Y system cylchrediad gwaed mewn bodau dynolCelloedd y gwaed

Mae’n hanfodol i iechyd bod y system cylchrediad yn gweithio’n iawn. Mae gwaed yn cludo sylweddau o gwmpas y corff ac yn cael gwared ar wastraff gwenwynig. Mae hefyd yn amddiffyn rhag clefydau.

Part of BiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Celloedd y gwaed

Mae’r yn cynnwys y canlynol:

  • gwaed
  • pwmp (y galon) i wthio’r gwaed o gwmpas y corff
  • system o diwbiau i ddal y gwaed (rhydwelïau, gwythiennau a chapilarïau)

Y gwaed yw’r cyfrwng cludiant – mae’n cludo sylweddau i holl gelloedd y corff, ac yn cael gwared ar wastraff. Mae pedair prif ran o’r gwaed:

  • celloedd coch y gwaed
  • celloedd gwyn y gwaed
  • platennau
  • plasma

Celloedd coch y gwaed

Gwaith celloedd coch y gwaed yw cludo ocsigen. Maen nhw’n amsugno ocsigen o’r ysgyfaint a’i gludo trwy bibellau gwaed tenau. Mae’r ocsigen yn cael ei ryddhau i gelloedd y corff sydd yn ei ddefnyddio ar gyfer .

Mae gan gelloedd coch y gwaed addasiadau sy’n eu gwneud yn addas ar gyfer hyn:

  • maen nhw’n cynnwys – protin arbennig sy’n cludo ocsigen
  • does ganddyn nhw ddim er mwyn iddyn nhw allu cynnwys mwy o haemoglobin
  • maen nhw’n fach a hyblyg er mwyn iddyn nhw allu ffitio drwy bibellau gwaed tenau
  • mae ganddyn nhw siâp deugeugrwm (siâp disg gwastad) i gynyddu arwynebedd eu harwyneb ar gyfer amsugno ocsigen
Diagram o ddwy o gelloedd coch y gwaed. Mae un yn olwg cynllun o uwchben, a'r llall yn drawstoriad. Mae Cellbilen, Haemoglobin ac Arwyneb ceugrwm wedi'u labelu.

Celloedd gwyn y gwaed

Celloedd gwyn y gwaed sy’n amddiffyn y corff rhag clefydau. Mae’r rhan fwyaf o gelloedd gwyn y gwaed yn fath o gell o’r enw ffagocytau. Mae’r ffagocytau’n amlyncu a dinistrio fel .

Diagram o gell wen y gwaed yn amgylchynu bacteria. Mae Cnewyllyn, Cytoplasm a Cellbilen wedi'u labelu ar y gell wen.

Dyma beth sy’n digwydd:

  • mae’r ffagocyt yn amgylchynu’r gell facteriol
  • caiff y gell bacterial ei thorri lawr gan tu fewn i’r ffagocyt

Mae’r broses o dreulio’r pathogen yn cael ei galw’n .

Mae ffagocytau yn pasio drwy furiau pibellau gwaed i’r feinwe sy’n eu hamgylchynu