Anhafaleddau - Canolradd ac UwchFfurfio anhafaleddau llinol

Algebra yw un o’r arfau mwyaf pwerus ym myd mathemateg – hebddo, ni fyddai gennyn ni dechnoleg gyfrifadurol fodern, datblygiadau meddygol na theithiau awyren fel y gwyddwn ni amdanyn nhw heddiw.

Part of MathemategAlgebra

Ffurfio anhafaleddau llinol

Anhafaledd yw’r berthynas rhwng dau fynegiad sydd ddim yn hafal i’w gilydd. Dyma rai symbolau ar gyfer anhafaleddau:

SymbolYstyr
\({\textless}\)Mae \({y}~{\textless}~{x}\) yn golygu ‘mae \({x}\) yn fwy nag \({y}\)’ neu ‘mae \({y}\) yn llai na \({x}\)’
\({\textgreater}\)Mae \({7}~{\textgreater}~{x} \) yn golygu ‘mae \({7}\) yn fwy na \({x}\)’ neu ‘mae \({x}\) yn llai na \({7}\)’
\({\leq}\)Mae \({x}~{\leq}~{-4}\) yn golygu ‘mae ‘\({x}\) yn llai na neu’n hafal i \({-4}\)’ neu ‘mae \({-4}\) yn fwy na neu’n hafal i \({x}\)’
\({\geq}\)Mae \({z}~{\geq}~{13}\) yn golygu ‘mae ‘\({z}\) yn fwy na neu’n hafal i \({13}\)’ neu ‘mae \({13}\) yn llai na neu’n hafal i \({z}\)’
Symbol\({\textless}\)
YstyrMae \({y}~{\textless}~{x}\) yn golygu ‘mae \({x}\) yn fwy nag \({y}\)’ neu ‘mae \({y}\) yn llai na \({x}\)’
Symbol\({\textgreater}\)
YstyrMae \({7}~{\textgreater}~{x} \) yn golygu ‘mae \({7}\) yn fwy na \({x}\)’ neu ‘mae \({x}\) yn llai na \({7}\)’
Symbol\({\leq}\)
YstyrMae \({x}~{\leq}~{-4}\) yn golygu ‘mae ‘\({x}\) yn llai na neu’n hafal i \({-4}\)’ neu ‘mae \({-4}\) yn fwy na neu’n hafal i \({x}\)’
Symbol\({\geq}\)
YstyrMae \({z}~{\geq}~{13}\) yn golygu ‘mae ‘\({z}\) yn fwy na neu’n hafal i \({13}\)’ neu ‘mae \({13}\) yn llai na neu’n hafal i \({z}\)’

Anhafaleddau ar linell rif

Gallwn ddangos anhafaleddau ar linell rif.

Defnyddir cylchoedd agored ar gyfer rhifau sy'n llai na neu'n fwy na (\({\textless}\) \({\textgreater}\)).

Defnyddir cylchoedd caeedig ar gyfer rhifau sy'n llai na neu’n hafal i a mwy na neu’n hafal i (\({\leq}\) neu \({\geq}\)).

Er enghraifft, dyma’r llinell rif ar gyfer yr anhafaledd \({x}~{\geq}~{o}\):

Llinell rif o -2 i 3 gyda chylch caeedig dros y 0 a saeth yn pwyntio heibio 3.

Y symbol sydd wedi ei ddefnyddio yma yw mwy na neu’n hafal i (\({\geq}\)) felly rhaid defnyddio cylch caeedig yn \({0}\). Mae \({x}\) yn fwy na neu’n hafal i \({0}\), felly rhaid i’r saeth sy’n mynd o’r cylch ddangos y rhifau sy’n fwy na \({0}\). Mae pen y saeth yn dangos bod yr holl rifau sy’n fwy na \({3}\) hefyd wedi eu cynnwys yn yr anhafaledd.

Enghraifft

Dangosa’r anhafaledd \({y}~{\textless}~{2}\) ar linell rif.

Ateb

Mae \({y}\) yn llai na (\({\textless}\)) \({2}\), sy’n golygu bod yn rhaid i ni ddefnyddio cylch agored yn \({2}\). Mae \({y}\) yn llai na \({2}\), felly rhaid llunio saeth ar gyfer y gwerthoedd sy’n llai na \({2}\). Mae pen y saeth yn golygu bod yr holl rifau sy’n llai na \({-5}\) hefyd wedi eu cynnwys yn yr anhafaledd.

Llinell rif o -5 i 5 gyda chylch gwag uwchben y 2 a saeth yn pwyntio tuag at -5.

Question

Pa anhafaledd mae’r llinell rif hon yn ei ddangos?

Llinell rif o -5 i 5 gyda chylch gwag dros y 4 a llinell yn cysylltu at gylch caeedig dros y -5.