Gwelliannau i iechyd cyhoeddus yn y 16eg, 17eg a’r 18fed ganrif
Yn ystod y 16eg, 17eg a’r 18fed ganrif bu ymdrechion i wella iechyd cyhoeddus. Pasiodd Harri VII ddeddf oedd yn dweud bod rhaid i bob lladd-dy fod y tu allan i furiau’r dref. Bu i’w fab, Harri VIII, roi pŵer i drefi godi trethi er mwyn adeiladu carthffosydd, ond ychydig iawn o drefi wnaeth hynny.
Yn 1647, dechreuodd cyngor tref Aberdeen broses o wenwyno llygod a llygod mawr. Roedd pobl yn dechrau cysylltu budreddi a chlefydau, ond nid oedden nhw'n deall pam.
Ond, amlygodd Pla Mawr 1665 y ffaith nad oedd iechyd y cyhoedd wedi gwella mewn gwirionedd. Fe geisiodd yr awdurdodau ddelio â’r pla drwy roi tai mewn cwarantin a gosod milwyr y tu allan i rwystro’r bobl rhag gadael eu tai. Ond, ymdrechion oedd y rhain yn eu hanfod i geisio rhwystro’r pla rhag lledaenu, yn hytrach na cheisio ei atal yn y lle cyntaf.

Mae nifer o haneswyr yn credu mai Tân Mawr Llundain yn 1666 a gyfrannodd fwyaf at wella iechyd cyhoeddus. Er mwyn lleihau’r risg o dannau eraill yn digwydd yn y dyfodol, penderfynwyd adeiladu’r ddinas drwy wneud y strydoedd yn lletach, gyda thai o gerrig a briciau a thoeau teils neu lechi. Roedd hynny’n golygu bod Llundain yn lle iachach i fyw ynddo.
Erbyn y 18fed ganrif, roedd y wlad yn raddol yn dod yn gyfoethocach. Dechreuwyd codi tai briciau, oedd yn gynhesach ac iachach, yn lle’r hen dai coed. Ym myd amaeth, arweiniodd cyflwyniad tir caeedigCanlyniad y broses o gau nifer fawr o dirddaliadau bychan er mwyn creu ffermydd mwy a mwy effeithlon. at ddulliau ffermio mwy effeithlon. Cynyddodd cynhyrchiant bwyd ac arweiniodd hynny at ddeiet gwell i rai pobl.
Ond, roedd yr ymdrechion yma i wella iechyd cyhoeddus yn gyfyngedig o ran eu llwyddiant.
- Roedd yn anodd codi arian er mwyn adeiladu carthffosydd neu gyflogi pobl i gael gwared ag ysbwriel. Fel yn achos y canrifoedd blaenorol, roedd yr ychydig arian yr oedd y frenhiniaeth yn llwyddo i’w godi mewn trethi yn debygol o gael ei wario ar y lluoedd arfog neu ar blastai brenhinol, yn hytrach na gwella iechyd cyhoeddus.
- Roedd trefi yn tyfu mor gyflym fel ei bod yn amhosibl eu cadw’n lân.
- Roedd lladd-dai, ee Smithfield yn Llundain, yn parhau i weithredu o fewn ffiniau trefi. Yn 1750, cyrhaeddodd 500,000 o ddefaid a 70,000 o wartheg Smithfield, gan greu symiau anferth o dail a gwastraff arall o bob math.
- Roedd pobl yn dal i gredu bod clefydau yn cael eu hachosi gan drewdodArogl o ddeunyddiau sy’n pydru, megis carthion anifeiliaid a phobl, y credid oedd yn achosi clefydau..