Mudo

Part of Dyniaethau - DaearyddiaethNewid a symud

Mudo

Mudo yw symudiad pobl o un lle i'r llall dros dro neu’n barhaol.

Mae hyn yn gallu digwydd yn rhyngwladol pan fydd pobl yn symud o un wlad i'r llall, neu gall ddigwydd yn fewnol wrth i bobl symud o fewn yr un wlad.

Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn symud o un lle i'r llall. Efallai eu bod nhw’n gwneud am resymau ariannol, cymdeithasol neu deuluol tra bod rhai pobl yn cael eu gorfodi i symud.

Mae person sydd yn gwneud dewis bwriadol i symud i rywle arall i fyw yn cael ei alw'n fudwr neu'n fewnfudwr.

Mae pobl sy’n cael eu gorfodi i symud yn cael eu galw’n ffoaduriaid neu .

Ar wahân i enedigaethau a marwolaethau, mudo yw'r unig ffactor arall sy'n effeithio ar dwf a gostyngiad ym maint y boblogaeth. Felly mae mudo’n chwarae rhan bwysig yn y newidiadau ym mhoblogaeth gwlad dros amser.

Map o'r byd yn dangos y prif lwybrau mudo rhyngwladol
Figure caption,
Prif lwybrau mudo rhyngwladol

Ffactorau gwthio a thynnu

Rydyn ni’n gallu dosbarthu’r rhesymau dros fudo yn fras i mewn i ffactorau gwthio a thynnu.

Mae ffactorau tynnu yn bethau positif sy’n denu pobl i le penodol.

Ffactorau gwthio yw’r pethau negatif sy’n gwneud i bobl symud i ffwrdd.

Ffactorau gwthio: Prinder swyddi, Rhyfel, Newyn, Trychinebau naturiol. Ffactorau tynnu: Gwell gofal iechyd, Cyfleoedd gwaith, Addysg, Diogelwch.

Gwylio: Fideo mudo

Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu mwy ynglŷn â pham mae pobl yn mudo.

Mathau o fudo

Mae sawl math o fudo ac maen nhw’n cael eu gyrru gan ffactorau gwahanol.

Mudo mewnol

Mudo mewnol yw symudiad pobl o fewn yr un wlad, a gall hynny ddigwydd am sawl rheswm.

Mae cenedlaethau iau yn debygol o symud i ardaloedd sy'n cynnig cyfleoedd gwell o ran gwaith, mwynderau a bywyd cymdeithasol. Enghraifft o hyn yw pobl ifanc rhwng 20-29 oed yn symud i ddinasoedd fel Llundain, Caerdydd a Manceinion.

Bydd rhai pobl yn dewis symud o fewn yr un wlad er mwyn bod yn agosach at aelodau eraill o'r teulu.

Mudo economaidd

Mudo economaidd yw symudiad pobl o un wlad i’r llall am resymau economaidd. Mae pobl yn symud i wledydd sy’n gallu cynnig incwm gwell.

Ar ôl iddyn nhw ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, dewisodd llawer o drigolion gwledydd yn Nwyrain Ewrop fudo i wledydd fel Ffrainc a’r DU.

Yng Ngogledd America, mae cyflogau llawer uwch yr Unol Daleithiau o’u cymharu â’i chymydog Mexico yn golygu bod llawer o Fexicanwyr yn symud yno i edrych am waith.

Mudo gorfodol

Mae mudo gorfodol yn aml yn digwydd oherwydd digwyddiadau fel rhyfel sy'n rhoi pobl mewn perygl.

Digwyddodd hyn yn Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno ym mis Mawrth 2011. Erbyn 2021 roedd 6.6 miliwn o Syriaid wedi ffoi o’r wlad. Roedd 5.5 miliwn o’r ffoaduriaid hyn mewn gwledydd cyfagos fel Twrci, Libanus, Gwlad yr Iorddonen, Irac a’r Aifft. Hefyd roedd 6.7 miliwn o ffoaduriaid eraill wedi cael eu gorfodi i symud o fewn Syria.

Pan mae pobl yn gadael un wlad oherwydd erledigaeth neu berygl enbyd, ac yn gofyn am gael eu diogelu mewn gwlad arall, yr enw ar hyn yw ceisio lloches. Mae pobl sy’n aros am ganiatâd i gael aros yn cael eu galw’n geiswyr lloches.

