Cyngor Cynulleidfa'r BBC yng Nghymru - Arolwg 2016

Cyflwyniad

Cyrff ymgynghorol i Ymddiriedolaeth y BBC, sef corff llywodraethu'r BBC, yw'r Cynghorau Cynulleidfa. Ceir pedwar Cyngor Cynulleidfa – ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Cynghorau Cynulleidfa wedi chwarae rhan bwysig wrth roi gwybodaeth i'r Ymddiriedolaeth am safbwyntiau, anghenion a diddordebau cynulleidfaoedd yn eu priod wledydd, ac am ba mor dda y mae'r BBC yn gwasanaethu'r cynulleidfaoedd hyn ac yn cyflawni ei bwrpasau cyhoeddus.

Mae'r Cynghorau wedi cyflwyno barn a safbwyntiau cynulleidfaoedd ac wedi dylanwadu ar waith yr Ymddiriedolaeth mewn sawl ffordd:

  • Maent wedi asesu pa mor dda y mae'r BBC yn perfformio i gynulleidfaoedd yn eu gwlad, yn fwyaf nodedig drwy adroddiad blynyddol i'r Ymddiriedolaeth. Cyhoeddir yr adroddiadau hyn.
  • Maent yn cyfrannu at broses gwneud penderfyniadau'r Ymddiriedolaeth, er enghraifft fel rhan o adolygiadau o wasanaethau neu bolisïau, neu benderfyniadau am newidiadau sylweddol i wasanaethau.
  • Maent yn nodi materion sy'n dod i'r amlwg sy'n bwysig i gynulleidfaoedd lleol sy'n llywio cynllun gwaith blynyddol yr Ymddiriedolaeth.

Caiff aelodau Cynghorau Cynulleidfa eu penodi gan Ymddiriedolaeth y BBC, fel gwirfoddolwyr annibynnol o'r tu allan i'r BBC. Caiff pob Cyngor ei gadeirio gan yr aelod o'r Ymddiriedolaeth ar gyfer y wlad berthnasol.

Bydd y Cynghorau yn weithredol tan fis Ebrill 2017, pan fydd yr Ymddiriedolaeth yn trosglwyddo ei chyfrifoldebau i Ofcom a Bwrdd newydd y BBC.


Rhagair gan yr Ymddiriedolwr Cenedlaethol

Mae'r Adroddiad hwn yn ddiweddglo ac yn arwydd o ddechrau newydd. Ar 2 Ebrill 2017, caiff Ymddiriedolaeth y BBC ei disodli gan Fwrdd Unedol newydd. Caiff swyddogaeth reoliadol yr Ymddiriedolaeth ei throsglwyddo i Ofcom a'r Bwrdd newydd fydd yn gyfrifol am lywodraethu. Yng Nghymru, daw gwaith y Cyngor Cynulleidfa, ar ei ffurf bresennol, i ben. Mae'r Siarter a'r Cytundeb newydd yn rhoi rhwydd hynt i'r Bwrdd newydd bennu strwythur corff olynol. Hoffwn erfyn ar y Bwrdd newydd hwnnw i symud yn ddi-oed i bennu strwythur newydd i'r BBC yng Nghymru a fydd yn herio'r Bwrdd Gweithredol ac yn llefaru ar ran anghenion a dyheadau darlledu'r wlad. Mae angen llais cryf ar Gymru mewn dyfodol sy'n newid yn gyflym ac mae angen iddi sefydlu'r llais hwnnw cyn gynted â phosibl.

