Adeiledd planhigionAdeiledd y ddeilen

Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.

Part of BiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Adeiledd y ddeilen

Mae gan adeiledd deilen addasiadau er mwyn gallu cyflawni yn effeithiol.

Mae deilen angen:

  • ffordd i gludo dŵr i’r ddeilen, a i rannau eraill o’r planhigyn
  • ffordd o gyfnewid carbon deuocsid ac ocsigen
  • y gallu i amsugno egni golau yn effeithlon

Amsugno egni golau

Mae golau’n cael ei amsugno ym meinwe ddeilen. Mae celloedd palisâd ar ffurf colofn ac yn llawn dop o . Maen nhw wedi eu gosod yn agos iawn at ei gilydd fel bod llawer o egni golau yn gallu cael ei amsugno.

Trawstoriad deilen yn dangos Cwtigl cwyraidd, Epidermis uchaf, Mesoffyl palisâd, Mesoffyl sbyngaidd yn cynnwys Bwlch aer. Epidermis isaf yn cynnwys Celloedd gwarchod â chloroplastau o gwmpas Stoma.
Figure caption,
Trawstoriad o ddeilen

Nodweddion dail a’u swyddogaethau

NodweddSwyddogaeth
Arwynebedd mawrAmsugniad golau mwyaf
TenauPellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
CwtiglHaen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen
NodweddArwynebedd mawr
SwyddogaethAmsugniad golau mwyaf
NodweddTenau
SwyddogaethPellter byr i garbon deuocsid dryledu i mewn i gelloedd dail
NodweddCwtigl
SwyddogaethHaen wrth-ddŵr gwyraidd sy’n lleihau colledion dŵr. Mae'n dryloyw i adael i olau gyrraedd y ddeilen

Rôl stomata

Mae’r yn rheoli sut mae’r ddeilen yn cyfnewid nwyon. Mae modd agor neu gau pob stoma yn dibynnu ar ba mor ydy ei gelloedd gwarchod.

Mae’r stomata yn gallu agor a chau i wneud y canlynol:

  • rheoleiddio trydarthiad
  • caniatáu cyfnewid nwyon
Trawstoriad drwy ddeilen. Cell epidermaidd, Cloroplast, Mur allanol tenau, Stoma, Mur mewnol trwchus, Cnewyllyn, a Celloedd gwarchod wedi'u labelu.

Mae carbon deuocsid, ocsigen ac anwedd dŵr i mewn (neu allan) o’r ddeilen yn digwydd yn bennaf pan mae’r stomata ar agor.