Stori Trystan a Macs

Crynodeb o’r ffilm

Mae Trystan a Macs yn efeilliaid unfath, ac mae Macs yn cael ei dargedu yn yr ysgol am ei fod yn defnyddio ffrâm gerdded. Mae’r bwlio hyn yn anodd i Trystan ei oddef ac mae'n ceisio amddiffyn ei frawd, ond o ganlyniad, yn cael ei fwlio hefyd. Felly, mae’r ddau yn penderfynu peidio â mynd i’r ysgol, ac er i’w rhieni holi a holi pam, nid yw’r un ohonyn nhw’n dweud gair am fwlio.

Nodiadau athrawon

Syniadau ar gyfer y dosbarth:

  • Creu mwgwd – Mae’r dyfyniad “tu ôl i’r mwgwd” yn cael ei ddefnyddio yn y gerdd i ddisgrifio’r bobl sy’n bwlio Trystan a Macs. Gall yr athro gynnal trafodaeth gyda’r disgyblion am fwlio ee

    • Sut mae bwlio yn ymddangos?
    • Sut mae pobl yn teimlo wrth gael eu bwlio?
    • Pam fod bwlis yn bwlio eraill?

Gellir gofyn i’r disgyblion gynnwys darluniau ar fwgwd sydd wedi’i rannu’n hanner i gyfleu sut mae’r bwli yn ymddangos ar y tu allan, a’r hanner arall i gyfleu teimladau’r bwli y tu mewn.

  • Grwpiau trafod i ganolbwyntio ar ‘A ydy hi’n iawn i rywun fwlio person arall?’. Gellir dosbarthu neu greu cardiau trafod gyda sefyllfaoedd gwahanol i adnabod ‘beth yw bwlio’ ee mae merch yn y dosbarth yn cadw tynnu gwallt person arall, mae plentyn ar y bws yn dweud geiriau cas i berson arall ac mae bachgen yn yr ysgol yn dwyn brechdanau disgybl arall. Gallai hyn arwain at drafodaeth ehangach am beth i’w wneud yn y sefyllfa yma a sut i helpu person sy’n wynebu profiad tebyg.

  • Gêm dweud / meddwl - Mewn grwpiau, gellir trafod beth sy’n iawn i’w ddweud a beth sy’n well i’w gadw yn y meddwl gan ddefnyddio dyfyniadau megis:

    • Mae dy wallt yn edrych yn ofnadwy
    • Dwi'n hoffi dy grys newydd
    • Dydw i ddim yn hoffi dy fag ysgol di

Yna, gellir gofyn i'r disgyblion eu trefnu mewn i bethau i’w dweud/eu meddwl. Dylid pwysleisio’r ffaith fod gwahaniaeth rhwng bod yn ‘gas’ a ‘bwlio’ – sef fod person sy’n bwlio yn targedu’r person sawl gwaith. Her: Ydy’r disgyblion yn gallu ail-ysgrifennu’r dyfyniadau meddwl fel bod nhw’n addas i ddweud?

  • Creu poster fel dosbarth – Gellir gofyn i ddisgyblion greu amlinelliad o’u llaw a rhoi cyngor ar bob bys i rywun sy’n cael ei fwlio. Yna, gellid gosod y dwylo gyda’i gilydd o dan y teitl ‘Dim bwlio’ er enghraifft, a’u harddangos o amgylch y dosbarth.

Syniadau ar gyfer Ieithoedd, llefaredd a chyfathrebu:

  • Teimladau bwli – Gellir gofyn i ddisgyblion weithio mewn partneriaid i drafod teimladau bwli, a chreu grid gyda theimladau cyn, yn ystod ac ar ôl y weithred:
Cyn…Yn ystod…Ar ôl…

Gallai hyn arwain at dasg sy’n gofyn i ddisgyblion lunio ymson o bersbectif y bwli.

  • Mae ansoddeiriau’n cael eu defnyddio yn y gerdd ee “bwli cas” a “plentyn dewr” - pa ansoddeiriau eraill gall y disgyblion ddod o hyd iddyn nhw neu ychwanegu atyn nhw i ddisgrifio’r cymeriadau?

    • Oedolyn cyfrifol
    • Awyrgylch cas
    • Mae bwli’n ofnus ac yn frau
    • Mae Macs a Tryst yn gryfach
    • Ddim yn gwybod sut i fod yn garedig

Gellir gosod tasg i’r disgyblion lunio cerddi am gymeriad Trystan, Macs neu’r bwlis ee ar ffurf cerdd acrostig gan ddefnyddio’r ansoddeiriau maen nhw’n eu dewis ar gyfer y dasg uchod.

Deilliannau dysgu a nodiadau am y cwricwlwm

  • Dysgu am fwlio a’r effeithiau emosiynol a chorfforol
  • Codi ymwybyddiaeth o’r ffaith fod pawb yn wahanol
  • Dysgu am ddathlu amrywiaeth, pwysigrwydd rhannu pryderon a strategaethau ar gyfer ymdopi gyda bwlio

Maes Dysgu a Phrofiad – Iechyd a Lles

Mae’r ffordd rydym yn prosesu ein profiadau ac yn ymateb iddyn nhw yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol.

Cam Cynnydd 3

  • Mae gen i ddealltwriaeth o reolau, normau ac ymddygiad gwahanol grwpiau a sefyllfaoedd, ac rwy’n sylweddoli bod ganddyn nhw ddylanwad arnaf fi.

  • Rwy’n gallu ymwneud mewn ffordd sydd o fewn dylanwadau cymdeithasol o fewn gwahanol grwpiau a sefyllfaoedd.

  • Rwyf wedi datblygu dealltwriaeth bod fy ngwerthoedd, fy agweddau a’m hunaniaeth yn cael eu siapio gan wahanol grwpiau a dylanwadau.

Mae cydberthnasau iach yn hanfodol ar gyfer ein lles.

  • Rwy’n gallu mynegi fy anghenion a’m teimladau, ac ymateb i anghenion a theimladau pobl eraill.

  • Rwy’n gallu myfyrio ar nodweddion cydberthnasau diogel, ac yn gallu gofyn am gymorth pan mae angen.

Maes Dysgu a Phrofiad – Y Celfyddydau Mynegiannol

Mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.

Cam Cynnydd 2

  • Rwy’n gallu cyfleu syniadau, teimladau ac atgofion ar gyfer cynulleidfa ac ar gyfer dibenion a chanlyniadau yn fy ngwaith creadigol.
Back to top

Ble nesa?

Stori Tyler. video

Mae'r peth lleiaf yn gwylltio Tyler ac yn achosi iddo golli ei dymer. A fydd yn gallu dysgu i'w reoli a siarad am ei emosiynau?

Stori Tyler

Stori Will. video

Mae Will yn ceisio helpu sefyllfa ariannol ei deulu ac yn penderfynu dwyn arian. A fydd yn difaru gwneud hyn ac yn meddwl am ffyrdd arall o helpu ei rieni?

Stori Will

Stori Amber. video

Mae trip ysgol yn gwneud i Amber deimlo'n bryderus am sawl rheswm. A fydd hi'n gallu goroesi'r penwythnos a chyrraedd copa'r wal ddringo?

Stori Amber
Back to top