Y BBC ar ddyfeisiau a reolir â llais

Diweddarwyd: 4 Mawrth 2021

Gallwch nawr droi at gynnwys y BBC drwy Amazon Echo a Google Home. Yn y dyfodol, byddwn yn cefnogi hyd yn oed mwy o ddyfeisiau sy’n cael eu rheoli â llais.

Pa gynnwys gan y BBC sydd ar gael ar Google Home?

BBC Sounds

Gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radio’r BBC. Dywedwch: "Ok Google, play BBC [gorsaf radio]. Edrychwch ar restr o orsafoedd radio’r BBC. Edrychwch ar restr o orsafoedd radio’r BBC.

Newyddion

Gallwch gael BBC News, World Service News a BBC Minute. Dywedwch ‘OK, Google, play the news’. Darllenwch sut i osod ffynonellau newyddion yn ap Google Home

Ar hyn o bryd, gallwch gael mynediad at gynnwys y BBC are Google Home heb fewngofnodi. 

Pa gynnwys gan y BBC sydd ar gael ar Amazon Echo?

BBC Sounds

Gyda BBC Skill, gallwch wrando ar eich hoff orsafoedd radio’r BBC, a chwarae ein holl gynnwys ar-alw, gan gynnwys rhaglenni, podlediadau a chymysgedd o gerddoriaeth. Dysgwch am rai gorchmynion ar gyfer BBC Sounds ar Amazon Echo/Alexa.

Newyddion rhyngweithiol

I gael y newyddion diweddaraf, dywedwch "Give Me BBC News" wrth seinydd clyfar wedi’i hwyluso gan Alexa.

I symud drwy’r straeon hyn: “Alexa, next”.

I gael dadansoddiad manylach o’r stori: "Alexa, more from the BBC".

Flash Briefings

Gyda Flash Briefings, mae BBC NewsBBC Sport,  BBC BusinessWorld Service News a BBC Minute i gyd ar gael. Dywedwch ‘Alexa, play my Flash Briefing’. Darllenwch sut i osod Flash Briefings yn ap Alexa

Os oes gennych chi ddyfais Amazon gyda sgrin, fel Echo Show neu Echo Spot, gallwch gael BBC News Flash Briefing fel fideo yn lle.

Sut alla i gael BBC Skill ar Amazon Alexa?

I alluogi BBC Skill yn awtomatig, dywedwch: “Alexa, open the BBC”. Fel arall, gallwch alluogi a dod o hyd i BBC Skill drwy wefan neu ap Alexa. Mae’n rhad ac am ddim.

Yna bydd rhaid i chi gysylltu eich cyfrif BBC â’r ddyfais a reolir â llais. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm Gosodiadau ar gyfer BBC Skill yn ap Alexa.

Os nad oes gennych chi gyfrif BBC, gallwch gofrestru fan hyn – mae’n hawdd ac yn gyflym i wneud. Maen rhaid i chi fod dros 13 oed i gysylltu cyfrifon â’i gilydd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n sicrhau bod eich manylion yn ddiogel, ewch i Eich Gwybodaeth a’ch Preifatrwydd.

Rhaid gosod eich iaith Alexa i Saesneg (DU) nid Saesneg (UDA) er mwyn i BBC Skill weithio. I gael manylion llawn am osod sgiliau, ewch i dudalen Enable Alexa Skills ar Amazon.

Am fanylion llawn ynglŷn â gosod sgiliau, ewch i dudalen Enable Alexa Skills ar Amazon.

Cymorth wrth ddefnyddio BBC Skill

Pan rydych chi’n defnyddio BBC Skill, gallwch reoli eich profiad gwrando gyda chyfarwyddiadau llais. Mae mor syml â hynny.

I’w lansio, dywedwch “Alexa, open the BBC”.

I’ch helpu i ddechrau arni, gofynnir i chi pa orsaf radio, sioe neu bodlediad hoffech chi wrando arni pan fyddwch yn troi at BBC Skill am y tro cyntaf. Neu i fynd yn syth at eich ffefrynnau, dywedwch “Alexa, ask BBC to play [gorsaf radio, sioe neu bodlediad]”.

Problemau wrth chwarae sioeau’r BBC ar ddyfeisiau Amazon Echo

Rydyn ni’n ymwybodol bod rhai cwsmeriaid yn wynebu problemau wrth chware gorsafoedd a sioeau’r BBC tra’n defnyddio dyfeisiau Amazon Echo. Er enghraifft, weithiau nid yw'r orsaf neu'r sioe yn cael ei chanfod, nid yw'n chwarae, neu mae'r ffrwd yn diflannu.

Rydyn ni’n edrych ar hyn gydag Amazon. Yn y cyfamser, dyma bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon pan fydd gennym unrhyw gyngor pellach.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: