Beth sy’n rhoi hunaniaeth i le?
Mae hunaniaeth lle yn cael ei ffurfio gan set gymhleth a rhyng-gysylltiedig o ffactorau ond does dim angen yr holl ffactorau hyn ar le i gael hunaniaeth. Gall y lle fod o unrhyw faint - mor fach ag ystafell wely neu mor fawr â dinas neu wlad hyd yn oed.
Ffisegol
Mae lleoedd yn gallu cael eu hadnabod a chael hunaniaeth drwy eu nodweddion ffisegol. Gall y rhain amrywio o adeiladau a strydoedd i fynyddoedd, coedwigoedd ac afonydd. Bydd nifer o bobl yn cysylltu lle â nodwedd ffisegol benodol fel y pyllau glo yn ne Cymru neu dirlun mynyddig Parc Cenedlaethol Eryri.
Hanesyddol
Gall ffactorau eraill sy'n rhoi hunaniaeth i le fod yn gysylltiedig â'i hanes. Gall hyn chwarae rôl yn y ffordd y gallai pobl leol ac eraill gysylltu â lle oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol iddyn nhw. Gallai hynny fod drwy hanes diwydiant sydd wedi chwarae rhan bwysig yn yr ardal leol neu drwy frwydrau sydd wedi’u hymladd yno.
Personol
Gallwn hefyd ganfod hunaniaeth lle ar lefel llawer mwy personol drwy ein teimladau, ein hemosiynau a’n cysylltiadau â’r lle. Efallai y bydd pobl yn gweld ardal yn wahanol ar sail eu profiadau neu eu cysylltiadau. Gallai hyn fod drwy iaith, diwylliant neu hyd yn oed chwaraeon. Yn aml bydd gan bobl gysylltiad â lle oherwydd tîm chwaraeon lleol. Mae Wrecsam yn enghraifft dda o hyn, lle mae’r tîm pêl-droed lleol yn chwarae rhan bwysig ym mywydau’r bobl sy’n byw yno ac mae’n rhan bwysig o’u hunaniaeth.
Gall y profiadau sydd gennym o ardal hefyd siapio ei hunaniaeth. Gall adroddiadau newyddion am le bortreadu’r ardal mewn ffordd bositif neu negyddol i bobl sydd ddim yn byw yno.
Gwylio: Fideo Hunaniaeth lle
Gwylia’r clip byr yma i ddysgu sut gall lle ffurfio hunaniaeth
Mae ein cartre’n dylanwadu’n fawr ar ein hunaniaeth. Yn nhermau diwylliant, iaith… hyd yn oed chwaraeon. Fe allwn ni ddweud bod gan le ei hunaniaeth ei hun. Ac, fel ein un ni, gall yr hunaniaeth yna newid dros amser.
Dros y rhan fwyaf o’r ddwy ganrif ddiwethaf, roedd Aberfan ger Merthyr Tudful yn bentre glo cyffredin - yr un fath â nifer o bentrefi diwydiannol drwy gymoedd de Cymru.
Daeth y drychineb ar fore 21 Hydref, 1966. Llithrodd y domen lo uwchben y pentre, gan gladdu llawer o Aberfan - gan gynnwys ysgol gynradd Pantglas. Collodd 28 o oedolion a 116 o blant eu bywydau.
Roedd Aberfan nawr yn llawer mwy na phentre glo cyffredin. Daeth i sylw Cymru, y Deyrnas Unedig, y byd … a’r cyfryngau. A tra bod y sylw yma wedi dod â channoedd o bobl i’r pentre er mwyn helpu ar ôl y drychineb, cafodd yr effaith o newid hunaniaeth Aberfan dros nos.
Heddiw, mae plant Aberfan wedi eu magu yng nghysgod y drychineb. Yn naturiol, bydd hunaniaeth y pentre yn cael ei siapio am byth gan y bore erchyll yna ym 1966. Mewn lleoedd eraill, mae ymosodiadau terfysgol wedi cael effeithiau tebyg.
Ar ôl yr ymosodiad yn Efrog Newydd ar 11 Medi, 2001, newidiodd y ddinas yn syth. Cafodd gwahaniaethau gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol eu anghofio - dros dro - wrth i’r ddinas ddod at ei gilydd er mwyn ailadeiladu. Mae’n eironi mawr bod yr adegau tywyllaf yn ein hanes yn medru dod â’r gorau allan o bobl. Ond weithiau, mae newidiadau mewn hunaniaeth lle yn medru gwneud i ni ymateb tipyn bach yn ffyrnicach.
Rhwng 1979 a 1994, cafodd dros 200 o dai gwyliau yng Nghymru eu llosgi. Gwnaeth sawl grŵp hawlio cyfrifoldeb, gan gynnwys Meibion Glyndŵr - oedd yn protestio yn erbyn y prisiau tai uchel a’r newid mewn iaith oherwydd mudo o Loegr. I’r bobl yma, roedd hunaniaeth eu cartre yn union yr un fath â’u hunaniaeth eu hunain. A roedden nhw’n fodlon mynd yn bell iawn i’w rwystro rhag newid.
Gall hunaniaeth lle hefyd gael ei newid yn fwriadol. Yn y 19eg, arweiniodd twf cyflym diwydiant yng Nghymru at ddatblygiad yr un mor gyflym yng Nghaerdydd - Tiger Bay. Yn y cyfnod hwn, daeth gweithwyr o dros bedwar deg pump o wledydd i fyw yng Nghaerdydd, gan ei wneud yn un o ardaloedd mwyaf amlddiwylliannol Cymru, a’r Deyrnas Unedig gyfan.
Ond wrth i lai a llai o lo gael ei allforio, daeth Tiger Bay yn llai ac yn llai llewyrchus. Ac felly, ar ddiwedd yr 20fed ganrif, cafodd ei drawsnewid. Yr hen dirwedd wedi ei sgubo i ffwrdd yn llwyr, gan ddod yn gartref i adeiladau eiconig fel Canolfan y Mileniwm, a’r Senedd. O, a cafodd yr enw ei newid - i Fae Caerdydd.
Falle bod Tiger Bay wedi mynd, ond mae ’na bobl sy’n dal i’w gofio. Sydd ag atgofion yr un mor fyw o Tiger Bay a Bae Caerdydd. Mae’n dangos pa mor bwysig yw cadw hanes yn fyw. A thra bod llefydd yn medru newid dros amser, does dim rhaid i ni newid gyda nhw.
Newid hunaniaeth lle
Mae hunaniaeth lle yn gallu newid yn sylweddol dros amser. Gall mudo ddod â phobl o gefndiroedd gwahanol sy’n gallu dylanwadu ar ddiwylliant ac arferion lleol. Gall llywodraethau benderfynu buddsoddi mewn ardal. Mae rhaglenni ailddatblygu a boneddigeiddio yn gallu rhoi bywyd newydd i ardal a oedd unwaith yn cael ei hystyried yn hen a diffaith a'i gwneud hi'n ardal fodern a dylanwadol yn llawn siopau, fflatiau a mannau gwyrdd.
Bae Caerdydd
Roedd gan yr ardal rydyn ni nawr yn ei hadnabod fel Bae Caerdydd hunaniaeth wahanol iawn. Cafodd ei galw’n Tiger Bay yn wreiddiol oherwydd y ceryntau ffyrnig yn yr Afon Hafren gerllaw. Roedd yn lleoliad pwysig iawn yn ystod yr oes ddiwydiannol.
Roedd y dociau yng Nghaerdydd yn allforio glo o gymoedd de Cymru i weddill y byd. Roedd adeiladu Camlas Sir Forgannwg, a oedd yn cysylltu Merthyr Tudful â Chaerdydd, yn ei gwneud hi’n haws cludo haearn a glo, ac arweiniodd hynny at dwf y dociau. Wrth i'r dociau ddatblygu cafodd morwyr a gweithwyr y dociau o bob rhan o’r byd eu denu i Gaerdydd. Fe wnaethon nhw setlo mewn ardaloedd fel Trebiwt, gan gyfrannu at y cynnydd ym mhoblogaeth y ddinas a rhoi cymeriad amlddiwylliannol unigryw i’r ardal.

