BBC Cymru Wales - Sgwâr Canolog, Caerdydd

BBC Cymru , 3 Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FT

Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC, sydd wedi ennill gwobr aur Croeso Cymru am ansawdd y teithiau y tu ôl i’r llen.

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Cewch ymweld â’n stiwdios newyddion, chwaraeon a radio newydd sbon, cael gwybod y cyfrinachau y tu ôl i greu rhaglenni'r BBC, a dilyn ôl troed rhai o wynebau adnabyddus Cymru.

Ar eich taith, byddwch yn:

  • ymweld ag un o’r ystafelloedd newyddion mwyaf yn y DU, sy’n llawn technoleg flaengar, gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig
  • cael cyfle i fynd y tu ôl i’r llen i weld orielau teledu, cypyrddau dillad ac ystafelloedd gwyrdd
  • cerdded ymysg timau a chriw diwydiant y BBC

Mae hon yn ganolfan ddarlledu fyw, sy’n golygu nad oes yr un daith yr un fath ag un arall ac y bydd pob ymweliad yn unigryw.

Os oes gyda chi gais ar gyfer taith Gymraeg ar ddyddiad penodol, cysylltwch gyda ni os gwelwch yn dda.

Central Square, Cardiff

Tour dates and times

Dyddiadau ac amseroedd y teithiau

Prisiau tocynnau

Oedolyn  
£15.00 

Tocyn grŵp - Oedolion (10 neu fwy)
£14.00 

Myfyriwr | Person dan 26 oed | Person di-waith cofrestredig
£12.00 

Tocyn grŵp - Myfyrwyr | Pobl dan 26 oed | Pobl ddi-waith gofrestredig (10 neu fwy)
£9.00 

Person anabl | Person dros 65 oed
£13.00 

Tocyn grŵp -  Pobl anabl | Pobl dros 65 oed (10 neu fwy)  
£12.00 

Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn neu 2 oedolyn a 2 blentyn)  
£42.00 

Credydau Time 
2 gredydÂ