Mae'r Ymddiriedolaeth a'r Cynghorau Cynulleidfa, dros gyfnod o ddeng mlynedd, wedi annog cywirdeb wrth ohebu ar faterion datganoledig ar raglenni Newyddion a Materion Cyfoes y rhwydwaith.  Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn ymwybodol o bwysigrwydd newyddion Cymru am 6.30pm wrth annog trafodaeth ac yn ymfalchïo yng nghyfran y rhaglen o'r gwylwyr sydd ar gael. Yn yr un modd, mae rhaglennu BBC Cymru yn boblogaidd ar BBC1, gan gynnwys ei ddarllediadau chwaraeon pwysig. Mae'r Cyngor wrth ei fodd â strwythur Pencadlys newydd BBC Cymru sy'n datblygu yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd, gan gyfrannu at ymdrechion i adfywio'r ardal ac yn wir, gan arwain y gwaith hwnnw. Mae hefyd yn ymfalchïo yn enw da'r Gerddorfa, ei chyfraniad yng Nghymru, i'r Proms ac i Radio 3 a'i hymweliad diweddar â Phatagonia. Ond mae hefyd yn ymwybodol o ddiffygion gwirioneddol yn y ffordd y caiff Cymru ei phortreadu ym maes Drama a Chomedi, ar y Rhwydwaith ac yn genedlaethol. Mae eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig a'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyfleu'r un farn. Felly croesawaf gyhoeddiad y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn ystod mis Chwefror eleni y caiff hyd at £8.5m o gyllid ychwanegol ei ddyrannu i raglennu Saesneg o Gymru ac am Gymru. Edrychaf ymlaen at weld y gwariant hwnnw ar ein sgriniau a'n ffonau symudol. Gwn y bydd BBC Cymru yn achub ar y cyfle yn frwd a chan ddangos talent wirioneddol.

Mae'r Cyngor wedi monitro cyfraniad BBC Cymru i S4C ac mae'n bleser gweld bod Pobol y Cwm yn boblogaidd iawn a bod y rhaglen Newyddion ar ei newydd wedd yn llwyddo i ddenu cynulleidfa gadarn. Ystyrir bod Radio Cymru a Radio Wales yn cael eu gwerthfawrogi ac yn bwysig iawn ond maent yn ei chael hi'n anodd cystadlu yn erbyn poblogrwydd eithriadol Radio 2 yng Nghymru a phatrymau gwrando cyfnewidiol. Mae Radio Cymru wedi arbrofi gydag arlwy digidol newydd (Mwy) a chyda dulliau llwyddiannus iawn o gyflwyno newyddion a deunydd cylchgrawn ar ffurf ddigidol (Cymru Fyw). Mae'r arbrofion hyn yn dangos bod BBC Cymru o ddifrif wrth geisio cyrraedd y gynulleidfa mewn ffordd newydd.

Hoffwn ddiolch i'm cydweithwyr ar y Cyngor Cynulleidfa am eu brwdfrydedd a'u hymrwymiad i anghenion y gynulleidfa.  Maent wedi bod yn grŵp gwirioneddol ymroddedig. Gobeithio y bydd Cyfarwyddwr anweithredol newydd Cymru yn gallu dod o hyd i grŵp ag amrywiaeth o gymunedau diddordeb yr un mor eang. Fel y Cadeirydd ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i'n Prif Gynghorydd yng Nghymru, Karl Davies, ac i Ysgrifennydd a Chydgysylltydd Llywodraethu'r Cyngor, Siôn Brynach, am ansawdd eu cyngor ac am eu heffeithiolrwydd eithriadol wrth gefnogi gwaith y Cyngor. Ac i Fwrdd Gweithredol BBC Cymru, yn arbennig Rhodri Talfan Davies, am ei barodrwydd i rannu gwybodaeth a chynnig atebion.

Bu'n fraint gwasanaethu fel Cadeirydd y Cyngor Cynulleidfa ac fel Ymddiriedolwr. Hoffwn ddiolch i'm cyd-aelodau yn yr Ymddiriedolaeth, ac i'r Cadeirydd, Rona, am eu cefnogaeth i'r BBC yng Nghymru ac yn fwy cyffredinol i'r gwledydd datganoledig. Mae'r Siarter a'r Cytundeb newydd yn cyfeirio mwy at anghenion y Gwledydd nag unrhyw Siarter flaenorol. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i'r Bwrdd Unedol newydd ac i'r strwythur newydd yng Nghymru wrth roi'r Siarter honno ar waith yn ystod y deng mlynedd nesaf. Fel bob amser, mae yna waith i'w wneud. 

Elan Closs Stephens

Ymddiriedolwr Cenedlaethol a Chadeirydd Cyngor Cynulleidfa Cymru 


Gweithgareddau'r Cyngor Cynulleidfa o fis Ebrill 2016 hyd at fis Ionawr 2017 

Eleni, canolbwyntiodd y Cyngor ar gyfleoedd i roi cyngor i'r Ymddiriedolaeth ar ddatblygiadau yn y trafodaethau am Siarter y BBC ac ar adolygiad gwasanaeth yr Ymddiriedolaeth o wasanaethau newyddion a gorsafoedd radio'r BBC yn y gwledydd.


