Y Coed gan GwenalltNeges ac agwedd y bardd

Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Neges ac agwedd y bardd

Dwy brif neges y gerdd yw cofio am y rhai a fu farw yn enw rhyfel a sicrhau na fyddwn ni’n dechrau rhyfel arall. Ein perswadio i gadw heddwch yw bwriad Gwenallt. Fel Cristion, mae Gwenallt yn credu’n gryf yn hawliau ei gyd-ddyn a’r angen i amddiffyn y byd.

Ni ddylem fod yn rhy barod i feirniadu eraill cyn ystyried ein gweithredoedd ni ein hunain yw un o negeseuon eraill y gerdd. I’r bardd, rhyfel yw rhyfel ymhob oes ac nid yw dynoliaeth yn dysgu o un rhyfel i’r llall.