Canlyniadau ymgyrch BBC micro:bit - arolwg iard chwarae!

Grŵp o fyfyrwyr yn gwisgo siwmperi glas ac yn gwisgo micro:bits ar eu harddyrnau ar iard chwarae eu hysgol

Mae ymgyrch BBC micro:bit - cewri codio yn falch iawn o ddatgelu canlyniadau ein harolwg iard chwarae, gan ddefnyddio data a gasglwyd gan blant ysgol o bob rhan o’r DU!

Drwy gydol tymhorau gwanwyn a haf 2024, cynhaliwyd arolwg iard chwarae BBC micro:bit fel ymchwiliad cyffrous i helpu plant rhwng 7 ac 11 oed i fynd i'r afael â gwyddor data mewn ffordd hwyliog ac ymarferol. Mae’r canlyniadau terfynol yn cynnwys data gan 202 o ddosbarthiadau ar draws 156 o ysgolion! Hoffem ddiolch i athrawon o bob cwr o'r wlad am annog y myfyrwyr i gymryd rhan yn yr arolwg arloesol hwn. O fesur gwahaniaethau mewn tymheredd arwyneb i gyfrif bioamrywiaeth, cafodd eich myfyrwyr gyfle i weld eich iard chwarae mewn ffordd hollol newydd.

Grŵp o fyfyrwyr yn gwisgo siwmperi glas ac yn gwisgo micro:bits ar eu harddyrnau ar iard chwarae eu hysgol
Map yn dangos y sylw a roddwyd i ysgolion a gymerodd ran yn arolwg iard chwarae micro:bit.

“Drwy ymgorffori technoleg y ddyfais micro:bit yn yr arolwg iard chwarae, aeth disgyblion â sgiliau cyfrifiadurol oddi ar y sgrin ac i’w dwylo.”
Magda Wood, Pennaeth Dysgu yn Sefydliad Addysgol Micro:bit.

Mae’r syniad hwn yn cael ei adleisio gan Mary Gregory, Cyfarwyddwr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), sy’n dweud:

“Alla i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw prosiectau fel hyn. Maen nhw’n tanio chwilfrydedd ac yn dangos i blant sut mae data’n cael ei ddefnyddio yn y byd go iawn, gan osod sylfaen a fydd yn eu gwasanaethu’n dda wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion. Nid sgil i arbenigwyr yn unig yw llythrennedd data bellach; mae'n rhan hanfodol o ddeall a llywio'r byd modern. A pha ffordd well o gyflwyno’r cysyniadau hyn na thrwy rywbeth mor gyfarwydd a hwyliog ag amser chwarae?”

Mae'r ymgyrch micro:bit wedi bod yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i ddadansoddi'r data a gasglwyd gan fyfyrwyr.

Canlyniadau Lefelau Gweithgaredd

Un o'r canlyniadau mwyaf diddorol oedd bod y disgyblion yn gwisgo eu micro:bit fel oriawr ffitrwydd i dracio eu symudiadau corfforol yn ystod eu hamser egwyl a chinio. Cyflwynodd dros 800 o fyfyrwyr ddata ar eu symudiadau. Gadewch i ni edrych ar y canfyddiadau…

Ar gyfartaledd, treuliodd y disgyblion:

  • 54% o’u hamser egwyl yn llonydd

  • 32% o’u hamser egwyl yn gwneud symudiadau dwysedd isel, ee cerdded

  • 7% o’u hamser egwyl yn gwneud symudiadau dwysedd cymedrol, ee rhedeg

  • 6% o’u hamseroedd egwyl yn gwneud symudiadau dwysedd uchel, ee neidio

Er bod y canfyddiadau hyn yn ymwneud â myfyrwyr o arolwg yr iard chwarae yn unig, mae data o ‘Sport England’s Active Lives Survey: 2022-23' yn cefnogi'r canfyddiadau nad ydy plant o bosibl mor egnïol ag y credwn. Mae’n dangos mai dim ond tua 44% o blant 7-11 oed sy’n cael awr o weithgarwch corfforol bob dydd, fel sy’n cael ei argymell gan y Prif Swyddog Meddygol. Ar gyfartaledd, mae 35% o blant yn cael llai na 30 munud ac mae 21% yn cael rhwng 30 a 60 munud o weithgarwch bob dydd.

