Alla i gyfuno fy nghyfrifon BBC os oes gennyf fwy nag un?

Diweddarwyd: 31 Mai 2017

Na allwch. Ond gallwch ddileu cyfrif BBC os ydych eisiau lleihau'r nifer o gyfrifon rydych chi'n eu rheoli.

Cofiwch, os yw’r cyfrif rydych chi’n ei ddileu wedi ei gysylltu â chyfrif plentyn, bydd unrhyw ganiatâd yn gysylltiedig â phlant yn cael ei ddileu hefyd. Cewch ragor o wybodaeth am ganiatâd i blant yma.

Sut i ddileu eich cyfrif BBC

1. Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif BBC.

2. Yna, ar unrhyw un o wefannau’r BBC, cliciwch ar yr eicon "Eich cyfrif" ar ben y dudalen. (Os oes gennych enw arddangos, bydd yn dangos eich enw arddangos, nid "Eich cyfrif"). Mae hwn yn y bar llywio, ger bar cyfeiriad eich porwr gwe.

3. Dewiswch "Gosodiadau" a byddwch yn mynd at eich manylion personol.

4. Yn yr adran "Dileu eich cyfrif", cliciwch ar "Rwyf eisiau dileu fy nghyfrif". Bydd angen i chi roi eich cyfrinair cyfredol er mwyn i ni wybod mai chi sydd yno.

5. Ar y sgrin nesaf, cliciwch ar "Dileu cyfrif" ac fe fyddwch chi wedi ei ddileu. Mae'n ddrwg gennym eich gweld chi’n gadael.

Methu cofio eich cyfrinair cyfredol?

Bydd yn rhaid i chi ei ailosod. Cewch wybod sut i wneud hynny yn “Rydw i'n cael trafferth gyda fy nghyfrinair”.

Cofiwch...

Mae dileu eich cyfrif yn gam terfynol. Felly, peidiwch â’i wneud oni bai eich bod chi'n siŵr.

Dim ond yn Saesneg y medrwn ni gynnig cymorth cyfrif. Ymddheuriadau.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: