Dyma ganlyniadau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae!


Does dim modd i chi gyflwyno data bellach, ond gallwch chi barhau i gwblhau’r gweithgareddau gyda’ch dosbarth.
Mae ymgyrch BBC micro:bit – cewri codio wedi creu arolwg iard chwarae BBC micro:bit er mwyn rhoi’r cyfle i blant ymchwilio ar y lle maen nhw'n ei ddefnyddio bron bob dydd, a lle sy’n gallu cael dylanwad enfawr ar eu bywydau a’u cymuned leol.
Mae’r arolwg iard chwarae yn rhoi cyfle ymarferol i blant ddeall gwerth data a sut mae data’n cael ei ddefnyddio yn y byd sydd ohoni. Mae’r arolwg yn gyfres o saith gweithgaredd trawsgwricwlaidd cyffrous, wedi’u cynllunio i weithio’n hyblyg i helpu athrawon i gynnwys y gweithgareddau dysgu o fewn amserlen brysur.
Edrychwch isod ar y canllaw i athrawon, i weld trosolwg o’r prosiect cyfan a’r holl adnoddau sydd ar gael.

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho
Popeth sydd angen ei wybod am yr arolwg iard chwarae, a'r holl adnoddau dysgu sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Gweithgareddau'r arolwg iard chwarae
Dechrau arni. video
Cyflwynwch yr arolwg iard chwarae a’r gweithgareddau hwyliog y gall eich ysgol gynradd gymryd rhan ynddynt. Gwnewch fap o’ch iard chwarae, a thrafod diogelwch data.

Cymharu tymereddau arwynebau. video
Cymharwch dymereddau arwynebau mewn pedair rhan o iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Thermometer' yn y micro:bit.

Ymchwilio i fioamrywiaeth. video
Defnyddiwch y rhaglen 'Biodiversity counter' yn y micro:bit i ymchwilio i nifer y gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn eich iard chwarae.

Mesur arwynebedd. video
Mesurwch bellteroedd i gyfrifo arwynebedd iard chwarae eich ysgol gan ddefnyddio’r rhaglen 'Distance calculator' yn y micro:bit.

Cofnodi ein gweithgaredd corfforol. video
Gofynnwch i’r disgyblion ddefnyddio rhaglen arbennig 'Activity tracker' yn y micro:bit i gadw golwg ar eu symudiadau corfforol ar iard chwarae eu hysgol.

Archwilio dysgu peirianyddol. video
Archwiliwch sut mae cyfrifiaduron yn dysgu o ddata gan ddefnyddio adnodd dysgu peirianyddol newydd micro:bit. Cewch hwyl yn hyfforddi eich model dysgu peirianyddol eich hun.

Beth nesaf? video
Mwynhewch ddewis gweithgareddau ymestynnol gyda’ch dosbarth ar ôl i chi gwblhau’r arolwg iard chwarae.

Rhagor o adnoddau ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Playground survey
Adnoddau cyfrwng Saesneg ar gyfer yr arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae
Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.


Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - cewri codio
Gwybodaeth am y micro:bit
Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y BBC micro:bit.

Cyrsiau hyfforddiant yng Nghymru
Cadwch olwg yma am gyrsiau hyfforddiant rhanbarthol yng Nghymru

Cyngor ar sut i godio ar wefan MakeCode
Dysgwch fwy am sut i ddefnyddio gwefan MakeCode a’r adnoddau hyfforddi sydd ar gael i’ch helpu.

Ein partneriaid
Dysgwch fwy am y sefydliadau sy’n cefnogi ein menter micro:bit.

Cwestiynau Cyffredin
Dewch i gael yr atebion i’ch holl gwestiynau am y micro:bit.