Cynnydd y BBC tuag at gyflawni blaenoriaethau 2016 Cyngor Cynulleidfa Cymru o ran y gynulleidfa 

Yn ei Arolwg Blynyddol ar gyfer 2015-16, nododd y Cyngor y blaenoriaethau canlynol o ran y gynulleidfa ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r adran hon yn adolygu cynnydd tuag at y blaenoriaethau hyn hyd yma.

  • Bod BBC Cymru Wales yn cael yr adnoddau i gynyddu'r amrywiaeth o genres ac oriau o raglenni teledu Saesneg ar gyfer Cymru, gan nodi fod Pwyllgor Cymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2016 wedi argymell darparu £30 miliwn ychwanegol at gyllideb BBC Cymru Wales ar gyfer y gwasanaethau mae'n eu darparu i Gymru.
  • Bod y portread o Gymru mewn dramâu teledu'r rhwydwaith yn cael ei wella'n sylweddol cyn gynted â phosibl i fynd i'r afael â'r ffaith fod Cymru fwy neu lai yn anweledig yn y genre hwn.
  • Bod y portread o Gymru mewn comedi teledu'r rhwydwaith yn cael ei wella'n sylweddol cyn gynted â phosibl i fynd i'r afael â'r ffaith fod Cymru fwy neu lai yn anweledig yn y genre hwn.
  • Mae'r Cyngor wedi tynnu sylw'r Ymddiriedolaeth at y Flaenoriaeth sy'n ymwneud â phortread digonol o amrywiaeth y Deyrnas Unedig, a chydraddoldeb o ran portreadu rhywedd, am nifer o flynyddoedd. Mae'n gofyn bod yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i weithredu ar frys i sicrhau bod y BBC yn mynd i'r afael â hyn a pherfformiad is y BBC ymysg cynulleidfaoedd Asiaidd Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) a chynulleidfaoedd llai cyfoethog (C2DE). Mae hefyd yn ystyried bod angen strategaeth ar fyrder i sicrhau cynulleidfaoedd y dyfodol drwy ddenu cynulleidfaoedd ifanc at wasanaethau'r BBC.
  • Bod strategaeth yn cael ei llunio ar gyfer gweithio ar y cyd rhwng y BBC a chymunedau amrywiol, meithrin partneriaethau ar lefel leol, yn ogystal â lefel genedlaethol a'r Deyrnas Unedig yn ystod cyfnod y Siarter Frenhinol nesaf.
  • Y dylid ymchwilio i gynnwys rhagor o raglennu optio allan gan y Gwledydd ar amserlen y Rhwydwaith er mwyn rhoi mwy o amlygrwydd i'r rhaglenni teledu uchel eu gwerth a gynhyrchir ym mhob un o Wledydd y BBC ac i gymryd lle'r rhaglenni wedi eu hailadrodd a ddangosir ar hyn o bryd ar lawer o'r amserlen honno yn ystod y dydd. Byddai hyn yn helpu o ran adlewyrchu cymunedau amrywiol y Deyrnas Unedig yn well a sicrhau gwell portread o bedair gwlad gyfansoddol y Deyrnas Unedig.
  • Gan gydnabod gwelliannau o ran newyddion a materion cyfoes y rhwydwaith yn cyfeirio at berthnasedd storïau i wledydd y DU, dylai'r gwasanaethau sicrhau adlewyrchiad llawer gwell o newyddion o Gymru a gwledydd datganoledig eraill y DU yn ei wasanaethau blaenllaw.
  • Bod BBC Cymru Wales yn ystyried ffyrdd o lenwi'r bylchau yn yr ymwybyddiaeth o'i wasanaethau radio, teledu ac ar-lein ymhlith aelodau posibl o'r gynulleidfa, gan gydnabod bod aelodau'r gynulleidfa angen rhagor o gyfeirio a hysbysebu o ddeunydd y BBC a fyddai o ddiddordeb iddynt.
  • Bod y problemau dosbarthu hirdymor sy'n ymwneud â diffyg argaeledd BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ar DAB (a godwyd gan y Cyngor ar nifer o achlysuron blaenorol), ac argaeledd anghyson y gwasanaethau hyn ar FM, yn cael eu datrys fel mater o frys. Dylai'r BBC hefyd wneud popeth o fewn ei allu i liniaru'r amddifadedd pellach a brofir gan yr adrannau niferus hynny o'r gynulleidfa yng Nghymru sydd â mynediad at wasanaeth rhyngrwyd annigonol yn unig.
  • Bod dull cadarn a chynhwysfawr o fesur perfformiad darpariaeth y BBC ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol yn cael ei gynllunio er mwyn gwneud y broses o fesur ei berfformiad yn ystyrlon.

