Darganfod DNA
James Watson a Francis Crick
Darganfuwyd DNA am y tro cyntaf yn y 19eg ganrif, ond roedd ei swyddogaeth yn ddirgelwch. Ar ddechrau’r 1950au astudiodd y myfyrwyr Rosalind Franklin a Maurice Wilkins DNA drwy ddefnyddio pelydrau X.
Cynhyrchodd Franklin ffotograff pelydr X oedd yn galluogi i ddau ymchwilydd arall, James Watson a Francis Crick, weithio allan beth oedd strwythur 3D DNA. Canfuwyd bod strwythur DNA yn helics dwblSiâp moleciwl DNA gyda dwy gainc wedi eu troelli gyda’i gilydd i greu sbiral..
Roedd model Crick a Watson yn helpu i egluro sut mae DNA yn dyblygu a sut mae’n cario gwybodaeth enetig mewn pobl. Dyma oedd sail datblygiadau sylweddol ym maes bioleg foleciwlaidd sy’n parhau hyd heddiw. Moleciwlau sy’n cario’r cyfarwyddiadau genetig a ddefnyddir gan bob organeb byw hysbys i dyfu, datblygu, gweithredu ac atgenhedlu.
Prosiect y Genom Dynol
Gelwir y wybodaeth enetig mewn organeb yn enom. Dechreuwyd Prosiect y Genom Dynol (Human Genome Project - HGP) ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Roedd gwyddonwyr o 18 o wledydd yn rhan o’r prosiect ac roedd yn dangos pwysigrwydd cydweithredu wrth ddatblygu gwybodaeth feddygol. Roedd yn uchelgeisiol iawn, ac roedd iddo nifer o amcanion, yn cynnwys:
- gweithio allan dilyniant y tri biliwn o barau yn y genom dynol
- canfod yr holl enynnau
- datblygu dulliau cyflymach o ddilyniannu DNA
Cwblhawyd y prosiect dilyniannu yn 2003, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen er mwyn canfod yr holl enynnau yn y genom dynol.
Addasu DNA
Drwy addasu DNA mae’n bosibl y gellir dileu clefydau genetig. Gellir defnyddio DNA i sgrinio pobl am glefydau genetig, ee canser y fron, ac fe’i defnyddiwyd hefyd i ddadwneud mwtadiadau sy’n achosi dallineb, rhwystro celloedd canser rhag lluosogi ac achosi i rai celloedd allu gwrthsefyll AIDSSyndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig – afiechyd ar y system imiwnedd sy’n cael ei achosi gan haint Firws Imiwnoddiffygiant Dynol (.