Terfysgoedd Beca

Part of Dyniaethau - HanesChwyldro

Pwy oedd Merched Beca?

Grŵp o ddynion oedd Merched Beca a wnaeth ymosod ar yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839 a 1843. Roedden nhw’n yn erbyn y drud oedd yn cael eu codi ar bobl am deithio ar hyd .

Roedd llawer o yn yr ardal. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i bobl dalu tollau i sawl cwmni gwahanol wrth deithio o un lle i’r llall. Doedd yna ddim cymaint o gystadleuaeth rhwng cwmnïau yn Lloegr.

Doedd dim modd i ffermwyr osgoi’r ffyrdd yma, gan fod yn rhaid iddyn nhw yrru eu gwartheg ar eu hyd a theithio yn ôl ac ymlaen i'r farchnad i brynu i wella’r pridd. Felly, roedd y system hon yn ddrud iawn iddyn nhw.

Ar ôl blino ar y drefn, daeth grŵp o ffermwyr at ei gilydd i wrthryfela yn erbyn y system. Er mwyn cuddio pwy oedden nhw, gwisgodd y dynion ddillad menywod a phaentio eu hwynebau yn ddu. Roedd hyn yn debyg iawn i’r hyn oedd yn digwydd gyda’r Ceffyl Pren, math o gosb gymunedol oedd yn draddodiad yn ardaloedd gwledig Cymru.

Graffeg o berson yn cael ei gasglu ar fwrdd pren gyda thorf o bobl o’i gwmpas
Image caption,
Roedd Ceffyl Pren yn fath o gosb gorfforol a ddefnyddiwyd mewn rhannau o Gymru wledig

Y Ceffyl Pren

Roedd y Ceffyl Pren yn gosb gorfforol oedd yn cael ei defnyddio mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru. Roedd hi’n draddodiad yn yr ardaloedd hyn bod pobl leol yn cosbi aelodau o’r gymuned eu hunain.

Byddai torf o bobl yn paentio eu hwynebau yn ddu ac yn cario ffrâm bren neu ysgol, at ddrws cartref troseddwr. Byddai’r troseddwr yn cael ei gario o gwmpas y pentref wedi ei glymu i’r ffrâm neu’r ysgol er mwyn codi cywilydd arnyn nhw.

Mae’n debyg bod terfysgwyr Beca wedi defnyddio’r Ceffyl Pren ar geidwaid tollbyrth a’r rhai oedd yn anghytuno gyda’r hyn roedden nhw’n ei wneud.

Fideo - Terfysgoedd Beca

Terfysgoedd Beca

Digwyddodd ymosodiad cyntaf Merched Beca ar 13 Mai 1839 ar dollborth Efailwen, yn Sir Gaerfyrddin.

Dyma oedd y cyntaf mewn cyfres o 500 o ymosodiadau yn ne-orllewin Cymru rhwng 1839 a 1843.

Efailwen

Cartŵn yn dangos Merched Beca yn yn chwalu clwyd tollborth.
Image caption,
Cartŵn o gylchgrawn 'Punch'

Roedd 12 o dollbyrth ar y ffyrdd o gwmpas tref Caerfyrddin yn unig, ac arweiniodd hyn at anfodlonrwydd ymysg y ffermwyr lleol. Cafodd tollborth newydd ei adeiladu yn 1839 ym mhentref Efailwen a dyma oedd yr ergyd olaf i’r ffermwyr. Roedden nhw wedi bod yn defnyddio’r ffordd hon er mwyn osgoi talu tollau ar ffyrdd eraill yn yr ardal ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r ffordd hon i gludo eu calch.

Yn ôl hanesion lleol, dyn o’r enw Thomas Rees, neu Twm Carnabwth, oedd yn gyfrifol am drefnu’r ymosodiad c yntaf. Roedd yn ddyn crefyddol a oedd hefyd yn enwog fel bocsiwr yn ffeiriau’r ardal. Ar noson 13 Mai 1839, aeth torf o ddynion ati i wisgo fel merched a phaentio eu hwynebau yn ddu cyn mynd i’r tollborth yn Efailwen a dinistrio’r glwyd. Yn ôl rhai, roedd hyd at 300 o ffermwyr lleol yn bresennol y noson honno.

Cafodd clwyd newydd ei chodi yn fuan ar ôl hynny, ond ar 6 Mehefin yn yr un flwyddyn aeth Merched Beca ati i ymosod arni unwaith eto. Ar 17 Gorffennaf, fe wnaethon nhw losgi'r a’r glwyd.

Terfysgoedd pellach

Yn dilyn yr ymosodiad yn Efailwen, lledaenodd Terfysgoedd Beca ar draws de-orllewin Cymru. Y flwyddyn waethaf oedd 1843, pan ymosododd Merched Beca ar lawer o dollbyrth pwysig. Rhwng Ionawr 1843 a’r gwanwyn, cafodd dros gant o dollbyrth ledled de-orllewin Cymru eu dinistrio.