Wrth ystyried ymateb y BBC i'r blaenoriaethau hyn, noda'r Cyngor y pwyntiau canlynol:

  • cyhoeddodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ym mis Chwefror y byddai £8.5m o gyllid newydd ychwanegol bob blwyddyn i wasanaethau teledu Saesneg BBC Cymru Wales i Gymru erbyn 2019/20, i'w fuddsoddi mewn amrywiaeth o genres.  Ychwanegodd mai'r nod oedd y dylid darlledu o leiaf hanner y rhaglennu hwn ar sianelau rhwydwaith y BBC, a thrwy hynny, wella'r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu ar rwydwaith y BBC. Cyhoeddodd hefyd ei gynlluniau i lansio sianel iPlayer newydd i BBC Cymru, gan ddarparu cartref newydd i raglennu o Gymru. Mae'r Cyngor yn croesawu'r cyhoeddiad hwn ac yn gobeithio y bydd yn ysgogi adfywiad gwirioneddol o ran teledu a wneir yng Nghymru i Gymru.
  • mae'n croesawu'r ymrwymiad yn y Siarter newydd i wella'r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu ar newyddion rhwydwaith y BBC ac mewn genres eraill, ond yn nodi y gwnaed ymrwymiadau o'r fath yn y gorffennol heb fawr newid gwirioneddol ac felly cred y dylid rhoi trefn briodol ar waith ar gyfer goruchwylio'r broses hon o fewn y trefniadau llywodraethu newydd.
  • mae'n croesawu Strategaeth Amrywiaeth y BBC a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ogystal â'r enghreifftiau o gydweithio megis "Tower project" y BBC yn 2016. (Cyfuniad o ddigwyddiadau, rhaglenni a gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol ar radio'r BBC ac ar-lein oedd y prosiect hwn wedi'i anelu at bobl sy'n byw yn y blociau tŵr yn Butetown, Caerdydd a'r cyffiniau). Mae'r Cyngor yn disgwyl gweld canlyniadau mesuradwy o ran portreadu amrywiol garfanau'r boblogaeth 
  • mae'n croesawu'r cynnydd sy'n mynd rhagddo o hyd wrth gyflwyno gwasanaethau DAB ac yn annog y BBC ac Ofcom i barhau i ymdrin â hyn ar fyrder
  • mae'n cydnabod yr heriau wrth fesur effaith ddigidol cynnwys a deunydd y BBC ar safleoedd trydydd parti ond yn annog y BBC i barhau â'i ymdrechion yn hyn o beth yn ogystal ag ystyried cyfleoedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd presennol drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Perfformiad y BBC yng Nghymru yn 2016 

Allbwn BBC Cymru Wales

 

Croesawodd y Cyngor lwyddiant parhaus allbwn cenedlaethol BBC Cymru Wales ar y teledu, radio ac ar-lein, a nododd fod gwerthfawrogiad i gynnwys teledu BBC Cymru yn parhau'n uwch na chynnwys teledu rhwydwaith y BBC a'i fod yn denu cyfran uwch o'r gynulleidfa.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn pryderu fod cyrhaeddiad wythnosol rhaglenni teledu BBC Cymru ar BBC One a BBC Two, ar yr un sail, wedi lleihau o 34% yn 2011 i 30% yn 2016. Rydym ar ddeall mai'r rheswm am hyn yw nad oes amrywiaeth mor eang o raglenni ac nad yw'r rhaglenni hynny yn cael eu darlledu mor aml. Trechwyd hyn drwy gyflwyno enghreifftiau o 'dymhorau' rhaglennu effaith uchel a thrwy amserlennu rhaglenni er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl. 

