Cymesuredd adlewyrchiad a sut i adnabod cymesuredd mewn siapiau 2D.
Llinellau cymesuredd
Mae siâp 2D yn gymesur os wyt ti'n gallu tynnu llinell drwyddo a'i fod yn edrych yn union yr un peth ar y ddwy ochr.
Ni'n galw'r llinell yn llinell cymesuredd.
O, ac ma'r golwg yna'n awgrymu bod y sgwâr yn gwybod ambell i beth am gymesuredd.
Dewch i ni gael golwg.
Un. Yn fertigol lawr y canol.
Dau. Yn llorweddol ar draws y canol.
Tri. Croeslin o'r chwith i'r dde.
A phedwar. Croeslin o'r dde i'r chwith.
Hmm. Artistig iawn.
Dim ond un sydd gan driongl isosgeles.
Mae gan betryal ddau.
A chylchoedd. Ma rhain yn ddiddorol.
Mae gan gylchoedd linellau cymesuredd di-ddiwedd, cyn belled â dy fod yn mynd drwy'r canolbwynt mae'n gymesur bob tro.
Dewch i ni wneud rhai ar hap.
Mae nhw'n dweud bod pobl yn gweld cymesuredd yn beth deniadol.
Beth y'ch chi'n meddwl bois?

Cymesuredd
Mae siâp 2D yn gymesur os gallwn ni dynnu llinell drwyddo fel bod y naill ochr a’r llall i’r llinell yn edrych yn union yr un fath.
Enw’r llinell yma yw llinell cymesuredd.
Weithiau mae'n cael ei galw’n ‘llinell drych’ neu ‘cymesuredd drych’, achos petaet ti’n gosod drych ar y llinell, byddai’r adlewyrchiad yn dangos y siâp cyfan.
Mae gan driongl isosgeles 1 llinell cymesuredd.
Mae gan sgwâr 4 llinell cymesuredd.
Mae gan gylch linellau cymesuredd di-ben-draw!

More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count8 of 13
- count9 of 13
- count10 of 13
- count11 of 13