Yr Ymddiriedolaeth yn edrych ar wasanaethau'r BBC yn y cenhedloedd datganoledig yn yr adolygiad olaf o wasanaethau yn ystod cyfnod Siarter presennol y BBC

Date: 09.11.2015     Last updated: 01.02.2016 at 00.00

Heddiw, mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi lansio'r adolygiad olaf o wasanaethau yn ystod cyfnod Siarter presennol y BBC, gan edrych ar wasanaethau radio, teledu, ar-lein a rhaglenni materion cyfoes yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd yr adolygiad yn ymdrin â pherfformiad BBC Radio Scotland, BBC Radio nan Gaidheal, BBC Alba, BBC Radio Ulster/Foyle, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru yn ogystal ag edrych ar newyddion a materion cyfoes ar deledu a newyddion ar-lein i'r gwledydd gan y BBC.

Bydd yr adolygiad yn asesu pa mor dda y mae'r gwasanaethau hyn yn gwasanaethu eu cynulleidfaoedd; eu perfformiad o'i gymharu â'r ymrwymiadau sydd yn eu trwyddedau gwasanaeth, a'u gallu i gyflawni'r ymrwymiadau hyn yn y dyfodol o ystyried y ffaith fod arferion gwrando a gwylio yn esblygu.  Bydd hefyd yn edrych i weld a yw'r trwyddedau gwasanaeth cyfredol yn addas i'r diben ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau. 

Hefyd, yng nghyd-destun y ffaith fod y DU yn esblygu, bydd yr adolygiad yn edrych a yw pob gwlad yn cael y gwasanaeth gorau gan y BBC o ran newyddion rhyngwladol, newyddion y DU a newyddion y gwledydd.

Fel rhan o'r broses adolygu, mae'r Ymddiriedolaeth heddiw'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus gyda'r cynulleidfaoedd. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio'r adborth a roddir yn yr ymgynghoriad, ynghyd ag amrywiaeth o ddata eraill ac ymchwil ymysg cynulleidfaoedd, i ddod i'w hasesiad terfynol o'r gwasanaethau.

Dywedodd Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr Cymru y BBC:

"Mae'n hollbwysig fod y BBC yn gwasanaethu'r DU gyfan yn ei holl amrywiaeth.  Yn ôl ein hadolygiad diwethaf o radio'r BBC yn y gwledydd datganoledig, mae ein gorsafoedd yn cynhyrchu rhaglenni arbennig sy'n cael eu mwynhau gan gynulleidfa eang.

"Mae'r adolygiad sy'n cael ei lansio gennym heddiw yn cymryd golwg ehangach ar raglenni'r BBC ar gyfer pob gwlad, a byddwn yn annog cynulleidfaoedd ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gysylltu â ni a dweud beth maent yn ei feddwl o'u gwasanaethau lleol gan y BBC ar radio, teledu ac ar-lein.

Dyma'r ail dro i'r Ymddiriedolaeth edrych ar wasanaethau radio yn y gwledydd datganoledig, ond dyma'r tro cyntaf i wasanaethau radio, teledu, ar-lein a materion cyfoes yn y gwledydd datganoledig gael eu hadolygu gyda'i gilydd.

Telerau a'r amodau yn

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir canfyddiadau'r adolygiad yn haf 2016.
  2. Gellir cael rhagor o wybodaeth am adolygiadau blaenorol yr Ymddiriedolaeth o wasanaethau'r BBC yn.