Gweld y Gorwel gan Aneirin KaradogCefndir a chyd-destun

Mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n ymdrin â themâu cyfoes. Mae’n defnyddio ailadrodd i ddisgrifio undonedd bywyd person sy'n gaeth i gyffuriau yn ceisio adfer ei hun.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Mae’r gerdd hon yn tynnu sylw at broblem sy’n rhy gyfarwydd mewn cymdeithas, sef caethiwed i gyffuriau. Dan bwysau bywyd a mae’n hawdd mynd yn gaeth i sawl peth ond yma y ‘druggie’ sydd mewn ‘rehab’ a chyflëir diflastod ei ‘daith hunanol’ wrth iddo geisio torri’n rhydd o cyffuriau.

Englyn 1

Cawn yr argraff nad yw’r cymeriad yn y gerdd yn cael cysylltiad ag unrhyw un wrth dderbyn ei driniaeth. Gall y ‘colli nabod’ gyfeirio at deulu a ffrindiau nad yw’n cael eu gweld ond hefyd gall olygu ei fod wedi colli nabod arno ef ei hun hefyd o dan ddylanwad cyffuriau. Mae’r teimlad o unigrwydd ac unigedd yn dwysáu gyda’r cyfeiriad at y sŵn traed / sy’n troi’r awr ddiddarfod. Gan nad oes awgrym pwy yn union sy’n cerdded yn ôl a blaen mae’n debyg mai staff y clinig cyffuriau ydyn nhw yn dod i gadw llygad arno bob awr. Mae awgrym nad oes ganddo gloc i gyfri’r oriau ac mae amser yn llusgo. Sŵn y traed yw’r arwydd fod awr arall wedi pasio.

Englyn 2

Dim ond bodoli y mae, yn gaeth i reolau ei driniaeth ac mae tôn gron, ailadroddus yr englyn yn cyfleu undonedd a diflastod ei fywyd ar hyn o bryd. Ond ar ddiwedd y llinell olaf mae tinc o obaith – mae e'n dod o’i rigol. Yn yr englyn yma deallwn mai cyffuriau yw ei broblem ac mae’r llinell yn cysylltu’r dweud gyda dechrau'r englyn nesaf sef ei fod ‘o dan label’

Englyn 3

Mae claf yn cael ei ddiffinio gan ei broblem neu ei gyflwr - rhaid iddo wynebu ei gaethiwed i gyffuriau a chyfaddef mai ‘druggie’ yw e cyn y gall symud ymlaen. Mae’r llanast y mae ynddo yn ei ergydio’n gorfforol ac yn feddyliol ac yn ei chwalu, ond mae gobaith eto ar ddiwedd yr englyn hwn gan fod meddwl am ei gariad yn rhoi rhywbeth iddo edrych ymlaen ato. Mae o deitl y gerdd i'w weld yn y dyfyniad gwrid ei gariad yw gorwel. Edrychwn tua’r gorwel mewn gobaith ac mae gwrid yr haul yn gwawrio ar y gorwel yn symbolaidd o oleuni ym mhen draw’r tywyllwch. Fedrwn ni ddim gweld y gorwel nes daw golau dydd.

Englyn 4

Mae’r ddelwedd o olau dydd yn cael ei chynnal yn yr englyn olaf - ac yn sgil hyn cawn yr argraff fod y ferch yn dod i edrych amdano. Mae’r englyn olaf yn gwrthgyferbynnu â’r naws sy'n cael ei chreu yn yr englyn cyntaf - melysa’n bod yn hytrach na diflasa’n bod ac mae awgrym o gyffro ac o ddechrau ail-flasu byw unwaith yn rhagor yn y gair ‘ias’.