Beth yw gwrthdaro?
Gwrthdaro yw pan fydd dwy ochr yn dadlau neu anghytuno am rywbeth. Yn aml, mae’n digwydd achos bod gan bobl neu wledydd syniadau gwahanol i'w gilydd neu achos eu bod nhw'n credu mewn pethau gwahanol.
Mae'r gwrthdaro yn gallu bod yn frwydr neu yn ymladd. Math arall o wrthdaro yw pan fydd pobl yn teimlo'n gryf am y syniadau a'r credoau gwahanol sydd gan bobl eraill.
Beth yw gwrthdaro dros adnoddau?
Mae yna lawer o enghreifftiau o wrthdaro wedi bod ar hyd y canrifoedd. Maen nhw wedi digwydd am lawer o resymau gwahanol.
Adnoddau ydy pethau sydd yn ddefnyddiol i ni - ac mae hyn yn eu gwneud yn werthfawr. Maen nhw'n cynnwys pethau fel tir, metelau prin, olew a dŵr.
Mae gwrthdaro dros adnoddau daearyddol yn digwydd pan mae dwy ochr eisiau yr un adnoddau gwerthfawr. Mae rheoli adnoddau fel hyn yn gallu gwneud pobl a gwledydd yn bwerus a chyfoethog. Dyma pam mae hyn yn gallu achosi gwrthdaro - a pobl llai ffodus sydd yn dioddef fel arfer.
Fideo - Gwrthdaro dros adnoddau
Ar hyd y canrifoedd, ry’n ni wedi dadlau dros bopeth, fwy neu lai - tir, crefydd, beth yw’r blas gorau o hufen iâ… Pistachio, yn amlwg. Ffrae neu ddadl ddifrifol yw gwrthdaro, sy’n aml yn para am amser hir. Dydy hyn ddim yn arwain at ryfel bob tro - gallwn ni ddefnyddio geiriau yr un mor hawdd ag arfau - ac maen nhw yr un mor beryglus.
Yn aml, mae gwrthdaro’n digwydd pan mae dwy ochr eisiau rheoli’r un adnoddau - sef pethau rydyn ni’n gallu gwneud defnydd ohonyn nhw. Mae hyn wedi digwydd gyda metelau gwerthfawr yn Affrica, olew yn y Dwyrain Canol, hyd yn oed pysgod, yn ‘Rhyfeloedd y Penfras’ rhwng Prydain a Gwlad yr Iâ. A dim jôc yw honna, creda fe neu beidio.
Yn y 1950au, roedd angen ffynhonnell newydd o ddŵr ar ddinas Lerpwl. Penderfynon nhw foddi Cwm Tryweryn ger y Bala, er mwyn adeiladu cronfa ddŵr oedd yn digwydd cynnwys pentref Capel Celyn. Ond nid gwrthdaro syml dros adnoddau oedd hyn. Roedd Capel Celyn yn digwydd bod yn un o’r pentrefi cwbl Gymraeg olaf un.
Yn sydyn, roedd y cwm bach hwn reit yng nghanol gwrthdaro rhwng dwy ffordd wahanol iawn o fyw. Aeth pobl Capel Celyn â’r brotest i strydoedd Lerpwl. Doedd rhai o bobl y ddinas ddim yn hapus i’w gweld nhw - a nôl yng Nghapel Celyn, roedd pethau ar fin gwaethygu. Roedd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn y cynllun, ac aeth rhai pobl mor bell â thorri’r gyfraith wrth geisio arafu’r gwaith adeiladu, ond aeth y gwaith ymlaen beth bynnag.
Yn 1965, roedd rhaid i’r pentrefwyr adael, a chafodd y cwm - gyda’i ysgol, ei swyddfa bost, a’i gapel - ei foddi. Doedd neb wedi ymladd brwydr, a neb wedi colli eu bywydau, ond rydyn ni’n dal i gofio gwrthdaro Tryweryn heddiw. Mae’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ yn adnabyddus iawn erbyn hyn. Cawson nhw eu paentio yn wreiddiol ar wal ger Aberystwyth yn y 1960au, ond erbyn hyn maen nhw i’w gweld ar waliau dros Gymru. Ac yn 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl o’r diwedd am foddi Capel Celyn.
Beth wyt ti’n feddwl allwn ni wneud er mwyn rhwystro’r mathau yma o wrthdaro rhag digwydd yn y dyfodol?
Rhyfeloedd y Penfras (The Cod Wars)

