Beth sy'n achosi daeargryn?
Cynnwrf neu gryndod sydyn yng nghramen y Ddaear yw daeargryn. Mae platiau’r Ddaear yn symud o hyd, ac weithiau, oherwydd ffrithiant, maen nhw’n cloi. Mae gwasgedd yn crynhoi gan fod y platiau’n dal i geisio symud. Pan mae’r gwasgedd yn cael ei ryddhau mae llawer iawn o egni’n cael ei ryddhau, ac mae hyn yn achosi i arwyneb y Ddaear grynu’n ofnadwy.
Enw’r man y tu mewn i gramen y Ddaear lle mae’r daeargryn yn tarddu yw’r canolbwynt. Mae egni’r daeargryn yn cael ei ryddhau mewn tonnau seismig sy’n ymledu o’r canolbwynt. Mae’r tonnau seismig ar eu cryfaf yn yr uwchganolbwyntY pwynt ar arwyneb y Ddaear sy’n union uwch ben canolbwynt daeargryn.. Yr uwchganolbwynt yw’r man ar arwyneb y Ddaear yn union uwchben y canolbwynt.
Mae daeargrynfeydd yn digwydd ar y tri math o ffin plât – ffiniau platiau adeiladol, distrywiol a chadwrol
(Cynnwys Saesneg)