Mae newid hinsawdd yn gallu gorfodi pobl i symud hefyd. Bydd codiad yn lefel y môr yn effeithio ar Bangladesh gan bod hanner y wlad yn llai na 6 m uwchlaw lefel y môr.Mae pentref glan-môr Fairbourne yng Ngwynedd sydd wedi ei adeiladu ar dir isel dan fygythiad hefyd. Mae’r cynydd yn y perygl oddi wrth lefel y môr yn codi a llifogydd yn golygu na fydd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn cael eu cynnal a’u cadw yn y dyfodol a bydd yn rhaid gadael y pentref.

Enghraifft arall o fudo gorfodol oedd pan bu’n rhaid i filoedd o Iddewon ffoi o’r Almaen oherwydd erledigaeth a gwahaniaethu cynyddol yn ystod y 1930au.

Yn 1938, naw mis cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd agoroodd y DU eu ffiniau i tua 10,000 o blant rhwng pump ac 17 oed a deithiodd heb eu rhieni. Iddewon oedden nhw gan fwyaf ac roedden nhw’n ffoi rhag y gyfundrefn Natsïaidd. Yr enw a roddwyd ar y broses hon oedd Kindertransport.

Ym mis Ionawr 1933 roedd tua 523,000 o Iddewon yn yr Almaen. Erbyn mis Hydref 1941, pan roddwyd diwedd ar allfudo Iddewig dim ond 163,00 oedd ar ôl yn y wlad.

Effeithiau mudo

Mae gan fudo fanteision ac anfanteision ar gyfer yr ardaloedd y mae'r mudwyr yn symud iddyn nhw.

ManteisionAnfanteision
Diwylliant cyfoethocach a mwy amrywiolCynnydd yng nghost gwasanaethau fel gofal iechyd ac addysg
Helpu i leihau unrhyw brinder llafurGorlenwi
Mudwyr yn fwy parod i wneud swyddi sydd â chyflogau a sgiliau isAnghytuno rhwng gwahanol grefyddau a diwylliannau

Gwrthdaro sy’n cael ei achosi gan fudo

Mae rhai rhannau o’r DU wedi wynebu problemau sy’n gysylltiedig â mudo oherwydd gwrthdaro rhwng mudwyr a phobl leol.

Terfysgoedd hil de Cymru 1919

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd prinder morwyr mewn porthladdoedd fel Caerdydd, Casnewydd a’r Barri. Fe wnaeth pobl o bob rhan o’r Ymerodraeth Brydeining gymryd y cyfle i ddod i weithio yn ne Cymru.

Ar ôl y rhyfel roedd tai yn brin ac roedd llawer o ddi-weithdra. Achosodd hyn i rai pobl leol i ddal dig yn erbyn y mudwyr oedd yn byw ac yn gweithio yn eu mysg.

Yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 1919 roedd yna wrthdaro treisgar yn Butetown ac o gwmpas y dociau. Fe wnaeth torfeydd mawr ymosod ar lety a thai bwyta Arabaidd. Cafodd adeiladau eu chwalu ac fe gafodd rhai eu llosgi i’r llawr. Parhaodd y terfysg am dri diwrnod ac fe gafodd tri o ddynion eu lladd.

Roedd yna ddigwyddiadau yn y Barri a Chasnewydd hefyd.

Notting Hill, 1958

Daeth Notting Hill yng ngorllewin Llundain yn ardal amlddiwylliannol yn sgil mudo o’r Caribî ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Roedd hi’n ardal ddifreintiedig ac roedd pobl dduon tlawd a phobl wynion tlawd yn cystadlu am dai. Roedd rhai o’r bobl wynion yn elyniaethus tuag at y mudwyr a hynny’n hollol agored.

Ym mis Awst 1958, fe wnaeth heidiau o bobl ifanc wynion gan fwyaf ymosod ar bobl dduon a’u cartrefi. Parhaodd y terfysg am wythnos wrth i bobl dduon amddiffyn eu hunain.

Cafodd Carnifal Notting Hill eu sefydlu mewn ymateb i’r terfysg. Mae’n cael ei gynnal yn flynyddol ac yn cael ei arwain gan yn gymuned Garibïaidd.

Dawnswyr yn cymryd rhan yng Ngorymdaith y Carnifal yn ystod Carnifal blynyddol Notting Hill.
Image caption,
Dawnswyr yn cymryd rhan yng Ngorymdaith y Carnifal yn ystod Carnifal blynyddol Notting Hill

More on Newid a symud

Find out more by working through a topic