RHODRI Maaaaam! Mam, mae ‘na ŵyl ddawns penwythnos yma…
MAM Gwranda Rhodri, sbïa ar y llanast ‘ma, does neb yn licio ‘stafell flêr nagoes? Dillad ar y llawr, dillad ar y gwely, dillad gwely ar y llawr. Dillad, dillad, dillad. Mae ‘stafell daclus yn fy ngwneud i’n hapus, dwyt ti ddim isho i mi fod yn drist nagwyt? Rho dy ddillad i ffwrdd, ac wedyn mi allwn ni siarad am yr ŵyl yma.
RHODRI Ta da!!
Mam ga i dy ganiatâd di? A hefyd lifft. Yna a nôl. A pres gwario. Caniatâd a lifft, ac arian. Diolch.
MAM Wel, mi wyt ti newydd dwtio dy ‘stafell. Wrth gwrs gei di fynd. Cyn belled â dy fod ti’n perswadio dy dad.
Paid â poeni, defnyddia’r triciau perswâd ac mi fyddi di’n iawn.
RHODRI Pa driciau?
MAM Rhodri bach, dwi ‘di bod yn eu defnyddio ers i mi gyrradd y ‘stafell ‘ma. Meddylia am y peth, oeddet ti isho glanhau dy ‘stafell? Na! Ond mi nes i dy berswadio di i wneud, fel ‘na!
MAM CYNT Gwranda Rhodri…
MAM Syth mewn efo berf orchmynnol. “Gwranda”.
RHODRI O, dwi’n gwrando!
MAM Nesa’, cwestiwn rhethregol.
MAM CYNT Does neb yn licio ‘stafell flêr nagoes?
MAM Sef pan ti’n gofyn cwestiwn ond heb ddisgwyl ateb, ond mae’n gadael y cwestiwn ym mhen dy wrthrych.
RHODRI Wel, sut dw i fod i w’bod hynny? Paid ag ateb hwnna. Aha, sy’n golygu mai cwestiwn rhethregol oedd o!
MAM Da iawn! Nesa’, cyfuniad o ddwy dechneg perswâd, rhestru ac ailadrodd. Mae hyn yn helpu i bwysleisio bod be wyt ti’n ddeud yn bwysig, a hefyd yn ffordd o wthio dy neges ar dy wrthrych.
MAM CYNT Dillad ar y llawr, dillad ar y gwely, dillad gwely ar y llawr…
MAM Ma’ ailadrodd y gair ’dillad’ yn pwysleisio be sydd dan sylw wrth i mi dy berswadio.
RHODRI Clyfar iawn!
MAM Tip arall. Mae ansoddair yn arf cryf wrth berswadio. Ddefnyddish i “hapus” a “trist”, y ddau yn cyferbynnu, ac yn bywiogi’r cais.
MAM CYNT Mae ‘stafell daclus yn fy ngwneud i’n hapus, dwyt ti ddim isho i mi fod yn drist nagwyt?
RHODRI Gorffen y frawddeg efo cwestiwn rhethregol. A gneud i mi deimlo’n euog. Neis iawn.
Diolch Mam, gwylia hyn! Daaaaaad!
DAD Ia?
RHODRI Dad, gwranda ar hyn sy gen i i’w ddweud, gan bwyso a mesur pob agwedd ar fy nghais. Mae yna Ŵyl Ddawns y penwythnos yma – llond cae o ddawnsio, dawnsio stryd, dawnsio hip hop, dawnsio gwerin, a dawnsio gwirion. Gwych i’r enaid. Dawnsio ydi’r ymarfer corff gorau yn y byd. Dwi isho mynd i’r ŵyl. Gŵyl Hwyl ydi ei henw, oherwydd mai hwyl ydi diben yr ŵyl. Gŵyl o Hwyl, Gŵyl Hapus, Gŵyl Lawen. Gwna’r penderfyniad iawn, dilyna esiampl fy mam, dy wraig, a plis rho ganiatâd i mi?
DAD Iawn, ocê.
RHODRI Ma’ hynna’n anhygoel. Diolch am rannu dy gyngor. Caredig iawn!
MAM Croeso. Er, o‘dd gen i resymau hunanol. Mi sylwish i ar y wefan fod unrhyw berson ifanc dan ddeunaw yn gorfod bod gyda’u rhieni i fynd i’r ŵyl.
RHODRI O na…
More on Llafaredd
Find out more by working through a topic
- count4 of 6
- count5 of 6
- count6 of 6
- count1 of 6