Gwrthdaro dros adnoddau
Nid yw gwrthdaro yn beth newydd ac mae gwahanol fathau o wrthdaro wedi digwydd dros y canrifoedd. Mae’r rhain yn cynnwys y Goncwest Normanaidd a Brwydr Hastings yn 1066, ac yn fwy diweddar, rhyfeloedd fel yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) neu’r Rhyfel Oer(1947-1991).
Mae gwrthdaro'n gallu digwydd o ganlyniad i anghydfod ynglŷn â defnydd tir neu adnoddau, dros awdurdod gwleidyddol a hawliau tiriogaethol. Mae crefydd a delfrydau hefyd yn gallu effeithio ar sut mae gwahanol wledydd yn rhyngweithio â'i gilydd a gall arwain at wrthdaro.
Gwylio: Fideo Gwrthdaro dros adnoddau
Gwylia’r clip byr hwn i ddysgu mwy am wrthdaro dros adnoddau.
Mae pob gwrthdaro yn hanes y byd wedi ei achosi gan ei amgylchiadau unigryw ei hun. Gall crefydd, yr economi, chwyldro diwydiannol ymysg ffactorau eraill fod yn gyfrifol am wrthdaro.
Ac yna rheoli adnoddau. Gallai’r rhain fod yn gorfforol - dŵr, olew, aur - neu’n ideolegol: adnoddau sydd ddim yn bodoli’n y byd corfforol, ond sydd yr un mor bwysig. Ffydd. Ffyddlondeb. Parch y bobl. Gall gwrthdaro dros adnoddau ddigwydd yn unrhyw le. Gan gynnwys… Cymru.
Yn 1957, penderfynodd llywodraeth Prydain bod angen creu cronfa ddŵr ar safle Capel Celyn yng Ngwynedd ar gyfer trigolion Lerpwl a’r cyffiniau. Hon oedd un o’r cymunedau olaf i fod yn gwbwl Gymraeg eu hiaith.
Er gwaethaf protestiadau mawr, gweithredu uniongyrchol, a gwrthdaro rhwng protestwyr a’r awdurdodau, cafodd y pentre - a chwm Tryweryn o’i gwmpas - ei foddi yn 1965.
Ni chafodd unrhyw waed ei golli yn ystod ymgyrch Tryweryn. Ond mae dal yn bosib i ni ei ddiffinio fel ‘gwrthdaro’ - un sydd, i raddau, yn dal i gael ei ymladd heddiw.
Yn 1982, ymosododd yr Ariannin ar Ynysoedd y Falklands, neu’r Malvinas, sy’ tua dau gant chwe deg o forfilltiroedd o arfordir De America. YDeyrnas Unedig oedd yn hawlio rheolaeth o’r ynysoedd ond roedd yr Ariannin eu heisiau nhw. Ar unrhyw gyfrif.
Aeth y gwrthdaro yn ei flaen am dri mis, gyda’r Ariannin yn ildio ar 14 Mehefin. Lladdwyd 900 cant o bobl yn ystod y cyfnod yna. Yn ogystal â chyfoeth, roedd Ynysoedd y Falklands yn bwysig am resymau ideolegol. Roedd yr Ariannin, yn syml iawn, yn credu eu bod yn perthyn iddyn nhw.
Yn ystod Rhyfel y Falklands - fel mewn llawer iawn o ryfeloedd drwy hanes - cafodd ymgyrchoedd propaganda eu defnyddio gan y ddwy ochr.Bwriad ymgyrchoedd propaganda yw darbwyllo pobl bod eu llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau iawn - gan gynnwys y penderfyniad i ymladd. Mae propaganda mor hen â gwrthdaro ei hun, ac mae’r syniad o ‘ryfel gyfiawn’ yn gyffredin i sawl crefydd, gan gynnwys Catholigiaeth.
O’r holl resymau i gyfiawnhau gwrthdaro, mae un yn cael ei ddefnyddio yn amlach nag unrhywbeth. Arian.
Bob blwyddyn, mae dros dri triliwn o ddoleri Americanaidd yn pasio drwy Fôr De China: rhan o’r môr rhwng China, Viet Nam, Malaysia, Indonesia a’r Pilipinas. Mae’r gwledydd yma’n rheoli tiriogaeth i fyny at 200 o forfilltiroedd o’r arfordir. Ond mewn dyfroedd rhyngwladol, does neb wir yn rheoli’r cyfoeth anhygoel yma.
Ond ers 2013, mae China wedi bod yn ymestyn ei thiriogaeth: yn hawlio Môr De China, o fewn y linell goch, drwy gymryd ynysoedd ac adeiladuarnyn nhw. Yn gwthio ymhellach ac ymhellach i’r môr. Sy’n golygu bod y dyfroedd rhyngwladol ’na… ddim mor rhyngwladol bellach.
Mae’n fath rhyfedd o wrthdaro. Ond wrth i wledydd y byd gasglu mwy o arfau niwclear, a rhyfeloedd traddodiadol yn llai tebygol, mae’n bosib y bydd rhaid i ni ailddiffinio ystyr y gair ‘gwrthdaro’ fel rydyn ni wedi ei wneud dro ar ôl tro.
