BBC Cymru

3 Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT

Caniateir i chi fynd â bag maint A4 neu lai i'r lleoliad. Caniateir un bag i bob person. Mae bagiau bach yn golygu rhai nad ydynt yn fwy na maint A4 neu fagiau llaw safonol. NI chaniateir bagiau cefn, casys teithio, bagiau gliniadur a bagiau cario mawr y tu mewn i'r lleoliad.

Directions to BBC Cymru

Ble ydym ni


Trên
Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog ar ein stepen drws. Mae gwybodaeth am orsaf drenau Caerdydd Canolog ar gael ar wefan Trafndiaeth Cymru.

Bws
Oherwydd ei fod mewn lleoliad canolog, mae nifer o lwybrau bysiau yn mynd heibio i BBC Cymru Wales.

Mae rhagor o wybodaeth am y llwybrau hyn a’r safleoedd bws agosaf ar gael ar wefan
Traveline Cymru.

Beicio 
Mae raciau beiciau a gorsafoedd docio NextBike ar y Sgwâr Canolog ac o’i gwmpas, ac wrth ymyl ein prif fynedfa. Mae rhagor o wybodaeth i’ch helpu i gynllunio eich taith ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.


Car 
Mae tri safle Parcio a Theithio yng Nghaerdydd. Mae’r manylion ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd. Fel arall, defnyddiwch feysydd parcio yng nghanol y ddinas neu barcio a thalu ar y stryd. Oherwydd ei fod mewn lleoliad prysur yng nghanol y ddinas, does dim man gollwng teithwyr yn y Sgwâr Canolog.

Mae gwybodaeth ynglŷn â theithio i Gaerdydd pan fod digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal yn y brifddinas ar gael yma.

Parcio gyda bathodyn glas 
Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio wedi’u neilltuo i ddeiliaid bathodyn glas yn y Sgwâr Canolog. Mae’r rhain ar gael ar sail y cyntaf i’r felin ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw pan fyddwch yn prynu eich tocyn. Mae cyfyngiad uchder o 2.4m ym maes parcio’r Sgwâr Canolog. Fel arall, mae mannau parcio i bob anabl ar gael yn Arglawdd Fitzhamon, Arglawdd Taffs Mead, Plas y Neuadd oddi ar Heol y Porth, a Heol y Cawl.

Bysiau Moethus
Does dim lle i fysiau moethus barcio yn y Sgwâr Canolog. Mae mannau gollwng/codi yn Arglawdd Fitzhamon ac yn Arglawdd Taffs Mead, sydd 3 munud i ffwrdd ar droed. Mae maes parcio oddi ar y ffordd gyda Theledu Cylch Cyfyng 24 awr ar gael i fysiau moethus yng Ngerddi Soffia, sy’n agos at ganol y ddinas. Mae’r manylion ar gael ar wefan Cyngor Caerdydd.

Central Square, Cardiff

Hygyrchedd 

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod mor hygyrch â phosib, a dyma pam mae'r Sgwâr Canolog yn adeilad niwroamrywiol sy’n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Mae dolen sain wedi’i gosod yn y dderbynfa.