MwtaniadAchosion ac effeithiau mwtaniad

Sut all genynnau newid? Achosir mwtaniadau gan sawl ffactor, a gallant achosi anhwylderau genetig. Sut all therapi genynnau helpu i drin yr anhwylderau hyn?

Part of BiolegAmrywiad, homeostasis a micro-organebau

Achosion ac effeithiau mwtaniad

Newid mewn neu yw mwtaniad. Mae’n newid prin, ar hap, yn y deunydd genetig, ac mewn rhai achosion gall gael ei etifeddu.

Achosion mwtaniad

Gall mwtaniad ddigwydd yn ddigymell, hynny yw, mae’n digwydd heb reswm o gwbl, neu gall ddigwydd oherwydd:

  • pelydriad ïoneiddio
  • cemegol - fel tar o fwg sigarét

Mae pelydriad ïoneiddio’n cynnwys pelydrau gama, pelydrau X, a phelydrau uwchfioled. Po fwyaf yw’r dos o a gaiff cell, mwyaf fydd y siawns o fwtaniad.

Symbol ymbelydredd
Figure caption,
Dangosir y symbol perygl hwn ar gynwysyddion sylweddau ymbelydrol

Effeithiau mwtaniad

Gall mwtaniad fod yn a chael dim effaith. Er enghraifft, hwyrach y bydd y protein a gynhyrchir gan enyn mwtanaidd yn gweithio lawn cystal â’r protein o’r genyn normal.

Gall mwtaniad fod yn llesol weithiau. Er enghraifft, mae pobl sy’n gludwyr (heterosygaidd) i cryman-gelloedd yn fwy abl i wrthsefyll malaria (clefyd trofannol) na phobl sy’n i’r genyn.

Gall mwtaniadau newid gweithgaredd protein mewn rhan o’r DNA sy’n codio. Gall mwtaniadau o’r fath achosi newidiadau ffenoteip, a all gael canlyniadau difrifol, fel y clefyd genetig ffibrosis cystig.