I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug WynTrionglau gwrthdaro'r cymeriadau

Mae'r nofel hon wedi ei seilio ar hanes Taith Fawr y Navaho ym 1864. Mae'n llawn gwrthdaro rhwng cymeriadau hanesyddol a dychmygol o blith y Navaho, yr Apache a'r Cotiau Glas.

Part of Llenyddiaeth GymraegNofelau

Trionglau gwrthdaro'r cymeriadau

Triongl gwrthdaro’r Navaho

Ar ben y triongl hwn mae Manuelito ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Herrero Grande ac Armijo.

Mae hwn yn driongl pwysig i’w gofio oherwydd ceir gwrthdaro mawr rhwng y cymeriadau hyn yn y nofel. Mae Manuelito eisiau ymosod ar y Cotiau Glas ac mae Armijo eisiau ildio, ond rhaid i’r ddau rico wrando ar benderfyniad Herrero Grande. Mae Herrero yn ochri ag Armijo a gwna hyn i Manuelito deimlo’n rhwystredig iawn.

Triongl gwrthdaro’r llwythau

Ar ben y triongl hwn mae Manuelito ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Geronimo a Chico.

Mae hwn yn driongl pwysig i’w gofio oherwydd mai un o’r Navaho ydy Manuelito a dau Apache ydy Geronimo a’i lysfab Chico. Roedd y Navaho yn llwyth heddychlon ac yn awyddus i drafod â’r Cotiau Glas, ond llwyth rhyfelgar oedd yr Apache ac mae Geronimo a Manuelito yn gwrthdaro llawer oherwydd hyn. Mae Chico yn gwrthdaro â Manuelito, ei dad-yng-nghyfraith oherwydd ei fod yn credu nad ydy’r Navaho â digon o asgwrn cefn ac mae’n cytuno’n llwyr â’i lysdad Geronimo, bod yn rhaid ymladd.

Triongl gwrthdaro’r Cotiau Glas

Ar ben y triongl hwn mae’r Cadfridog Carleton ac yn y ddwy gornel ar y gwaelod mae Kit Carson a Victor Dicks.

Mae hwn yn driongl pwysig i’w gofio oherwydd mai Carleton ydy’r un sy’n rhoi gorchmynion i Carson a Dicks. Mae Carson yn anghytuno’n chwyrn â phenderfyniadau a thactegau milwrol Carleton ac mae’n casáu Dicks â chas perffaith. Mae Dicks yn credu mai Indiad ydy Carson yn y bôn ac mae Carleton yn defnyddio Dicks i wneud ei waith budr er mwyn difa’r Navaho a’r llwythau eraill. Mae Dicks yn mwynhau’r holl drais yn erbyn yr Indiaid.