Cred y Cyngor fod y gostyngiad hwn yn ategu ei farn ei bod yn hen bryd cynyddu'r cyllid a ddarperir ar gyfer rhaglenni teledu Saesneg a wneir yng Nghymru i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Rydym yn cefnogi honiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid buddsoddi o leiaf £30m ychwanegol yn y maes gweithgaredd hwn gan BBC Cymru.

Er gwaethaf rhywfaint o ostyngiad o ran cyrhaeddiad cynulleidfa Radio Cymru a Radio Wales yng Nghymru, mae'r Cyngor o'r farn bod perfformiad y ddwy orsaf wedi bod yn gymharol sefydlog ac yn unol â'r gostyngiad cyffredinol o ran gwrandawyr ar gyfer holl orsafoedd Radio'r BBC. Ar ôl cyfarfod â Golygyddion y ddwy orsaf yn rheolaidd, mae'r Cyngor yn cefnogi'r camau a gymerir ganddynt.

Hoffai'r Cyngor longyfarch Radio Cymru wrth iddi ddathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu (bydd Radio Wales yn dathlu'r un achlysur ar ddiwedd 2018). Cred fod cenedlaethau o siaradwyr Cymraeg wedi cael eu hysbysu, eu haddysgu a'u diddanu gan yr orsaf. Mae aelodau'r Cyngor yn edrych ymlaen at glywed am ganlyniad cynllun peilot Radio Cymru Mwy lle y cynigiodd yr orsaf allbwn amgen bob bore am fis ar-lein ac yn ne-ddwyrain Cymru ar DAB. Rhoddodd hyn gyfle i'r BBC brofi'r dechnoleg yn ogystal â chynnig llwyfan ar gyfer talent cyflwyno newydd.

Mae'r Cyngor wedi clywed pryderon gan y gynulleidfa am newidiadau helaeth i'r amserlen ar Radio Wales yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i'r orsaf gynnwys mwy o gynnwys llafar yn ystod y dydd. Roedd aelodau'r gynulleidfa o'r farn nad oedd yr orsaf bellach yn adlewyrchu eu cymunedau nac yn ymgysylltu â hwy fel o'r blaen, ac mae'r Cyngor o'r farn y dylai'r orsaf anelu at ailgysylltu â'r cymunedau hynny fel mater o flaenoriaeth. 

Mae'r Cyngor o'r farn bod gwasanaethau ar-lein BBC Cymru wedi cael blwyddyn lwyddiannus hefyd gyda'r gwasanaethau Saesneg yn llwyddo i gynnal lefelau perfformiad o bron i 4 miliwn o borwyr unigryw bob wythnos. Llwyddodd Cymru Fyw, y gwasanaeth ar-lein a'r ap Cymraeg, hefyd i gynyddu ei ddefnyddwyr gyda mwy na 60,000 o borwyr unigryw bob wythnos erbyn hyn, sef cynnydd o 10,000 dair blynedd yn ôl. Noda fod dwy ran o dair o gynulleidfa Cymru Fyw o dan 45 oed. Parhaodd llwyddiant cynnwys S4C ar BBC iPlayer hefyd gan ddenu mwy na 120,000 o borwyr unigryw bob wythnos.

Allbwn rhwydwaith y BBC yng Nghymru ar radio, teledu ac ar-lein

Noda'r Cyngor fod cymeradwyaeth gyhoeddus i'r BBC a'r canfyddiad o werth am arian y BBC yng Nghymru yn agos at y cyfartaledd ar gyfer y DU - sef 6.9 a 6.0 yn y drefn honno - ac yn sylweddol well na chanfyddiadau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon (Ffynhonnell: Traciwr Atebolrwydd ac Enw Da'r BBC, pob oedolyn 16+ oed, Ch3 2016).

Mae canfyddiadau'r gynulleidfa yng Nghymru o holl deledu'r BBC a holl radio'r BBC yng Nghymru wedi parhau'n gymharol sefydlog ond cafwyd rhywfaint o ostyngiad o ran gwrandawyr yn unol â'r duedd ar i lawr yng nghyfanswm nifer y gwrandawyr radio ledled y DU.

Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod pobl yn gynyddol yn cael gafael ar gynnwys y BBC drwy safleoedd trydydd parti, megis y cyfryngau cymdeithasol, ac nad oes modd mesur defnydd drwy'r safleoedd hyn ar hyn o bryd. Gydag adroddiadau diweddar gan Ofcom yn awgrymu bod 99% o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn unrhyw wythnos benodedig ac yn treulio cryn dipyn o amser yn gwneud hynny, mae hwn yn fater pwysig i'r BBC.

Y BBC yng Nghymru 2007-2017

Wrth i Siarter bresennol y BBC ddod i ben yn 2017, mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn bwrw golwg dros ddegawd lle y gwrandawodd ar aelodau o'r gynulleidfa o wahanol rannau o gymdeithas Cymru ledled y wlad. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd sawl thema a gododd dro ar ôl tro yn y sylwadau a wnaed i'r Cyngor. Roedd diffyg mynediad i wasanaethau i bob rhan o'r gynulleidfa yn broblem barhaus a chroesawodd Cyngor Cynulleidfa Cymru ymyriad cynnar yr Ymddiriedolaeth wrth lansio Freesat. Roedd hefyd yn falch gweld gwell mynediad i Radio Wales ar FM ac i Radio Cymru a Radio Wales ar DAB ac mae'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn parhau yn ystod cyfnod y Siarter nesaf.

Mae'r Cyngor wedi clywed bod y ffaith bod cryn dipyn o gynyrchiadau Rhwydwaith y BBC yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru, yn cynnwys drama yn bennaf yn stiwdios pwrpasol Porth y Rhath, yn destun balchder i bobl o bob cwr o Gymru. Bu cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn gweld Cymru gyfoes yn cael ei phortreadu mewn cyfresi megis Torchwood a'r gyfres Y Gwyll/Hinterland ac mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn gobeithio y gellir gwneud cynnydd llawer mwy yn y dyfodol wrth gyfleu bywyd yng Nghymru ar wasanaethau Rhwydwaith y BBC na'r cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod y Siarter ddiwethaf.  

Bu pryder cynulleidfaoedd am ddyfodol S4C a'i gwasanaethau yn thema gyson drwy gydol y degawd a bu'r Cyngor wrth ei fodd wrth weld y gydberthynas waith gadarn a fu rhwng BBC Cymru ac S4C, a rhwng yr Ymddiriedolaeth ac Awdurdod S4C, yn ystod y cyfnod.  Mae'n galonogol gweld bod Newyddion, a'r opera sebon ddyddiol, Pobol y Cwm, y mae'r BBC yn gyfrifol am gynhyrchu'r ddau ohonynt, yn parhau'n gonglfeini yn amserlen y sianel yn dilyn yr ymdrechion adfywio creadigol a wnaed yn ddiweddar. Roedd y Cyngor yn arbennig o falch clywed bod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi cyfres Y Gwyll/Hinterland, sef cydweithrediad rhwng S4C, BBC Cymru a theledu Rhwydwaith y BBC. Bu llwyddiant ap newyddion BBC Cymru, Cymru Fyw, gyda chynulleidfa ifancach, ym marn y Cyngor, yn ffordd bwysig o wella'r gwasanaeth a ddarperir i gynulleidfaoedd yn Gymraeg.

Bydd symud i'r Ganolfan Ddarlledu newydd yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn 2019 yn cynnig cyfleoedd i adfywio creadigrwydd BBC Cymru Wales ac i wella'r gydberthynas â chynulleidfaoedd.

Blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol i Fwrdd y BBC

Yn ogystal â'r materion a nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, mae'r Cyngor wedi nodi'r tri phwynt isod fel meysydd y dylai Bwrdd newydd y BBC weithredu arnynt fel mater o flaenoriaeth:

Bu amrywiaeth a nifer y rhaglenni teledu Saesneg a wneir yng Nghymru i Gymru yn destun pryder i'r Cyngor ers peth amser. Credwn y dylid ymdrin â hyn fel mater o flaenoriaeth. Mae'r Cyngor yn croesawu'r ymrwymiadau a wnaed gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i fuddsoddi cyllid ychwanegol yn y maes hwn, ond, cred fod yn rhaid i'r ymrwymiad ariannol hwn olygu buddsoddiad gwirioneddol ac ychwanegol.

