Sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein hamgylchedd?
Newid hinsawdd a riffiau cwrel trofannol
Mae Awstralia’n wlad enfawr ac mae newid hinsawdd yn achosi llawer o effeithiau yno. Un o’r ecosystemau mwyaf bregus yn Awstralia yw’r Barriff Mawr. Mae’r ecosystem riff trofannol hon yng ngogledd-ddwyrain Awstralia, ac erbyn hyn mae’n cael ei heffeithio gan glefyd cannu cwrelau. Mae’r cyflwr hwn yn digwydd pan mae tymheredd y môr yn codi dros un gradd yn fwy na’r cyfartaledd. O ganlyniad, mae’r cwrel yn troi’n wyn, mae’r broses ffotosynthesis yn dod i ben, ac mae’r cwrel yn aml yn marw o ganlyniad i’r clefyd.

Newid hinsawdd a’r DU
Mae’r DU hefyd wedi gweld llawer o broblemau yn uniongyrchol o ganlyniad i gynhesu byd-eang:
- digwyddiadau tywydd eithafol
- mwy o risg o lifogydd
- colli planhigion yr ucheldir
- rhywogaethau goresgynnol
Effeithiau negyddol newid hinsawdd yn y DU yw’r rhain, ond mae rhai effeithiau cadarnhaol hefyd. Os bydd y tymheredd yn codi a phelydriad solar yn cynyddu, gallai’r DU gynhyrchu mwy o egni o ffynonellau adnewyddadwy, er enghraifft egni’r haul. Ledled y DU, mae busnesau, perchnogion cartrefi a ffermwyr wedi bod yn defnyddio egni’r haul i gynhyrchu trydan. Mae hyn yn golygu bod llai o egni’n cael ei gynhyrchu gan nwyon tŷ gwydr – bydd hyn yn fuddiol i’n planed a bydd yn lleihau effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Effeithiau tymor byr a thymor hir
Effeithiau cymdeithasol
Mae llawer o bobl mewn cymunedau arfordirol yn wynebu perygl llifogydd. Efallai y bydd angen symud pobl o bentrefi cyfan oherwydd bod lefel y môr yn codi ac erydiad arfordirol yn achosi problemau.
Effeithiau economaidd
Gallai hafau mwy sych a chynnes gynyddu incwm drwy dwristiaeth. Fodd bynnag, gallai difrod llifogydd, costau yswiriant uwch a mwy o wario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd roi pwysau mawr ar wariant llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog.
Effeithiau amgylcheddol
Bydd mwy o risg o stormydd eithafol yn golygu bod ardaloedd yn mynd dan ddŵr, a’r tir yn cael ei ddifetha. Gallai rhywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion gael eu colli wrth iddynt symud tua’r gogledd i chwilio am hinsoddau oerach. Gallai rhywogaethau goresgynnol newydd o’r de hefyd ganfod eu ffordd i lannau Prydain a chael effaith negyddol ar gynefinoedd lleol.
Dyfodol gwahanol
Yn y dyfodol mae’n debygol y bydd pobl yn gorfod cyfrannu mwy mewn trethi er mwyn talu am yr amddiffynfeydd llifogydd ychwanegol a’r ‘pwysau’ ychwanegol ar wasanaethau iechyd. Efallai y bydd pobl yn gorfod gadael y cymunedau arfordirol mwyaf agored i niwed a chwilio am dai newydd. Bydd costau yswiriant uwch hefyd yn golygu bod rhai pobl yn methu â fforddio amddiffyn eu cartrefi. Efallai y bydd yn rhaid i fusnesau ffermio newid neu addasu i gyfnodau newydd mwy gwlyb a sych – bydd rhai’n ffynnu ond bydd llawer yn dioddef.
(Cynnwys Saesneg)