Gwrthdaro yng Nghymru
Yn 1957, cafodd mesur preifat a noddwyd gan Gyngor Dinas Lerpwl ei roi gerbron Senedd San Steffan i greu cronfa ddŵr yng nghwm Tryweryn, ger y Bala yng Ngwynedd. Roedd hyn i ateb yr angen cynyddol am ddŵr ar gyfer cartrefi a diwydiant yn Lerpwl a’r Wirral. Roedd yn golygu y byddai pentref Capel Celyn yn cael ei foddi.
Roedd Cyngor Dinas Lerpwl yn gallu cael awdurdod drwy Ddeddf Seneddol. Roedd hyn yn golygu bod y datblygiad yn gallu osgoi unrhyw ymchwiliad cynllunio yng Nghymru lle byddai'n bosib cyflwyno unrhyw ddadleuon yn erbyn y cynnig.
Sbardunodd boddi Tryweryn wrthdaro rhwng y Cymry a Llywodraeth y DU. Cynhaliwyd sawl protest heddychlon a gorymdeithiodd cannoedd o bobl, gan gynnwys trigolion Capel Celyn, drwy strydoedd Lerpwl. Ar 10 Chwefror 1963, fe wnaeth y grŵp milwriaethus Mudiad Amddiffyn Cymru blannu bom a difrodwyd offer trydanol ar safle adeiladu’r argae mewn ymgais i atal boddi’r cwm.
Roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwrthwynebu’r cynllun a phleidleisiodd 27 o 36 Aelodau Seneddol Cymru yn erbyn ail ddarlleniad y mesur heb yr un ohonyn nhw’n ei gefnogi. Er hynny, cafodd y cwm ei foddi yn 1965.
Collwyd y pentref a’i adeiladau, gan gynnwys swydda’r post, yr ysgol a’r capel, gyda ffermydd yn cael eu boddi hefyd. Cafodd y trigolion lleol Cymraeg eu hiaith yn bennaf eu dadleoli ac fe gollodd rhai eu bywoliaeth.
Effaith gwrthdaro
Mae gwrthdaro yn achosi nifer o wahanol broblemau, ac fel arfer, mae’r rhain yn cael eu teimlo fwyaf mewn gwledydd sy'n datblygu.
Gall gwrthdaro sbarduno amrywiaeth o faterion eraill fel:
terfysgaeth - pan mae grwpiau yn ceisio dylanwadu ar lywodraethau drwy weithredoedd treisgar
rhyfel cartref - pan mae grwpiau sy'n gwrthwynebu ei gilydd yn defnyddio trais arfog i ennill rheolaeth ar wlad
rhyfel - pan fydd trais arfog yn cael ei ddefnyddio gan un wlad yn erbyn gwlad arall am bŵer a rheolaeth
Mae'r problemau hyn yn gallu achosi dioddefaint eang oherwydd bod pobl yn cael eu dal yn y gwrthdaro ac mewn perygl o gael eu niweidio gan grwpiau arfog. Mae eraill yn cael eu gorfodi i fudo i wledydd eraill, yn aml fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches er mwyn dod o hyd i ddiogelwch.
Gall gwrthdaro hefyd gael effaith niweidiol ar allu gwlad i ddatblygu pan fydd arweinwyr yn gwario arian ar arfau yn hytrach na seilwaith newydd, addysg a gofal iechyd ar gyfer ei phobl. Mae rhyfel a therfysgaeth yn aml yn gallu arwain at lanweithdra a hylendid gwael, lledaenu clefydau a newyn.
Datrys gwrthdaro
Mae troi cyfnod o wrthdaro yn gyfnod heb wrthdaro yn cael ei alw’n ddatrys gwrthdaro. Mae'n bosib cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:
cyfaddawdu – y ddau grŵp sy’n gwrthdaro yn dod i gytundeb a fydd yn aml yn golygu bod y ddwy ochr yn ildo mewn rhai ffyrdd
dadl ddemocrataidd - sefydliadau yn rhoi cyfle i grwpiau sy’n gwrthwynebu ei gilydd i drafod eu barn am y sefyllfa gyfredol ac am gynlluniau ar gyfer symud ymlaen, bwrw pleidlais a chadw at benderfyniad y mwyafrif. Cyn belled â bod pawb yn cytuno ac yn cadw at y penderfyniad cyffredinol, mae modd osgoi gwrthdaro.
Mae nifer o sefydliadau yn helpu i leihau effeithiau gwrthdaro drwy ddarparu adnoddau, gofal iechyd ac addysg. Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn canolbwyntio ar ymdrechion adeiladu heddwch ar draws y byd drwy gryfhau gallu cenedlaethol i reoli gwrthdaro.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn ganolog i ymdrechion rhyngwladol i gadw heddwch mewn gwledydd fel Cambodia, Affganistan, Haiti a Sudan. Mae’n ceisio sicrhau heddwch drwy gynnig cymorth rhyngwladol ac ymyrraeth fel:
- monitro cadoediad
- helpu i ddychwelyd ffoaduriaid a phobl sydd wedi’u dadleoli
- helpu i drefnu a monitro etholiadau i ddewis llywodraethau newydd
More on Gwrthdaro a heddwch
Find out more by working through a topic
- count3 of 3
- count1 of 3