Portreadu - mae'r Cyngor o'r farn mai un o elfennau canolog darlledu gwasanaeth cyhoeddus yw y dylai pawb sy'n talu ffi'r drwydded weld eu hunain wedi'u portreadu yn allbwn y BBC - mae hyn yn cynnwys hunaniaethau rhyw, cenedlaetholdeb, ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd ac oedran. Mae hyn yn hanfodol ar draws yr amrywiaeth gyfan o genres ond yn arbennig yng nghyd-destun newyddion, drama a chomedi rhwydwaith y BBC.

Hyrwyddo a dosbarthu - mae'r Cyngor yn pryderu o hyd am yr arbedion sylweddol a weithredwyd gan y BBC a gafodd effaith ar swyddogaethau cymorth y Gorfforaeth megis marchnata a hyrwyddo. Mae'r mater hwn wedi cael ei godi'n fwy fwy rheolaidd yn nigwyddiadau allgymorth y Cyngor i gynulleidfaoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gan mai cynulleidfaoedd sy'n talu am allbwn a gwasanaethau'r BBC, mae'n hanfodol eu bod yn cael gwybod amdanynt.

Mae dosbarthu yn destun pryder arall mewn perthynas â gwasanaethau darlledu megis argaeledd Radio Cymru a Radio Wales ar DAB, a Radio Wales ar FM, ond hefyd mewn perthynas â chost ac argaeledd band eang.

Atebolrwydd cynulleidfaoedd: Cred y Cyngor fod yn rhaid i'r BBC barhau i ymgysylltu â'i gynulleidfaoedd ledled y DU mewn ffordd ystyrlon.

Cred fod technoleg yn un ffordd y gellir cyrraedd cynulleidfaoedd a'u gwahodd i ymateb (a byddai'n croesawu pwyslais newydd ar gyfryngau digidol a chymdeithasol fel ffordd ychwanegol o ymgysylltu), ond nad oes un ateb sy'n briodol i bawb. Rydym yn cydnabod y gellid ei defnyddio fel ffordd o gyflwyno eitemau o ddiddordeb i aelodau unigol o'r gynulleidfa.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn pryderu, maes o law, y gallai fod yn rhaid mewngofnodi i myBBC er mwyn gallu defnyddio gwasanaethau'r BBC, gan y gellid dehongli hyn fel cam cyntaf tuag at gyflwyno'r BBC fel 'gwasanaeth tanysgrifio'.

Mae'r Cyngor o'r farn ei bod yn hanfodol ystyried sut y gellir cyrraedd cynulleidfaoedd nas clywir yn aml, sydd wedi'u hynysu mewn perthynas â'r BBC, yn ddaearyddol ac yn dechnolegol. Yn ogystal â chasglu sylwadau ac ymatebion yn uniongyrchol gan aelodau'r gynulleidfa, bu gweithgareddau allgymorth y Cyngor i gynulleidfaoedd hefyd yn ffordd i gynulleidfaoedd deimlo cysylltiad uniongyrchol ac agos gyda'r BBC yn eu cymunedau, a fu hefyd o werth mawr yn ystod y degawd diwethaf.

Mae'r Cyngor o'r farn mai un o'i lwyddiannau allweddol fu nodi materion a gyflwynwyd gan y gynulleidfa y gellir eu hystyried fel rhan o waith ymchwil mwy ffurfiol i'r gynulleidfa. Dyma a ddigwyddodd yn 2008 pan archwiliodd yr Ymddiriedolaeth gywirdeb a natur ddiduedd darllediadau newyddion rhwydwaith y BBC o faterion a oedd yn ymwneud â'r gwledydd datganoledig. Rydym hefyd wedi nodi materion megis prinder gwasanaeth DAB ar gyfer Radio Wales a Radio Cymru, a diffyg portreadau o Gymru ar y teledu drwy'r dull hwn.

Mae'r Cyngor wedi ceisio deall y gynulleidfa'n well drwy gynnal 18 o ddigwyddiadau allgymorth i gynulleidfaoedd bob blwyddyn ledled Cymru gyda chynulleidfaoedd o wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol. Cred y Cyngor y byddai methu â pharhau â'r gwaith hwn ar ryw ffurf yn gam yn ôl. Cred yn gryf hefyd y dylid sefydlu corff ymgynghorol penodol i gynrychioli cynulleidfa'r BBC yng Nghymru, fel y bu ers 1952.