TrafodAraith

Yn y canllaw hwn mae enghreifftiau o ffurfiau sydd yn trafod. Mae’r canllaw yn nodi beth yw pwrpas y mathau yma o destunau ac yn nodi beth sydd yn angenrheidiol o ran iaith ac arddull.

Part of CymraegYsgrifennu

Araith

Pwrpas araith yw cyflwyno gwybodaeth i gynulleidfa ar lafar. Gan amlaf mae’r person sydd yn cyflwyno’r araith eisiau i’r gynulleidfa gytuno gyda nhw.

Iaith ac arddull

  • Rhaid i ti gyfarch y gynulleidfa.
  • Rhaid i ti nodi am beth fydd yr araith yn sôn yn y paragraff agoriadol.
  • Rhaid i ti fynegi dy farn a chynnig rhesymau i gefnogi.
  • Rhaid i ti ddefnyddio iaith berswadiol.
  • Rhaid i ti ddefnyddio tystiolaeth ar ffurf ystadegau i gefnogi dy farn.
  • Rhaid i ti, ar adegau, ystyried dwy ochr y ddadl.
  • Rhaid i ti gynnwys technegau, ee ailadrodd, cwestiynau rhethregol, rhestru.

Question

Mae'r cynnwys dan y pennawd 'Pwrpas' yn y drefn anghywir. Aildrefna'r cynnwys yn gywir.

TechnegPwrpas
Cwestiwn rhethregolNodi mwy nag un rheswm/ystadegyn un ar ôl y llall i bwysleisio
Cyfarch y gynulleidfaDweud yr un peth ddwywaith i bwysleisio
RhestruGofyn cwestiwn lle nad oes angen ateb i annog y gynulleidfa i feddwl
AiladroddI sicrhau fod dy farn a dy safbwynt yn glir
Defnyddio ymadroddion sy’n mynegi barnAnnog y gynulleidfa i feddwl a theimlo fod y cyflwynydd yn siarad gyda nhw
TechnegCwestiwn rhethregol
PwrpasNodi mwy nag un rheswm/ystadegyn un ar ôl y llall i bwysleisio
TechnegCyfarch y gynulleidfa
PwrpasDweud yr un peth ddwywaith i bwysleisio
TechnegRhestru
PwrpasGofyn cwestiwn lle nad oes angen ateb i annog y gynulleidfa i feddwl
TechnegAiladrodd
PwrpasI sicrhau fod dy farn a dy safbwynt yn glir
TechnegDefnyddio ymadroddion sy’n mynegi barn
PwrpasAnnog y gynulleidfa i feddwl a theimlo fod y cyflwynydd yn siarad gyda nhw

Dyma ddwy enghraifft o baragraff agoriadol araith.

Enghraifft un

Annwyl gyfeillion. Rydych chi wedi ymgasglu yma heddiw i wrando ar fy araith am hela llwynogod, pwnc sydd yn fy marn i, yn hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru heddiw. Wrth wrando ar fy araith, cewch gyfle i ystyried nifer o ddadleuon gwahanol o blaid ac yn erbyn hela llwynogod. Mae digon i’w ddweud — mae ymladd teirw wedi bod yn bwnc gyda digon o drafod tanllyd amdano yn ddiweddar. Tybed beth yw eich barn chi? Tybed a ydych chi’n cytuno gyda mi fod y weithred o hela llwynog yn un hynod o farbaraidd a chreulon? Neu, a ydych chi’n un o’r rhai hynny sydd yn cyfaddef fod y llwynog druan yn haeddu’r fath greulondeb? Os ydych chi’n cyfri eich hun yn rhan o’r ail garfan, yna rwy’n gobeithio y byddaf wedi llwyddo i newid eich meddyliau erbyn diwedd fy araith.

Enghraifft dau

Annwyl flwyddyn 10. Mae technoleg yn felltith oherwydd gall arwain at fwlio. Mae 14 y cant o blant yn y DU wedi cael eu bwlio trwy gyfrwng ffonau symudol. Dw i’n credu mai rhan o’r broblem yw fod camerâu a gwefannau cymdeithasol fel Facebook ar gael ar y ffonau symudol erbyn hyn sydd yn achosi llawer o broblemau.

Pa un yw’r orau a pham?

Y cyntaf sydd orau oherwydd:

  • mae’n cynnwys cwestiynau rhethregol, ee ‘Tybed beth yw eich barn chi?’,‘Tybed a ydych chi’n cytuno gyda mi fod y weithred o hela llwynog yn un hynod o farbaraidd a chreulon?’
  • mae'n ailadrodd, ee caiff ‘tybed’ ei ddefnyddio ddwywaith ar ôl ei gilydd
  • mae'n rhestru, ee caiff y cwestiynau rhethregol eu rhestru un ar ôl y llall
  • mae’r siaradwr yn cyfarch y gynulleidfa, ee ‘annwyl gyfeillion’, ‘cewch’, ‘ydych chi’

Ysgrifenna araith yn mynegi dy farn am reolau’r ysgol.