Natur troseddauNatur troseddau o thua 1500 hyd heddiw

Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Natur gweithgaredd troseddol o thua 1500 hyd heddiw

Mathau o droseddu

Mae yna wahanol fathau o weithgaredd troseddol.

Tri o weithgareddau torcyfraith gwahanol – troseddau yn erbyn person, awdurdod neu eiddo.
Troseddau yn erbyn...DisgrifiadEnghreifftiau
UnigolynTrosedd pan fo unigolyn yn cael ei niweidioLlofruddiaeth, dynladdiad, ymosodiad, troseddau rhyw
AwdurdodTrosedd sy’n gwrthwynebu neu’n bygwth y llywodraeth neu arweinwyrTeyrnfradwriaeth, cynllwynio, ysbïo
EiddoTrosedd sy’n targedu eiddoSmyglo, twyll, lladrata, byrgleriaeth
Troseddau yn erbyn...Unigolyn
DisgrifiadTrosedd pan fo unigolyn yn cael ei niweidio
EnghreifftiauLlofruddiaeth, dynladdiad, ymosodiad, troseddau rhyw
Troseddau yn erbyn...Awdurdod
DisgrifiadTrosedd sy’n gwrthwynebu neu’n bygwth y llywodraeth neu arweinwyr
EnghreifftiauTeyrnfradwriaeth, cynllwynio, ysbïo
Troseddau yn erbyn...Eiddo
DisgrifiadTrosedd sy’n targedu eiddo
EnghreifftiauSmyglo, twyll, lladrata, byrgleriaeth

Faint o droseddu?

Mae tystiolaeth gan lysoedd, ynadon, heddlu ac arolygon yn helpu haneswyr i nodi lefelau troseddau mewn cyfnodau gwahanol. Yn fwy diweddar mae'r cyfryngau hefyd yn darparu tystiolaeth o droseddau drwy erthyglau newyddion ac apeliadau am wybodaeth.

Efallai nad oedd troseddau a adroddwyd wedi cael eu cofnodi neu efallai na wnaethon nhw gyrraedd y llys. Mae cofnodion hefyd wedi cael eu colli.

Ar brydiau mae’n ymddangos bod troseddu ar gynnydd, ond mewn gwirionedd gall fod o ganlyniad i amryw o ffactorau fel pan mae'r awdurdodau yn rhoi mwy o ymdrech i daclo math penodol o droseddu, neu mae gan bobl fwy o hyder i adrodd math penodol o drosedd. Mae deddfau newydd wedi creu troseddau newydd, ac mae hynny hefyd yn ei gwneud yn anodd cymharu troseddau o wahanol gyfnodau.

Yr 16eg a’r 17eg ganrif

Mae’n ymddangos bod y gyfradd droseddu wedi codi yn ystod y 1500au ac yna wedi gostwng yn ystod canol y 1600au. Roedd y gostyngiad hwn yn ganlyniad i:

  • gynaeafau da yn hanner olaf y 1600au
  • gostyngiad yn nhwf y boblogaeth
  • mwy o waith ar gael

Roedd yna gynnydd mawr mewn cyfraddau troseddau yn dilyn cynhaeaf gwael, neu ar ôl ryfel pan yr oedd milwyr yn dychwelyd adref. Roedd yna hefyd ostyngiadau mewn cyfraddau troseddu, fel arfer yn ystod rhyfeloedd.

Yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif, fel yn yr oesoedd canol, y prif droseddau oedd yn bodoli oedd lladrata a thrais. Y troseddau mwyaf cyffredin oedd lladrata symiau bychain o arian, bwyd ac eiddo. Roedd troseddau treisgar yn y lleiafrif.

Roedd gwybodaeth am droseddau yn cael ei lledaenu yn ehangach am fod cynnydd mewn llythrennedd pobl ac am fod mwy o ar gael. Roedd y rhain yn aml yn canolbwyntio ar droseddau treisgar neu droseddau newydd a arweiniodd at gamddealltwriaeth ymhlith nifer fod troseddau ar gynnydd yn ystod y cyfnod hwn.

Y 18fed a’r 19eg ganrif

Mae’n debyg bod y gyfradd droseddu wedi aros yn weddol sefydlog ar ddechrau’r 1700au. Ond, rhwng 1750 ac 1850 bu cynnydd sylweddol mewn troseddu. Digwyddodd hynny yn ystod y Chwyldro Diwydiannol ac Amaethyddol.

Rhwng 1810 ac 1820 y bu’r cynnydd mwyaf sylweddol mewn troseddu. Digwyddodd hynny yn ystod cyfnod o gynnydd mewn prisiau bwyd, tlodi, a diweithdra ar ôl y rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc. Ar ôl 1850 dechreuodd y gyfradd droseddu gwympo’n raddol. Roedd hynny’n gysylltiedig â’r heddluoedd newydd, a’r newidiadau i’r system gosbi.

Roedd mân ladrata yn dal yn cyfateb i tua 75 y cant o’r troseddau yr ydym yn ymwybodol ohonynt yn ystod y cyfnod hwn. Fel yn achos y canrifoedd blaenorol, roedd troseddau treisgar yn y lleiafrif, yn cyfateb i ddim ond 10 y cant o’r troseddau efallai. Er gwaethaf enwogrwydd rhai troseddwyr rheolaidd megis Dick Turpin, roedd y rhan fwyaf o’r troseddu yn cael eu cyflawni gan droseddwyr tro cyntaf, neu droseddwyr achlysurol. Roedd y rhan fwyaf o’r troseddwyr yn ddynion o dan 30 oed.

Roedd llawer o bobl y cyfnod yn credu bod troseddu yn fwy cyffredin nag yr oedd mewn gwirionedd. Roedd deddfwyr yn ofni gwrthryfel, ac roedd yna ofn troseddau oedd yn gynyddol dreisgar.

Yr 20fed a’r 21ain ganrif

Ar ddechrau’r 1900au parhaodd troseddu i ostwng, fel y gwnaeth ers 1850. Ond, o 1950 ymlaen, mae'r cyfradd troseddu a adroddir wedi codi’n sylweddol. Mae cyfradd y cynnydd mewn troseddu wedi bod yn gyflymach na’r cynnydd yn nhwf y boblogaeth.

Cynhaliwyd nifer cynyddol o arolygon o’r boblogaeth, ac mae hynny wedi ein helpu i ddeall cyfraddau troseddu na adroddwyd. Roedd un arolwg yn y 1980au yn awgrymu bod yna dair gwaith gymaint o ladradau yn cael eu cyflawni nag oedd yn cael eu hadrodd i’r heddlu.

Ond, yn ystod y canrifoedd yma mae’n debyg bod nifer y troseddau na adroddwyd wedi gostwng o’i gymharu â chanrifoedd blaenorol. Erbyn heddiw mae pobl yn fwy parod i adrodd troseddau i’r heddlu, ac mae’r heddlu yn fwy cyson o ran cofnodi pob trosedd a adroddir.

Efallai bod y ffactorau yma yn gwneud iddi ymddangos bod y cynnydd mewn troseddu wedi bod yn fwy sylweddol nag ydyw mewn gwirionedd. Felly, mae troseddu wedi cynyddu, ond nid i’r un graddau ag y mae ystadegau ar droseddau a adroddir yn ei ddangos.