Yn 1958, datblygodd sefyllfa ryfedd rhwng Y Deyrnas Unedig a Gwlad yr Iâ. Roedd y ddwy wlad yn dadlau a brwydro dros adnodd arbennig iawn… pysgod! Dechreuodd y broblem pan benderfynodd Gwlad yr Iâ ymestyn yr ardal lle roedd eu pysgotwyr nhw - a neb arall - yn cael pysgota. Roedd llawer iawn o bysgod yn y rhan yma o'r môr a nawr doedd pysgotwyr o'r DU ddim yn cael mynd yno.
Gwnaeth y Deyrnas Unedig ddim talu sylw i'r rheolau newydd a chario ymlaen i bysgota yno. Achosodd hyn llawer o ddadlau rhwng pysgotwyr y ddwy wlad. Roedd llongau wedi bwrw mewn i'w gilydd, gwnaeth un llong saethu at un arall a cafodd llongau y Llynges Frenhinol eu danfon i amddiffyn pysgotwyr y DU hyd yn oed.
Yn y diwedd, ar ôl blynyddoedd o wrthdaro, daeth y Deyrnas Unedig a Gwlad yr Iâ i gytundeb ym mis Mehefin, 1976. Roedd pysgotwyr o'r DU ond yn cael dal ychydig o bysgod o’r moroedd o amgylch Gwlad yr Iâ. Collodd llawer ohonyn nhw eu swyddi oherwydd hyn.

Tryweryn

Roedd boddi Cwm Tryweryn, ger y Bala, yn wrthdaro rhwng y pwerus a'r diniwed. Ar un ochr roedd dinas Lerpwl a oedd eisiau adeiladu cronfa ddŵr newydd i gyflenwi'r ddinas. Ar yr ochr arall roedd y bobl oedd yn byw ym mhentref bach Capel Celyn a fyddai'n diflannu o dan ddŵr y gronfa newydd.
Ceisiodd protestwyr i arafu ac atal y gwaith adeiladu, ac roedd yna anghytuno mawr rhwng pobl Capel Celyn a Lerpwl. Ond, aeth y gwaith yn ei flaen.
Yn 1965, diflannodd Capel Celyn o dan y dŵr. Cyn hynny, roedd 70 o bobl yn byw yno, yn rhan o gymuned fach a thawel, ble roedd capel, mynwent, ysgol a swyddfa bost. Cafodd y pentrefwyr y cyfle i symud beddau pobl oedd wedi eu claddu yn y fynwent cyn i’r pentref cael ei foddi.
40 mlynedd yn ddiweddarach, yn 2005, ymddiheurodd Cyngor Dinas Lerpwl am yr anghyfiawnder a phoen a achoswyd wrth foddi'r pentref bach yng Nghymru. Ac mae pobl yn dal i gofio Tryweryn hyd heddiw ac yn dal i deimlo'n gryf am beth ddigwyddodd.

Gweithgareddau
1. Rhoi digwyddiadau mewn trefn
2. Tasg ysgrifennu creadigol
Ysgrifenna lythyr oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl at bentrefwyr Capel Celyn yn ymddiheuro am beth wnaethon nhw.
3. Cwis: Gwrthdaro dros adnoddau
More on Daearyddiaeth
Find out more by working through a topic
- count2 of 6
- count3 of 6
- count4 of 6
- count5 of 6