Dirywiad
Fe wnaeth y dociau ddirywio yn ystod yr 1960au a’r 70au oherwydd roedd mwy o gystadleuaeth oddi wrth porthladdoedd eraill. Erbyn yr 1980au, aeth rhannau mawr o’r dociau yn ddiffaith, gan baratoi'r ffordd ar gyfer ei ailddatblygu.


Ailddatblygu
Yn yr 1990au, dechreuodd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ailddatblygu’r ardal. Cafodd morglawdd ei adeiladu i greu llyn dŵr croyw newydd o fewn y bae, gan newid golwg y bae yn gyfan gwbl. Yn y blynyddoedd ar ôl hynny, cafwyd nifer o ddatblygiadau newydd fel Gwesty Dewi Sant, Techniquest, Cei’r Fôr-forwyn, Canolfan Mileniwm Cymru a’r Senedd.
Mae’r newidiadau hyn wedi ail-ddychmygu hunaniaeth yr ardal yn llwyr – o ardal ddiwydiannol i ardal sydd bellach yn gartref i benderfyniadau gwleidyddol ac sydd hefyd yn cynnig nifer o gyfleusterau cymdeithasol, fel bwytai a chanolfan gelfyddydol.
Fel nifer o ardaloedd eraill sydd wedi eu hailddatblygu, cafwyd gwrthwynebiad gan nifer o bobl leol yn sgil trawsnewid y dociau i Fae Caerdydd. Roedd adroddiadau’n honni bod yr ailddatblygiad heb gynnwys cymuned leol Trebiwt, a oedd yn dadlau y byddai newid yr ardal yn amharu ar gymunedau lleol a chynefinoedd bywyd gwyllt. Mae rhaniad sylfaenol rhwng y Bae a Threbiwt o hyd.

