Ffoaduriaid

Part of Dyniaethau - DaearyddiaethGwrthdaro a heddwch

Beth yw ffoadur?

Ffoadur yw rhywun sy'n cael ei orfodi neu ei ddadleoli o'u mamwlad o ganlyniad i nifer o wahanol ffactorau.

Rhaid iddyn nhw wedyn geisio lloches mewn gwledydd eraill. Gall y rhesymau pam mae rhywun yn gorfod gadael ei wlad fod yn rhai cymdeithasol, ffisegol neu wleidyddol.

Sut mae pobl yn dod yn ffoaduriaid?

Ffactorau cymdeithasol

Mae ffactorau cymdeithasol yn gysylltiedig â chredoau pobl a’u ffordd o fyw. Gall nifer o bobl gael eu mewn rhai gwledydd oherwydd eu credoau crefyddol. Mae enghreifftiau o ffoaduriaid crefyddol yn cynnwys y Mwslimiaid a gafodd eu herlid ym Myanmar a’r Hindŵiaid ym Mhacistan.

Mae rhywioldeb hefyd yn gallu bod yn ffactor sy'n llywio penderfyniadau pobl i symud. Mae rhai aelodau o’r gymuned LHDTC+ o amgylch y byd yn wynebu trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, ymosodiadau corfforol, artaith a gwahaniaethu.

Ffactorau ffisegol

Y ffactor ffisegol mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar boblogaethau ac sy’n achosi i bobl i ddod yn ffoaduriaid yw’r hinsawdd.

Mae effeithiau cynyddol newid hinsawdd yn golygu bod mwy a mwy o ardaloedd yn wynebu tywydd eithafol fel llifogydd a stormydd trofannol. Mae sychder mewn nifer o wledydd yn golygu nad oes modd dibynnu ar gynhyrchu bwyd ac mae prinder bwyd a newyn wedi cynyddu.

Yn olaf, gall trychinebau naturiol fel echdoriadau folcanig, daeargrynfeydd a tswnamis hefyd orfodi cymunedau i adael eu cartrefi i chwilio am ddiogelwch, gofal iechyd a lloches.

Ffactorau gwleidyddol

Mae ffactorau gwleidyddol yn aml yn ymwneud â’r ffordd y mae gwlad yn cael ei llywodraethu a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud sy'n gallu effeithio’n uniongyrchol ar ei dinasyddion.

Efallai y bydd gan rai gwledydd arweinwyr llwgr lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud heb roi lles ei dinasyddion yn gyntaf. Enghraift o hyn yw gwario arian ar arfau yn hytrach na gofal iechyd a chyfleusterau addysg.

Mae anghytuno gwleidyddol yn gallu arwain at ryfeloedd yn aml. Drwy gydol hanes, mae pobl wedi’u gorfodi i symud oherwydd rhyfel, naill ai gyda gwledydd eraill neu ryfeloedd cartref. Mae hyn yn peryglu bywydau pobl ac mae’n rhaid iddyn nhw ffoi er mwyn dod o hyd i ddiogelwch.

Gwylio: Fideo Ffoaduriaid

Gwylia’r clip byr yma i ddysgu mwy am yr hyn sy'n achosi ffoaduriaid i ffoi.

Ffoaduriaid mewn hanes

Drwy gydol hanes, mae pobl wedi’u gorfodi i symud o’u mamwlad, yn aml oherwydd anoddefgarwch crefyddol neu hiliol. Mae’r syniad o ffoaduriaid yn dyddio nôl cyn belled â’r hen Roegiaid a'r Eifftiaid, pan fyddai unigolyn yn gallu chwilio am noddfa mewn lle sanctaidd, lle byddai goblygiadau pe bai'n cael ei niweidio.

Fe achosodd yr Ail Ryfel Byd i niferoedd anferthol o bobl droi’n ffoaduriaid. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod tua 60 miliwn o drigolion Ewrop wedi dod yn ffoaduriaid yn ystod y cyfnod hwn. Roedd dadleoli rhai grwpiau wedi dechrau cyn y rhyfel, wrth i arwyddion cynnar o ymddygiad ymosodol y Natsïaid wthio trigolion yr Almaen, yn enwedig Iddewon, i chwilio am ddiogelwch mewn mannau eraill.

Fe wnaeth mudo gorfodol barhau drwy gydol y rhyfel. Hyd yn oed yn y DU, bu’n rhaid i lawer o blant adael eu teuluoedd mewn trefi a dinasoedd mwy o faint o ganlyniad i’r Blitz. Achosodd hyn fewnlifiad mawr o blant i ardaloedd o Gymru a Chernyw.

