifail
Dyma wobr i anifail sy'n gwella bywyd unigolyn neu grŵp o bobl; neu, berson neu grŵp o bobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid i wella lles anifeiliaid.
-
Gwobr Werdd
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp o bobl sy'n gwella neu'n gwarchod yr amgylchedd yn eu hardal leol.
-
Gwobr Codi Arian
Dyma wobr i unigolyn neu grŵp sydd wedi mynd yr ail filltir wrth godi arian at achos da.
-
Gwobr Grŵp Cymunedol cefnogir gan Morning Live
Dyma wobr i grŵp o bobl sydd wedi helpu i newid bywydau pobl yn eu cymuned.
-
Cyngor Enwebu
Cliciwch yma am restr o gynghorion ynglŷn â sut i fynd ati i lenwi'r ffurflen enwebiadau