Canary Wharf
Ardal arall o’r DU sydd wedi mynd drwy newidiadau tebyg yw Canary Wharf yn Llundain, ar safle’r hen West India Docks. Roedd unwaith yn un o borthladdoedd prysuraf y byd, ond fe gaeodd yn 1980.
Dirywiad
Dechreuodd ardal y dociau ddirywio yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan roedd y dociau yn brif darged ar gyfer cyrchoedd awyr yn ystod y Blitz. Cyfrannodd y defnydd cynyddol o longau cynwysyddion hefyd at y dirywiad. Gallai'r rhain gludo mwy o nwyddau ond roedden nhw’n rhy fawr i hwylio ar hyd yr afon Tafwys i gyrraedd Dociau Llundain.
Ailddatblygu
Yn ystod yr 1980au a’r 1990au, dechreuodd Corfforaeth Datblygu Dociau Llundain (London Docklands Development Corporation) ailddatblygu’r ardal gan ei newid o safle diffaith i ardal y gallai’r sector ariannol ei defnyddio. Adeiladwyd ffyrdd a chysylltiadau rheilffordd newydd i gysylltu'r ardal â gweddill Llundain ac adeiladwyd nendyrau mawr ar gyfer swyddfeydd, canolfannau siopa a thai bwyta.
Mae rhai pobl sy’n dal i fyw yn yr ardaloedd cyfagos yn ansicr o'r newidiadau i Canary Wharf. Mae nifer yn credu bod y swyddi newydd a grewyd yno ar gyfer gweithwyr medrus iawn sydd â gradd neu'n dod o rywle arall.
Mae nifer o bobl yn credu bod y rheini sy’n gweithio yn Canary Wharf yn dewis byw mewn rhannau cyfoethocach o’r ddinas ac yn cymudo i’r gwaith. O ganlyniad, dim ond swm bach o'r arian maen nhw’n ei ennill sy'n cael ei fuddsoddi nôl yn nwyrain Llundain. Mae hyn wedi cyfrannu at raniad cynyddol rhwng yr hen fwrdeistrefi a datblygiad newydd Canary Wharf a'r hunaniaethau gwahanol iawn sydd ganddyn nhw erbyn hyn.

Colli hunaniaeth
Mae rhai ardaloedd o’r DU yn wynebu problemau cynyddol gyda cholli eu hymdeimlad o hunaniaeth. Un enghraifft nodedig o hyn yw Gwynedd.
Yn 2021, roedd 9% o dai’r sir yn ail gartrefi. Roedd y ffigur hwn mor uchel â thua 23% ym Meddgelert a 25% yn Aberdaron.
Mae rhai pobl yn teimlo ei bod yn fwyfwy anodd cynnal hunaniaeth leol a chenedlaethol yr ardal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd galw cynyddol am dai yn yr ardaloedd hyn wrth i bobl brynu tai i’w defnyddio fel ail gartrefi neu gartrefi gwyliau. Wrth i’r galw am dai gynyddu mae gwerth y tai yn codi. Mae hyn yn aml yn golygu nad yw pobl leol yn gallu fforddio prynu tŷ yn yr ardal ac yn gorfod symud o’r ardal.
Gan ei bod yn bosib mai dim ond am ran o'r flwyddyn y bydd ail gartrefi yn cael eu defnyddio, efallai y bydd siopau a thafarndai lleol yn gorfod cau gan nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae'r sefydliadau hyn fel arfer yn ganolbwynt i gymunedau, ac wrth iddyn nhw ddirywio, efallai y bydd yr ysbryd a'r traddodiadau sy'n gysylltiedig â nhw yn cael eu colli.
Protestiadau
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl leol wedi cynnal sawl protest i godi ymwybyddiaeth o’r broblem ac i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Yn 2017, rhoddwyd hawl i awdurdodau lleol yng Nghymru godi hyd at ddwbl cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi.
Yn 2023, rhoddodd Llywodraeth Cymru bwerau ychwanegol i awdurdodau lleol, er mwyn iddyn nhw allu:
- codi hyd at bedair gwaith cyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi
- newid rheolau cynllunio i’w gwneud yn anoddach i dai a fflatiau gael eu prynu fel cartrefi gwyliau

More on Hunaniaeth
Find out more by working through a topic
- count1 of 3
- count2 of 3