Lefelau Gweithgarwch a’r Tywydd

Roedden ni hefyd eisiau gweld sut roedd y tywydd yn effeithio ar weithgarwch disgyblion, felly roedden ni’n cymharu lefelau gweithgarwch arolwg iard chwarae micro:bit â data tywydd gan y Swyddfa Dywydd (Met Office). Yn ôl eu hasesiad yn y gwanwyn, roedd gwanwyn 2024 yn fwy gwlyb ac roedd llai o heulwen na’r cyfartaledd ar gyfer y rhan fwyaf o’r DU, ac eithrio rhai rhanbarthau o’r Alban.

Canfu arolwg iard chwarae BBC micro:bit fod myfyrwyr yn gyffredinol yn llai egnïol mewn tywydd gwlyb nag mewn tywydd sych.

I helpu i ddadansoddi'r data symud a gasglwyd gan y micro:bit, cafodd lefelau gweithgarwch eu rhannu i'r categorïau canlynol:

  • Dwyster uchel = gweithgareddau fel neidio
  • Dwyster cymedrol = gweithgareddau fel rhedeg
  • Dwysedd isel = gweithgareddau fel cerdded
  • Segur = eistedd neu sefyll yn llonydd, gan gynnwys amser bwyta cinio, cymryd rhan mewn chwarae creadigol, neu gymdeithasu

Wrth gymharu lefelau gweithgarwch rhwng tywydd gwlyb a sych, roedd cyfran gyfartalog yr amser a dreulir yn segur 8% yn uwch yn ystod tywydd gwlyb. Roedd myfyrwyr yn gwneud symudiadau dwysedd isel am 6% yn llai o amser, symudiadau dwysedd cymedrol am 2% yn llai o amser a gweithgaredd dwysedd uchel am 1% yn llai o amser ar ddiwrnodau glawog o'i gymharu â diwrnodau sych.

Dau siart bar yn dangos lefelau gweithgarwch myfyrwyr mewn tywydd sych a gwlyb

Sut mae hyn yn effeithio ar blant?

I ymchwilio ymhellach i hyn, comisiynodd BBC Addysg arolwg gyda 500 o athrawon ysgolion cynradd.

Roedd yr arolwg yn tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae yn yr awyr agored i iechyd meddwl a chorfforol plant, yn ogystal â sgiliau cymdeithasol, gydag adborth yn dangos bod plant yn ymddangos yn hapusach, yn canolbwyntio'n fwy ac yn ymddwyn yn well ar ôl chwarae y tu allan. Ar y llaw arall, mae tywydd gwael yn golygu bod plant yn aros y tu mewn yn ystod amser egwyl (a elwir hefyd yn 'amser chwarae gwlyb') ac mae athrawon yn dweud bod hyn yn cael effaith negyddol.

“Mae rhywbeth braf am allu rhedeg o gwmpas, sy’n gwneud iddyn nhw ddod yn ôl i’r dosbarth- ac maen nhw’n cael ail wynt. Maen nhw’n barod i ddysgu. Felly, pan nad oes ganddyn nhw’r cyfle hwnnw, y peth rydw i’n sylwi arno fwyaf yw bod eu hymddygiad a’u hiechyd meddwl yn dirywio.”
Athro cynradd

Seicolegydd Clinigol, Dr Matt Slavin yn eistedd ar soffa yn gwenu ar y camera
Image caption,
Seicolegydd Clinigol, Dr Matt Slavin

Adlewyrchir y profiadau hyn gan Dr Matt Slavin, Seicolegydd Clinigol:

“Ddim seibiant yn unig yw gweithgareddau corfforol yn ystod amser ysgol, mae’n hanfodol ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol plentyn. Mae rhedeg o gwmpas yn yr awyr agored yn eu galluogi i ryddhau egni, rheoli emosiynau, a dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn gallu canolbwyntio fwy ac yn barod i ddysgu. Mae’n bwysig cydnabod nad yw chwarae yn yr awyr agored yn digwydd yn lle dysgu; mae’n rhan hanfodol ohono.”