Llun o dollborth gwreiddiol sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Image caption,
Tollborth gwreiddiol o Benparcau, Aberystwyth, sydd wedi’i ailadeiladu ac sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Ym mis Mai 1843, cafodd tollborth Heol Dŵr Caerfyrddin ei ddinistrio gan tua 300 o Ferched Beca, ac ym mis Mehefin ceisiodd torf o 2,000 losgi’r yno. Bu’n rhaid galw ar filwyr wrth i’r mudiad fynd yn fwy treisgar. Yna ym mis Mehefin, casglodd torf o 4,000 ger tafarn y Plough and Harrow tu allan i’r dref i orymdeithio a galw am .

Ar 6 Gorffennaf 1843, ymosododd tua 200 o Ferched Beca ar dollborth ym Mhontarddulais.

Ym mis Awst bu ym Morgannwg a Llanelli am y tro cyntaf, yn ogystal ag ymosodiadau ar dollbyrth yn Llangyfelach.

Ym mis Hydref, yn ystod terfysg yn yr Hendy ger Abertawe, cafodd ceidwad y tolldy, merch ifanc o’r enw Sarah Williams, ei lladd.

Digwyddodd ymosodiadau difrifol yn Aberteifi, Hwlffordd, y Tymbl a Chydweli.

Llinell amser yn dangos rhai o ymosodiadau Merched Beca ar dollbyrth - Efailwen ar 13 Mai 1839, Sanclêr yn Tachwedd 1842, tloty Caerfyrddin ar 19 Mehefin 1843, Bargoed ar 6 Gorffennaf 1843 a'r Hendy ar 7 Medi 1843.

Pam yr enw ‘Beca’?

Yn ôl rhai, y rheswm am ddefnyddio’r enw oedd bod Twm Carnabwth wedi cael trafferth dod o hyd i ddillad menyw i’w ffitio cyn yr ymosodiad cyntaf a chafodd fenthyg dillad gwraig o’r enw Beca Fawr o Llangolman.

Mae’n fwy tebygol mai arweinydd dychmygol oedd Rebecca a bod yr enw yn dod o Lyfr Genesis, pennod 24, adnod 60:

“…a bendithio Rebecca, a dweud wrthi, “Tydi, ein chwaer, boed iti fynd yn filoedd o fyrddiynau, a bydded i’th ddisgynyddion etifeddu porth eu gelynion.”

Mae’r adnod yn cyfeirio at gymryd porth - sef clwyd, neu gât gelynion. Dyma oedd union nod Merched Beca wrth ddinistrio clwydi’r tollbyrth.

Rhesymau eraill dros y terfysgoedd

Roedd hi’n gyfnod anodd iawn i ffermwyr yn ne-orllewin Cymru, felly roedd nifer o resymau dros y terfysgoedd, yn ogystal â gwrthwynebu’r tollbyrth, ee:

  • gostyngiad ym mhris ŷd a oedd yn golygu nad oedd ffermwyr yn gwneud digon o elw am ei werthu
  • dirwasgiad amaethyddol a ddechreuodd yn 1836 (ac a ddaeth i ben tua’r un amser y daeth y terfysgoedd i ben) a gwael
  • dirwasgiad yn ardaloedd diwydiannol y de-ddwyrain, sef y brif farchnad ar gyfer cynnyrch y ffermwyr
  • y bwlch anferth mewn cyfoeth rhwng ffermwyr tlawd a cyfoethog a oedd yn codi trethi a rhenti uchel
  • amhoblogrwydd treth y tlodion, treth a oedd yn talu am y tlotai newydd

Canlyniad Terfysgoedd Beca

Dim ond un agwedd ar weithredoedd Merched Beca oedd dinistrio tollbyrth. Mewn gwirionedd, roedd y mudiad yn protestio yn erbyn cwynion cymdeithasol eraill, yn ogystal ag yn erbyn tollau uchel y tollbyrth.Cafodd cyfarfod mawr ei gynnal yng Nghwm Gwendraeth ar 25 Awst 1842 ac un arall ger Llyn Llech Owain ym mis Medi, a arweiniodd at .

Yn y cyfarfodydd hyn, cafodd penderfyniad ei wneud i ddanfon deiseb at y Frenhines Fictoria. Arweiniodd hyn at:

  • basio deddf newydd y flwyddyn ganlynol a oedd yn uno’r cwmnïau tyrpeg yn Sir Gaerfyrddin â’r system ehangach, yn fwy tebyg i Loegr
  • haneri’r doll ar galch
  • symleiddio’r system daliadau

Cwis - Terfysgoedd Beca

More on Chwyldro

Find out more by working through a topic