Ffoaduriaid plant Iddewig yn cyrraedd Llundain o'r Almaen yn 1939.
Image caption,
Plant Iddewig yn cyrraedd Llundain o’r Almaen fel ffoaduriaid, 1939

Argyfwng ffoaduriaid Syria

Dechreuodd argyfwng ffoaduriaid Syria ym mis Mawrth 2011 ac mae'r effeithiau'n dal i gael eu hwynebu flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd rhai pobl yn y wlad wedi cael eu dadrithio gan reolaeth yr Arlywydd Bashar al-Assad, a olynodd ei dad fel arweinydd y wlad. Daeth teulu’r Assad i rym yn Syria am y tro cyntaf yn 1971.

Roedd llawer o bobl yn cwyno am y diffyg rhyddid oedd ganddyn nhw a'r oedd yn digwydd. Yna cafwyd protestiadau cyhoeddus ac arestiwyd pobl ifanc yn eu harddegau am beintio graffiti a oedd yn gwrthwynebu’r llywodraeth.

Fe wnaeth ymdrechion y llywodraeth i atal y gweithredoedd hyn danio tensiynau hyd yn oed ymhellach a thyfodd y gwrthdaro wrth i'r wlad wynebu rhyfel cartref, lle gorfodwyd miliynau o bobl Syria o’u cartrefi.

Golygfa o'r awyr yn dangos difrod rhyfel cartref Syria yn Idlib.
Image caption,
Llun o’r awyr sy’n dangos difrod rhyfel cartref Syria yn Idlib

Mae llywodraethau rhyngwladol eraill fel Iran, Rwsia, Saudi Arabia ac UDA wedi dod yn rhan o’r gwrthdaro hwn drwy ddarparu cymorth ariannol a milwrol. Mae’r gweithredoedd hyn ond wedi ymestyn a chynyddu lefel y gwrthdaro.

Ym mis Mawrth 2023 dywedodd Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig fod:

  • 14 miliwn o Syriaid wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi
  • 6.8 miliwn o Syriaid wedi cael eu dadleoli o fewn y wlad
  • 5.5 miliwn o ffoaduriaid o Syria yn byw mewn gwledydd cyfagos

Mae rhai ffoaduriaid yn mudo i Ewrop yn anghyfreithlon. Mae hyn yn aml yn golygu dulliau peryglus o deithio, fel talu smyglwyr i’w cludo i wledydd, naill ar gefn lori neu mewn cychod pysgota bach neu dingis sy'n aml yn orlawn.

Mae hyn yn peryglu bywydau pobl. Anaml y bydd gan y ffoaduriaid hyn unrhyw fwyd neu ddŵr ac anaml y mae rafftiau achub yn cael eu gosod ar y cychod sy’n cael eu defnyddio. Mae nifer sydd wedi rhoi cynnig ar y teithiau hyn wedi marw ar ôl mygu neu foddi.

Taith y ffoaduriaid ar draws Ewrop.
Figure caption,
Taith y ffoaduriaid ar draws Ewrop.

Rheoli ffoaduriaid

Mae gwledydd ar draws Ewrop yn ceisio helpu gyda’r argyfwng ffoaduriaid. Mae rhai gwledydd fel yr Almaen a Sweden wedi croesawu ffoaduriaid gan eu bod yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr a bod modd cynnig lloches iddyn nhw tra eu bod nhw’n cyfrannu at economi’r wlad hefyd.

Mae gwledydd eraill fel Awstria a Hwngari wedi bod yn llai croesawgar ac wedi ceisio cyfyngu y nifer y ffoaduriaid sy'n dod yno. Fe wnaeth Hwngari adeiladu ffens ar hyd ei ffiniau â Serbia a Croatia i leihau mudo anghyfreithlon i mewn i’r wlad.

Mae nifer o wledydd wedi dadlau y byddai croesawu ffoaduriaid i’w gwlad yn annog hyd yn oed mwy o ffoaduriaid i symud yno, ac mae’n bosib na fyddai'r llywodraeth yn gallu darparu ar eu cyfer.

Drwy gydol yr argyfwng, mae cytundebau rhyngwladol wedi'u creu rhwng gwledydd i ddelio â'r mewnlifiad mawr o fudwyr. Mae gwylwyr y glannau yn yr Eidal a Gwlad Groeg wedi cydweithio i achub nifer o fudwyr sydd wedi ceisio croesi Môr y Canoldir i Ewrop.

Ers dechrau’r argyfwng, mae sefydliadau fel Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig wedi bod yn gweithio yn Syria i gynnig lloches, dŵr glân a gofal meddygol i deuluoedd sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi.

More on Gwrthdaro a heddwch

Find out more by working through a topic