Ychwanega:

“Pan nad yw plant yn cael amser yn yr awyr agored, maen nhw’n colli cyfleoedd hollbwysig i reoli emosiynau, adfer eu sylw a lleihau straen. Mae chwarae yn yr awyr agored yn ysgogi’r system nerfol mewn ffyrdd sy’n eu helpu i reoli straen, datblygu sgiliau canolbwyntio a rhoi hwb i hyder. Mae byd natur fel campfa i systemau nerfol plant sy’n datblygu. Mae plant sy’n chwarae yn yr awyr agored yn rheolaidd yn dangos gwell ymwybyddiaeth o’r corff, cydbwysedd emosiynol, yn gallu datrys problemau'n well, yn ogystal â mwy o gydnerthedd.”

Beth nesaf?

Plentyn yn gwisgo dyfais micro:bit ar ei arddwrn yn gafael yn llaw bachgen arall

Mae arolwg iard chwarae BBC micro:bit wedi rhoi cyfle anhygoel i blant feithrin llythrennedd digidol mewn ffordd gwbl newydd, a fydd yn hynod o bwysig ar gyfer eu dyfodol.

Dywed Syr Ian Diamond, Ystadegydd Cenedlaethol y DU:

“Meddyliau ifanc fydd yn siapio'r byd fydd yn cael ei reoli gan ddata, ac rwyf wrth fy modd gyda'r ffaith fod Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi chwarae rhan mor bwysig yn yr Arolwg Iard Chwarae, sydd wedi rhoi profiad gwerthfawr i blant o gasglu a dadansoddi data, mewn ffordd ddifyr a hwyliog.

Gobeithio bod y profiad hwn wedi ysbrydoli plant i arwain y ffordd fel gwyddonwyr data y genhedlaeth nesaf, a phwy a ŵyr, efallai hyd yn oed yn Ystadegwyr Cenedlaethol y dyfodol.”

A beth am roi cynnig ar ein CWIS DATGELU CANLYNIADAU gyda’ch dosbarth? [Cynnwys Saesneg]. Mae’n ffordd hwyliog o ddechrau trafodaeth am eich iard chwarae a sut rydych chi’n ei ddefnyddio.

Plentyn yn gwisgo dyfais micro:bit ar ei arddwrn yn gafael yn llaw bachgen arall

I gael rhagor o wybodaeth...

Mae ymgyrch BBC micro:bit - cewri codio yn bartneriaeth rhwng BBC Addysg, Sefydliad Addysgol Micro:bit, a Nominet, yn ogystal â phartneriaid technoleg ac addysg eraill. Mae dros 90% o ysgolion cynradd y DU wedi cofrestru i dderbyn BBC micro:bit am ddim ar gyfer eu hystafelloedd dosbarth.

Darllenwch adroddiad canlyniadau llawn arolwg iard chwarae BBC micro:bit gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. [Cynnwys Saesneg]

Rhagor o wybodaeth am arolwg Sport England - Active Lives Survey: 2022-23.

Rhagor o adnoddau BBC micro:bit - arolwg iard chwarae

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho

Popeth sydd angen ei wybod am yr arolwg iard chwarae, a'r holl adnoddau dysgu sydd ar gael i'w lawrlwytho.

Canllaw i athrawon a’r adnoddau i’w lawrlwytho

Dechrau arni. video

Cyflwynwch yr arolwg iard chwarae a’r gweithgareddau hwyliog y gall eich ysgol gynradd gymryd rhan ynddynt. Gwnewch fap o’ch iard chwarae, a thrafod diogelwch data.

Dechrau arni

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae

Geirfa ddefnyddiol i gynyddu eich hyder wrth addysgu saith gweithgaredd BBC micro:bit - arolwg iard chwarae.

Geirfa ar gyfer yr arolwg iard chwarae