Cyflwyniad llafar unigol - themâu
Dyma syniadau i ti am bynciau i’w trafod o dan y themâu disgwyliedig.
Cofia bydd angen i ti rannu dy gyflwyniad yn agweddau trefnus. Er enghraifft, petaet yn dewis cyflwyno gwybodaeth ar Urdd Gobaith Cymru dyma’r math o agweddau y gallet eu trafod:
Agwedd un - Syr Ifan ab Owen Edwards
Agwedd dau - Hanes yr Eisteddfod
Agwedd tri - Gwersyll Llangrannog, Glan Llyn a Chaerdydd
Agwedd pedwar - Yr Urdd heddiw
Wrth ddewis pwnc, ystyria’r hyn rwyt ti’n astudio yn yr ysgol. Efallai y gallet ti ddefnyddio’r hyn rwyt ti wedi ei ddysgu yn dy wersi wrth gyflwyno dy wybodaeth, ond dylet gyflwyno’r wybodaeth yn dy eiriau dy hun, a dewis yr hyn sy’n berthnasol i dy bwnc yn unig.