Crysau-t lliwgar
ANNA Dw i eisiau prynu crys-t newydd.
RHYS Beth ydy dy hoff liw, Anna?
ANNA Dw i ddim yn siŵr iawn, ond dw i’n hoffi coch.
RHYS Wyt ti’n hoffi hwn?
ANNA Ymmm…Dw i am drio’r crys-t yn yr ystafell newid.
Dydw i ddim yn hoffi’r crys-t coch achos dydy e ddim yn ffitio.
RHYS Wyt ti eisiau trio crys-t lliw arall?
ANNA Ydw plîs. Un melyn ac un gwyrdd efallai?
RHYS Pa liw wyt ti’n hoffi? Melyn? Gwyrdd?
ANNA Dw i’n hoffi’r ddau!
RHYS Wel? Wyt ti am brynu un o’r crysau-t?
ANNA Na. Dw i eisiau trio crys-t porffor plîs.
RHYS Dyma grys-t porffor gyda seren lwyd.
ANNA Diolch.
Dw i eisiau trio lliwiau eraill, Rhys!
RHYS Gwyn fel yr eira.
Du fel y nos.
Glas fel y môr.
Oren fel…wel, oren.
Pa liw wyt ti’n hoffi orau, Anna?
Anna!