Beth all y BBC ei wneud â'r cynnwys rwy’n ei bostio?

Diweddarwyd: 31 Mawrth 2022

Efallai y byddwn yn:

Ei ddefnyddio, ei letya neu ei storio ar gynnwys a gwasanaethau’r BBC

Fel pan fyddwch chi'n llwytho cynnwys i Weather Watchers neu wefan CBeebies

Ei gopïo, ei newid neu ei gyfieithu, neu wneud pethau wedi eu hysbrydoli ganddo

Dim ond lle bo angen y byddwn yn golygu eich cynnwys sy'n gysylltiedig â newyddion.

Darllenwch sut rydym yn defnyddio’ch creadigaethau a’ch sylwadau sy’n gysylltiedig â newyddion.

Ei ddefnyddio gyda’n hoffer ar gyfer gwneud creadigaethau neu ailgymysgu cynnwys

Mae rhai o'n gwasanaethau yn cynnwys offer ar gyfer chwarae gyda’n cynnwys, ysgrifennu eich cod eich hun, a gwneud pethau fel gemau a delweddau. Gallai'r rhain:

  • Arddangos eich creadigaethau i ysbrydoli pobl eraill.
  • Gwahodd eraill i ddefnyddio eich creadigaeth i wneud eu creadigaethau eu hunain

Ei rannu i wneud ymchwil

Rydym yn gwneud gweithgareddau ymchwil ac weithiau'n cydweithio â phartneriaid ymchwil. Bob hyn a hyn, rydym yn rhannu ein cynnwys a data gyda nhw. Ond rydym yn ofalus ynglŷn â’r hyn rydym yn ei rannu a'r hyn y gall ein partneriaid ymchwil ei wneud ag ef.

Ei gymedroli

Sy’n golygu y gallwn adolygu, golygu, dileu neu beidio â’i dangos. Ac, os yw’n torri unrhyw gyfreithiau, gallwn ei gyfeirio at yr heddlu ac awdurdodau eraill.

A gallwn ddefnyddio eich creadigaethau:

  • Unrhyw le yn y byd
  • Mewn unrhyw gyfrwng (e.e. y teledu, y rhyngrwyd, radio, cyfryngau cymdeithasol ac apiau)
  • Am unrhyw gyfnod - hyd yn oed os byddwch chi’n stopio defnyddio’n gwasanaethau.

A gall unrhyw un rydyn ni’n gweithio â nhw wneud y pethau hynny hefyd. Er enghraifft, os byddwch yn anfon delwedd at BBC News, gallem rannu eitem newyddion sy’n cynnwys y ddelwedd honno â darlledwr o dramor, a fyddai wedyn yn gallu gwneud yr holl bethau uchod. A gallent hefyd godi tâl ar eu defnyddwyr i’w weld.

Rhai pethau arall y byddwn yn eu gwneud a ddim yn eu gwneud:

  • Efallai y byddwn yn gadael i bobl eraill ddefnyddio’ch creadigaeth. Ac weithiau, efallai y byddwn yn gadael iddynt ei golygu neu wneud pethau wedi’u hysbrydoli ganddi.
  • Fyddwn ni ddim yn eich talu amdano.
  • Rydym yn gobeithio ei ddefnyddio. Ond allwn ni ddim gwarantu hynny.
  • Fel arfer, rydym yn dangos eich enw wrth ochr yr hyn rydych yn ei bostio. Ond allwn ni ddim addo hynny.
  • Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes gennych ganiatâd i ddefnyddio unrhyw gerddoriaeth, delweddau, clipiau neu destun yn yr hyn rydych yn ei bostio.

Efallai y bydd telerau eraill

Weithiau, mae llwytho creadigaeth i’n gwasanaethau yn golygu defnyddio offer a ddarperir gan rywun heblaw’r BBC. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio WhatsApp i rannu eich straeon a’ch adroddiadau llygad-dyst gyda BBC News.

Weithiau bydd telerau ac amodau’r darparwr yn berthnasol i ddefnyddio’i offer. Darllenwch eu telerau nhw (gallwch chwilio amdanyn nhw ar-lein) gan y byddan nhw’n dweud wrthych beth gall y darparwr ei wneud gyda’ch creadigaeth pan fyddwch yn defnyddio’i offer.

Nodyn am eich “Hawliau Moesol”

Pan fyddwch yn llwytho rhywbeth, rydych yn ildio’ch hawliau moesol iddo. Mae hyn yn golygu y gallwn ei ddefnyddio heb nodi mai chi yw'r sawl sydd wedi’i greu.

Gallwn hefyd ei olygu neu ei newid heb eich caniatâd. Ac ni fydd gennych hawl i ddweud ein bod wedi’i drin mewn ffordd “fychanol”.

Mae rhagor am eich hawliau moesol fan hyn.

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: