ERIN …a dyna pam bod y casgliad yma o ddillad mor ddiddorol, oherwydd … o, edrycha! Dyna brif leisydd band yr ysgol.
RHODRI Sion Paul.
SION Hei, Rhodri. Dw i'n hoffi’r lluniau ar dy flog.
ERIN Blog?
RHODRI Y blog dw i’n gofyn i ti edrych arno bob dydd. Rwyt ti’n dweud dy fod ti’n ei ddarllen o… mai dyna dy hoff flog di yn y byd i gyd? Mae o i gyd am Sion Paul. Ei holl gigs, ei holl ganeuon, beth mae o’n ei gael i frecwast…
ERIN Waw, mae gyda ti bron i ddau gant wedi tanysgrifio! Ond byddai fe’n gallu bod cymaint yn well. Ga' i awgrymu cwpl o bethau?
RHODRI Na chei.
ERIN Yn gyntaf, mae angen bach mwy o liw arnat ti. Rhywbeth i ddal llygaid y darllenwyr. Dy gynulleidfa. Tyrd i’w 'nabod nhw, a beth maen nhw eisiau ei ddarllen. Dw i’n meddwl dy fod ti’n defnyddio iaith braidd yn rhy ffurfiol. Edrycha ar dy benawdau di. Allen ni ei wneud e’n fwy bachog a chryno?
RHODRI Beth am: “Bŵm! Cân y flwyddyn, ta be?”
ERIN “Cân y Flwyddyn?” Iawn. Da iawn ti, Rhods. Hefyd, mae gyda ti ormod o glipiau a lluniau. Does dim eisiau i ti roi pob dim lan. Ond y peth pwysicaf yw dy fod yn cyflwyno gwybodaeth, neu’n mynegi barn. Mae e’n grêt bod yn bositif, ond mae angen rhoi dwy ochr y ddadl. Rwyt ti angen dweud pethau fel, ‘Yn fy marn i…’, ‘Rwy’n credu’n gryf…’. Wyt ti’n deall?
RHODRI Nac ydw.
ERIN O, Rhodri.
RHODRI Sori. Yn fy marn i… nac ydw.
ERIN Gad e i fi.
RHODRI Heb os nac oni bai, y sioe yn ffreutur yr ysgol amser cinio dydd Mawrth oedd y cyngerdd gorau erioed gan Sion Paul a’i fand. Gyda’u gallu cerddorol a’u geiriau gafaelgar sy’n mynd o nerth i nerth, pwy a ŵyr ble ân nhw yn y dyfodol? Eisteddfod yr ysgol? Eisteddfod y sir? Amser, yn wir, a ddengys.
ERIN Hoffi?
RHODRI Dw i ddim yn siŵr a wneith hyn weithio… Cant o danysgrifwyr ychwanegol mewn dwy funud!
ERIN Hawdd, on’d yw e? I ddweud y gwir, mae awydd gyda fi… beth wyt ti’n ei wneud?
RHODRI Dadlau. Mae rhywun wedi gadael sylwadau ar y blog. Rhag eu cywilydd nhw am gael barn wahanol i fi.
ERIN Mae’n rhaid i ti ddysgu sut i siarad gyda dy gynulleidfa. Y mwyaf o bobl sy’n ei ddarllen, y mwyaf o siawns sydd ‘na i ypsetio rhywun. Ond mae angen cadw’n cŵl. Cofia taw pobl go iawn ydyn nhw, Rhodri.
Rhodri?
RHODRI Hei!
ERIN Reit. Fy nhro i.
RHODRI Mae gen ti fwy o danysgrifwyr na fi? Yn barod?
ERIN Paid â chymryd y peth yn bersonol. Wedi’r cyfan…
RHODRI Aros am funud.
ERIN Beth?
RHODRI Mae blog Joseff yn gwneud yn well byth. Felly fedra' i ddilyn dy gyngor di… neu jest cynnwys llwyth o fideos o gathod?
ERIN Elli di wneud y ddau, sbo.
More on Ysgrifennu
Find out more by working through a topic
- count3 of 6
- count4 of 6
- count5 of 6
- count6 of 6